Ymchwilio i Hanes y Cyfryngau yn Aberystwyth
Mae gan Aberystwyth draddodiad cryf o oruchwylio gwaith ymchwil uwchraddedig ym maes hanes cyfryngau Cymru, Prydain a thu hwnt, ac mae nifer o gyn-fyfyrwyr wedi cael swyddi yn y cyfryngau torfol yn ogystal â’r byd academaidd.
Mae traethodau PhD llwyddiannus sydd wedi’u goruchwylio yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn cynnwys astudiaethau o deledu Cymraeg, mynd i’r sinema a’r diwydiant sinema yng Nghymru 1918-1950, a hysbysebu ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae traethodau PhD llwyddiannus sydd wedi’u goruchwylio yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn ddiweddar yn cynnwys astudiaethau o deledu yn y Gymraeg yn y dyddiau cynnar, a hanes y rhaglenni dogfen hanesyddol ar deledu daearol y DU.
Nod Canolfan Hanes y Cyfryngau yw bod yn ffocws ac yn fforwm ar gyfer datblygu cyfleoedd ymchwil pellach ym maes hanes y cyfryngau, a chyfleoedd yn benodol ar gyfer cyllido traethodau PhD myfyrwyr a chyllid ymchwil allanol ar gyfer prosiectau ymchwil mwy a chydweithredol; meithrin cysylltiadau â sefydliadau ac unigolion eraill yn genedlaethol ac yn rhyngwladol sy’n gwneud gwaith ar hanes y cyfryngau; gwneud ceisiadau i gynghorau ymchwil a chyrff eraill sy’n dyfarnu cyllid ar gyfer gwneud ymchwil o’r fath; a datblygu gwaith sy’n cyfoethogi dealltwriaeth academyddion a’r cyhoedd o rôl y cyfryngau mewn hanes (gan ddatblygu’n arbennig y safbwynt unigryw ar y cyfryngau a geir drwy’r profiad yng Nghymru). Byddem yn croesawu cydweithredu â sefydliadau, adrannau ac ymchwilwyr eraill wrth ddatblygu cyfleoedd i ymchwilio yn y maes hwn.