Cynnyrch y Prosiect
Un o gynhyrchion allweddol y prosiect Seliau yng Nghymru’r Oesoedd Canol fydd adnoddau ar-lein ar gyfer astudio ymhellach. Bydd cofnod chwiliadwy o’r holl seliau a gofnodir gan y prosiect yn cael ei wneud yn hygyrch i’r cyhoedd drwy Borth Ymchwil Aberystwyth, ar ddiwedd y prosiect, a bydd nifer sylweddol o ddelweddau eglur iawn o seliau yn cael eu cadw gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd Seliau yng Nghymru’r Oesoedd Canol hefyd yn darparu pecyn addysg rhithiol ar gyfer athrawon a myfyrwyr yn 2012. Bydd Seliau yng Nghymru’r Oesoedd Canol yn llunio amrywiaeth o ddeunyddiau cyhoeddedig yn ogystal ag adnoddau rhithiol. Bydd tîm Seliau yng Nghymru’r Oesoedd Canol yn ysgrifennu nifer o erthyglau sy’n ymwneud ag agweddau ar y prosiect, a bydd llyfr academaidd o bwys yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o seliau yn Ewrop yn yr Oesoedd Canol.
Mae tîm prosiect Seliau yng Nghymru’r Oesoedd Canol yn cymryd rhan mewn rhaglen allgymorth weithgar, gan draddodi papurau mewn seminarau a chynadleddau, cynnal gweithdai a sgyrsiau gerbron amrywiaeth o gynulleidfaoedd academaidd, proffesiynol a phobl eraill sy’n ymddiddori yn y pwnc. Mae’r tîm Seliau yng Nghymru’r Oesoedd Canol yn croesawu ymholiadau gan ysgolheigion, pobl sy’n gweithio ym mhroffesiwn treftadaeth, grwpiau hanes lleol a theuluol, colegau ac ysgolion a fyddai’n dymuno sgwrs neu weithdy ar seliau canoloesol.
Yng ngwanwyn 2012, mi fydd Seliau yng Nghymru’r Oesoedd Canol yn llwyfannu rhywfaint o ddeunyddiau’r prosiect mewn arddangosfa a gynhelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mi fydd hyn yn golygu bod seliau yn gallu cael eu cyflwyno i gynulleidfa eang. Ar ddiwedd yr arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol, mi fydd arddangosfa deithiol yn ymweld ag archifau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd ledled Cymru. Cysylltwch â thîm Seliau yng Nghymru’r Oesoedd Canol os hoffai eich sefydliad groesawu’r arddangosfa deithiol.