Lleisiau Pobl mewn Rhyfel Pobl: Aberystwyth 1939-1945
Yn dilyn llwyddiant y prosiect, Aberystwyth mewn Rhyfel: Profiad, Effaith, Etifeddiaeth, 1914-1919, dyfarnwyd grant i’r Adran Hanes a Hanes Cymru gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i redeg prosiect dilynol ar yr Ail Ryfel Byd, Lleisiau'r Bobl mewn Rhyfel Pobl: Aberystwyth 1939-1945, gyda chyllid cyfrannol o Gronfa Cofebion Rhyfel Aberystwyth. Yn yr un modd â’r prosiect blaenorol, roedd y prosiect hwn hefyd yn galluogi myfyrwyr i weithio gyda gwirfoddolwyr cymunedol i archwilio, dehongli a chadw straeon cymuned Aberystwyth fel ag yr oedd yn ystod y rhyfel wyth deg mlynedd yn ôl.
Rhedodd Lleisiau Pobl mewn Rhyfel Pobl: Aberystwyth 1939-1945 rhwng mis Mai 2020 a mis Gorffennaf 2022. Archwiliodd effaith yr Ail Ryfel Byd ar bobl a chymunedau Aberystwyth trwy ymdrechion cydweithredol gwirfoddolwyr, archifau lleol, y brifysgol, cymdeithasau hanes lleol, ysgolion cynradd lleol, a grwpiau perfformio a chelf. Bu'r grwpiau hyn yn ymwneud â chofnodion amser rhyfel, llythyrau, hanes llafar, papurau newydd, ffotograffau, cerddoriaeth, cofebion rhyfel a hanesion personol a gedwir yn sefydliadau ein partneriaid, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC), Archifdy Ceredigion ac Amgueddfa Ceredigion, yn ogystal ag Archifdy Prifysgol Aberystwyth ac mewn lleoedd cyhoeddus ar draws yr ardal. Cipiodd a dehonglodd dros hanner cant o fyfyrwyr a gwirfoddolwyr lleol yr hanesion cymunedol hyn mewn gweithgareddau, arddangosfeydd, perfformiad ac adnoddau ar-lein.
Nod allweddol ein prosiect oedd galluogi pobl leol i ymgysylltu â'u treftadaeth, darganfod a dehongli'r dreftadaeth hon, a rhannu eu gwybodaeth a'u dysgu mewn ffyrdd traddodiadol ac anhraddodiadol. Felly roedd ein gweithgareddau prosiect yn cynnwys gweithdai hyfforddi, mynediad tywys i archifau lleol, celf gymunedol, perfformio ac arddangos, ar gyfer nifer mor eang â phosibl o wirfoddolwyr lleol (gan gynnwys myfyrwyr). Buom yn cydweithio â sefydliadau treftadaeth, celf a chymunedol lleol i gyfuno adnoddau a rhaglennu digwyddiadau ar y cyd. Fe wnaethon ni gynnig cyfle i bobl o bob oed a chefndir gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau am ddim, gweithdai adeiladu sgiliau, gwirfoddoli, a darganfyddiad grŵp o'r gorffennol i helpu pobl i gysylltu'n uniongyrchol ag effaith ac etifeddiaeth yr Ail Ryfel Byd.
Cynigodd y prosiect hefyd gyfle unigryw i’n myfyrwyr gymryd rhan mewn prosiect ymchwil cymunedol gweithredol, ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau a ddaeth â’r brifysgol a’r gymuned leol at ei gilydd, naill ai fel gwirfoddolwyr neu ar un o'n bedwar cyfleoedd profiad gwaith. Roedd ein myfyrwyr gwirfoddol yn gallu mynd at archifau newydd, ymchwilio i'w pynciau eu hunain, postio eu blogiau eu hunain, ac ennill sgiliau profiad gwaith pwysig unigol a thîm.
Cynhyrchion allweddol y prosiect
Digwyddiadau
Bu'r prosiect yn noddi ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol dros ei gyfnod, gan gynnwys y canlynol:
- Dau weithdy hyfforddiant ymchwil ar gyfer gwirfoddolwyr yn Archifau Ceredigion
- Dau weithdy hyfforddi ymchwil yn LlGC
- Dau gwrs hyfforddi archifo digidol i wirfoddolwyr (gydag achrediad Agored Cymru)
- Arddangosfa o ffotograffau amser rhyfel o Aberystwyth a’r ardal yn ystod y rhyfel, gan gynnwys lluniau o blant wedi’u gwacáu, milwyr, Merched Byddin y Tir, a dathliadau Diwrnod VE, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Tachwedd-Rhagfyr 2021.
