Adnoddau Ymchwil
I’r hanesydd, mae Aberystwyth yn un o leoliadau ymchwil rhagorol y DU, yn ogystal â’r brif ganolfan ar gyfer astudio pob agwedd ar hanes Cymru yn ei gyd-destun Prydeinig, Ewropeaidd a rhyngwladol.
Adnoddau Ymchwil
I’r hanesydd, mae Aberystwyth yn un o leoliadau ymchwil rhagorol y DU, yn ogystal â’r brif ganolfan ar gyfer astudio pob agwedd ar hanes Cymru yn ei gyd-destun Prydeinig, Ewropeaidd a rhyngwladol. Mae adnoddau llyfrau, cyfnodolion ac archifau mewn nifer o lyfrgelloedd yma, gan gynnwys casgliadau enfawr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sef unig lyfrgell hawlfraint Cymru ac un o blith pum llyfrgell hawlfraint yn unig yn y DU. Yma, gellir gweld pob cyhoeddiad hawlfraint a gyhoeddir yn y DU, ac mae’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn gartref i nifer o gasgliadau sy’n ymwneud â Phrydain yn gyffredinol. Ers ei sefydlu hi yw prif gadwrfa’r byd ar gyfer archifau sy’n ymwneud â hanes Cymru, a nifer ohonynt yn dal heb eu harchwilio’n fanwl. Mae Llyfrgell Hugh Owen y Brifysgol yn gartref i fwy na 600,000 o gyfrolau a thros 3000 o gyfresi cyfnodolion, yn ogystal â nifer o gasgliadau ymchwil unigryw. At hyn, ceir nifer o lyfrgelloedd arbenigol ar gyfer ymchwilwyr meysydd fel hanes amaethyddol, archifau a gwyddor gwybodaeth, astudiaethau pensaernïol ac archaeolegol. Mae Aberystwyth hefyd yn gartref i nifer o sefydliadau a arweinir gan ymchwil ac sy’n ddefnyddiol i haneswyr nifer o gyfnodau a diddordebau. Mae’r rhain yn cynnwys y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd; Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; a Swyddfa Gofnodion Ceredigion, yn ogystal â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.