Astudio Hanes y Cyfryngau yn Aberystwyth
- Diwrnodau astudio Safon Uwch ar hanes y cyfryngau torfol ym Mhrydain [anfonwch e-bost at cmhstaff@aber.ac.uk am fanylion]
- Modiwlau hanes israddedig sy’n galluogi myfyrwyr i arbenigo yn hanes y cyfryngau torfol fel rhan o’u gradd Hanes
- Gradd BA (Anrhydedd Sengl) yn Hanes a’r Cyfryngau sy’n cynnig archwiliad rhyngddisgyblaethol o hanes ac astudiaethau’r cyfryngau
- MA Hanes y Cyfryngau
- Goruchwylio MPhil a PhD ar agweddau ar hanes y cyfryngau
Israddedigion
Mae’r modiwlau israddedig a gynigir gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru sy’n archwilio agweddau ar hanes y cyfryngau torfol yn cynnwys y canlynol:
- HY37730 Media and Society in 20th Century Britain
- HY34320 History in Cartoons: Studying Georgian Satirical Prints
- HY33320 History on Television
- HY33420 The ‘Myth of the Blitz'
- HY32320 Studying Cuban History Through Film
Mae’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu hefyd yn cynnig modiwlau israddedig cysylltiedig, er enghraifft:
- MC23020 Media History
- TF21320 Television History
- TF33220 The Media in the 1950s
- TF21920 Classical Hollywood Cinema
Cynigiwyd graddau anrhydedd cyfun rhwng yr Adran Hanes a Hanes Cymru a’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ers tro byd. Ond mae’r ddwy adran bellach yn cynnig cynllun gradd Anrhydedd Sengl Hanes a’r Cyfryngau (VP13: http://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/courses/history/history-and-media/ ) sy’n cynnig cyfle penodol i fyfyrwyr archwilio hanes ac astudiaethau’r cyfryngau mewn cyd-destun cyfochrog a rhyngddisgyblaethol, gan gynnwys y cyfle i ymchwilio ar gyfer traethawd estynedig israddedig rhyngddisgyblaethol.
Uwchraddedigion
Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru, ar y cyd â’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, bellach yn cynnig MA trwy gwrs yn Hanes y Cyfryngau. Dyma gyfle i fyfyrwyr archwilio theori a hanes y cyfryngau torfol, ymgymryd â gwaith astudio arbenigol mewn amrywiaeth o bynciau, ac ymchwilio ar gyfer eu prosiect traethawd estynedig eu hunain. Mae prosiectau traethawd estynedig MA diweddar yn cynnwys datblygiad y cyfryngau yn Tsieina, derbyniad beirniadol rhaglenni dogfen hanesyddol ar y teledu, a gweddau allanol arlywyddion UDA yn y cyfryngau.
Mae gan yr Adran hefyd draddodiad cryf o oruchwylio graddau ymchwil uwchraddedig Meistr (MPhil) a PhD (http://www.aber.ac.uk/history/postgraduate/research.html) ym maes hanes y cyfryngau. Mae traethodau PhD llwyddiannus a oruchwyliwyd yn y maes hwn yn ddiweddar yn yr adran yn cynnwys astudiaethau o deledu Cymraeg, mynd i’r sinema a diwydiant y sinema yng Nghymru 1918-1950, a hysbysebu ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae traethodau PhD llwyddiannus a oruchwyliwyd yn ddiweddar yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn cynnwys astudiaethau o deledu Cymraeg cynnar, a hanes y rhaglenni dogfen hanesyddol ar deledu daearol y DU.