Prosiectau Ymchwil yr Adran
Cyfraith Breifat a Chymdeithas Bentrefol yr Oesoedd Canol: Achosion Personol mewn Llysoedd Maenorydd, rhwng tua 1250 a thua 1350
Seliau yng Nghymru’r Oesoedd Canol
Cymru Fynachaidd
Gwreiddiau Diwylliant Torfol Modern: Hamdden Ewropeaidd o Safbwynt Cymharol 1660
Prosiect y Porthladdoedd a’r Trefi Gwyliau
Aberystwyth a Rhyfel: Profiad, Effaith, Etifeddiaeth, 1914-1919
Lleisiau Pobl mewn Rhyfel Pobl: Aberystwyth 1939-1945
Yn dilyn llwyddiant y prosiect, Aberystwyth mewn Rhyfel: Profiad, Effaith, Etifeddiaeth, 1914-1919, dyfarnwyd grant i’r Adran Hanes a Hanes Cymru gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i redeg prosiect dilynol ar yr Ail Ryfel Byd, Lleisiau'r Bobl mewn Rhyfel Pobl: Aberystwyth 1939-1945, gyda chyllid cyfrannol o Gronfa Cofebion Rhyfel Aberystwyth. Yn yr un modd â’r prosiect blaenorol, roedd y prosiect hwn hefyd yn galluogi myfyrwyr i weithio gyda gwirfoddolwyr cymunedol i archwilio, dehongli a chadw straeon cymuned Aberystwyth fel ag yr oedd yn ystod y rhyfel wyth deg mlynedd yn ôl.
Rhedodd Lleisiau Pobl mewn Rhyfel Pobl: Aberystwyth 1939-1945 rhwng mis Mai 2020 a mis Gorffennaf 2022. Archwiliodd effaith yr Ail Ryfel Byd ar bobl a chymunedau Aberystwyth trwy ymdrechion cydweithredol gwirfoddolwyr, archifau lleol, y brifysgol, cymdeithasau hanes lleol, ysgolion cynradd lleol, a grwpiau perfformio a chelf. Bu'r grwpiau hyn yn ymwneud â chofnodion amser rhyfel, llythyrau, hanes llafar, papurau newydd, ffotograffau, cerddoriaeth, cofebion rhyfel a hanesion personol a gedwir yn sefydliadau ein partneriaid, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC), Archifdy Ceredigion ac Amgueddfa Ceredigion, yn ogystal ag Archifdy Prifysgol Aberystwyth ac mewn lleoedd cyhoeddus ar draws yr ardal. Cipiodd a dehonglodd dros hanner cant o fyfyrwyr a gwirfoddolwyr lleol yr hanesion cymunedol hyn mewn gweithgareddau, arddangosfeydd, perfformiad ac adnoddau ar-lein.
Faciwîs yn cyrraedd yn Aberystwyth ym 1939 (llun trwy gwrteisi LLGC)