Dyngarwr yn cwrdd â myfyrwyr sydd wedi elwa o ysgoloriaeth hanes Cymru

Mae dyngarwr a roddodd hanner miliwn o bunnoedd i'w gyn-brifysgol wedi ymweld â Phrifysgol Aberystwyth i gwrdd â'r myfyrwyr ôl-raddedig cyntaf i elwa o'i haelioni.

O'r chwith i'r dde: Myfyrwyr PhD yr ysgoloriaeth Rebecca Davies, Judith Tulfer a Simon Parsons; Dr David Jenkins; Yr Athro Emeritws Paul O'Leary a Dr Steve Thompson Pennaeth yr Adran Hanes a Hanes Cymru

O'r chwith i'r dde: Myfyrwyr PhD yr ysgoloriaeth Rebecca Davies, Judith Tulfer a Simon Parsons; Dr David Jenkins; Yr Athro Emeritws Paul O'Leary a Dr Steve Thompson Pennaeth yr Adran Hanes a Hanes Cymru

Sefydlwyd Cronfa Ysgoloriaeth Pennar gan Dr David Jenkins, a astudiodd am ei radd a'i ddoethuriaeth yn Adran Hanes Cymru 45 mlynedd yn ôl.

Yn ystod ei ymweliad â Phrifysgol Aberystwyth ar 27 Tachwedd, cafodd Dr Jenkins gyfle i gwrdd â’r myfyrwyr cyntaf i elwa o Gronfa Ysgoloriaeth Pennar, ac i ddysgu mwy am eu hymchwil.

Gan adlewyrchu diddordebau academaidd Dr David Jenkins ei hun, dyfernir yr ysgoloriaeth yn flynyddol i fyfyriwr PhD sy'n gwneud ymchwil ar hanes cymdeithasol ac economaidd Cymru a'r Gororau yn y blynyddoedd rhwng 1500 a 2000.

Y tri myfyriwr cyntaf i elwa o Gronfa Ysgoloriaeth Pennar yw: Simon Parsons, sy'n ymchwilio i darddiad cyfoeth y rhai a fuddsoddodd yng nghwmnïau rheilffordd de Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg; Rebecca Davies, sy'n ymchwilio i effaith sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ar fywydau menywod dosbarth gweithiol yn ne Cymru yn y cyfnod ar ôl y rhyfel; a Judith Tulfer, sy'n astudio swynion iachau ac amddiffyn a grëwyd gan ddynion hysbys yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dywedodd Dr Steve Thompson, Pennaeth yr Adran Hanes a Hanes Cymru:

"Pleser o’r mwyaf oedd cael croesawu Dr David Jenkins yn ôl i'r Brifysgol heddiw, ac iddo gael y cyfle i glywed am ymchwil y myfyrwyr sydd wedi elwa o Gronfa Ysgoloriaeth Pennar. 

"Bu’n ddeugain mlynedd ers i David ei hun fod yn fyfyriwr yn yr adran lle taniwyd ei ddiddordeb mewn ymchwil academaidd ar hanes Cymru. 45 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r angerdd hwnnw'n parhau yn y myfyrwyr doethuriaeth sydd yn awr yn elwa o’i rodd hael."

Dywedodd Dr David Jenkins, a ymddeolodd yn 2017 ar ôl gyrfa 35 mlynedd yn Amgueddfa Cymru:

"Rwy' wedi cael cryn dipyn o foddhad wrth wneud ymchwil hanes dros y 45 mlynedd diwethaf ac mae'n bleser galluogi cenhedlaeth arall o ymchwilwyr ar adeg pan fo llawer mwy o gystadleuaeth am grantiau nag a fu."

Bydd Cronfa Ysgoloriaeth Pennar yn talu am ffioedd dysgu ac yn darparu incwm i'r ymgeisydd llwyddiannus ynghyd ag arian tuag at gostau teithio a mynychu cynadleddau.

Mae'n un o'r nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael sydd ar gael i fyfyrwyr i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. I gael rhagor o fanylion anfonwch e-bost i: ysgoloriaethau@aber.ac.uk

Dr David Jenkins

Ac yntau’n hanu o linell hir o forwyr o Geredigion, mae Dr David Jenkins wedi ysgrifennu'n helaeth ar agweddau ar hanes morwrol, hanes trafnidiaeth a hanes diwydiannol Cymru.

Ymddeolodd fel Prif Guradur Trafnidiaeth Amgueddfa Cymru yn 2017, wedi gyrfa o 35 mlynedd, ac mae'n parhau i fod yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn yr Amgueddfa.

Mae Dr Jenkins yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn Adran Hanes a’r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Henebion Llundain; cyd-olygydd Cymrua’r Môr/Maritime Wales, aelod o fwrdd golygyddol Folk Life, ac yn Ymddiriedolwr y Comisiwn Prydeinig ar gyfer Hanes Morol. 

Mae wedi gwasanaethu fel ysgrifennydd Cymdeithas Perchnogion Llongau Môr Hafren am dros ddeng mlynedd ar hugain.

Date: Llun, 27 Tach 2023 09:03:00 GMT