- Dau ddangosiad ffilm bil-dwbl yn Y Drwm, LLGC: Green Mountain, Black Mountain (1942) a The Halfway House (1944), ym mis Tachwedd 2021; a The Silent Village (1942) a Went the Day Well? (1943) ym mis Ebrill 2022)
- Perfformiad theatr gwreiddiol, This Small Heaven, a ysgrifennwyd gan Anna Sherratt, a berfformiwyd gan Theatr Ieuenctid Aberystwyth yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Ionawr 2022, ac yn seiliedig ar atgofion wedi’u recordio Rosemary Jagger, myfyrwraig yng Ngholeg Addysg Gorfforol Chelsea a gwacauodd i Borth yn ystod y Ail Ryfel Byd ac yn rhoddedig i'r prosiect gan ferch Rosemary, Alison Pierse.
- Dawns Te ar thema’r Ail Ryfel Byd yn Hyb Penparcau, ym mis Mawrth 2022, ac yna digwyddiad Dathlu Diwrnod VE yn yr Hyb ar ddydd Sul 8 Mai 2022.
- Tair gwaithdy ysgol gyda disgyblion Blwyddyn 5 o Ysgol Gynradd Gymunedol Talybont yn siarad am a chwarae rôl y broses o wacáu plant Saesneg i’r ardal a’u hintegreiddio i ysgolion cynradd lleol, Mawrth-Mehefin 2022.
- Pedair taith dywys o amgylch yr ‘Ogof Ddirgel’ o dan LLGC, a oedd yn gartref i drysorau o’r Llyfrgell Brydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ym mis Ebrill 2022.
- Dwy daith dywys ryngweithiol o gwmpas Aberystwyth yn yr Ail Ryfel Byd, arweinwyd gan wirfoddolwyr y prosiect, ym mis Mai 2022.
- Gweithdai celf gymunedol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Mai-Gorffennaf 2022.
- Rhandir ‘Palu am Fuddugoliaeth’AberWW2: gardd lysiau treftadaeth yn dilyn canllawiau’r Weinyddiaeth Amaeth adeg rhyfel (Mawrth 2022 hyd y presennol).
Blog y prosiect
Ym mis Mehefin 2020, lansiwyd Blog y Prosiect i roi cyhoeddusrwydd i ymchwil ein gwirfoddolwyr ar fywyd Aberystwyth yn yr Ail Ryfel Byd. Roedd hwn yn un o’n llwyddiannau mwyaf gweladwy, gyda phost newydd yn cael ei ychwanegu bron bob wythnos drwy gydol y prosiect. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys: gorsaf radar Aberystwyth; Hyfforddeion RAF a'r graffiti a adawsant mewn gwestai lleol; y Gwarchodlu Cartref lleol a'r ARP; Byddin Tir y Merched lleol; plant ysgol a myfyrwyr a oedd yn faciwîs; gwrthwynebwyr a heddychwyr cydwybodol Aberystwyth; plismona a throsedd yn y dref; bwyd a dogni; ‘Palu am Fuddugoliaeth’; niwtraliad Gwyddelig; cysylltiadau Iddewig ag Aberystwyth; yr eglwys; y gyfraith; HMS Tanatside ac ‘Ogof Ddirgel’ LlGC. Roedd nifer o fostiau blog yn manylu ar brofiadau unigolion lleol yn ystod y rhyfel, gan gynnwys Richard George Read; Evan Desmond Davies; Colin ac Edna Morgan; y brodyr Hughes; George Loyn; Rosemary Jagger; David William Davies a Gertrude James; Enid Jones; a Glanville Griffiths.
Map digidol ar-lein
Yn ystod y prosiect, lluniodd nifer o wirfoddolwyr gronfa ddata o leoliadau Aberystwyth yn ymwneud â'i hanes yn ystod y rhyfel. Defnyddiwyd y gronfa ddata hon wedyn i gynhyrchu map digidol o Aberystwyth a’r cyffiniau sy’n rhoi cipolwg unigryw ar y dref a’i thrigolion yn ystod blynyddoedd y rhyfel. Mae’r map yn darparu model o’r hyn y gellir ei wneud gyda thechnoleg gyfrifiadurol gymharol syml i wneud hanes yn weladwy ac yn fyw i gymunedau, ac wedi’i wreiddio yn yr union strydoedd y maent yn cerdded i lawr bob dydd.
Dolenni a dogfennau
Map rhyngweithiol y prosiect (i ddod)
Adroddiad terfynol llawn y prosiect
Yr Athro Siân Nicholas, Arweinydd Prosiect ‘Lleisiau Pobl mewn Rhyfel Pobl’, shn@aber.ac.uk.
Kate Sullivan, Cydlynydd Prosiect a Swyddog Cyfrathrebu Cymunedol, ‘Lleisiau Pobl mewn Rhyfel Pobl,’