Adrodd straeon i ddiogelu atgofion lleol ym Myanmar

Credyd: Karenni Praru

Credyd: Karenni Praru

02 Gorffennaf 2024

Mae addysgwyr dirgel ym Myanmar, gwlad sydd wedi’i rhwygo gan ryfel, yn defnyddio dulliau adrodd straeon cymunedol i ailfeddiannu eu hanesion a dathlu hunaniaethau ethnig, diolch i brosiect dan arweiniad academydd o Brifysgol Aberystwyth.

Mae Dr Yi Li, hanesydd De-ddwyrain Asia fodern, yn gweithio gydag addysgwyr cymunedol yn ysgolion ethnig ymylol Myanmar ac ysgolion cymunedol ar gyfer plant sy'n ffoaduriaid ar ddwy ochr y ffin rhwng Gwlad y Thai-Myanmar.

Tarfwyd yn ddifrifol ar addysg ledled Myanmar yn sgil y coup d'état milwrol ym mis Chwefror 2021 a'r gwrthdaro parhaus rhwng y jwnta milwrol a’r gwrthryfelwyr.

Amcangyfrifir mai dim ond 22% o fyfyrwyr cymwys sydd wedi’u cofrestru ar gyfer astudiaethau lefel ysgol uwchradd yn y wlad.

Dywedodd Dr Li, o’r Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae'r argyfwng addysg ym Myanmar yn arbennig o ddifrifol mewn ardaloedd ymreolaethol ethnig fel rhanbarth Karenni, lle mae traean o'r boblogaeth wedi cael eu dadleoli ac heb ddarpariaeth addysg ffurfiol o unrhyw fath, ac nid yw myfyrwyr nac athrawon yn gallu mynd i’r ysgolion sy’n cael eu rhedeg gan y fyddin, neu nid ydynt yn fodlon gwneud.

“Mae ein prosiect yn cydweithredu â rhwydwaith cymunedol sydd eisoes yn bodoli i barhau i ddarparu addysg mewn argyfwng i ysgolion ar lawr gwlad ac i ystafelloedd dosbarth anffurfiol yn ardaloedd y gwrthdaro lle mae adnoddau’n brin.”

Prosiect blwyddyn yw hwn a’r nod yw brwydro yn erbyn ansefydlogrwydd gwleidyddol a bregusrwydd diwylliannol ym Myanmar trwy annog athrawon i ddefnyddio adrodd straeon cymunedol yn ddull addysgol. 

Mae tîm y prosiect wedi cynnal rhaglen hyfforddi ar-lein i addysgwyr cymunedol sy’n gweithio ym Myanmar neu sydd wedi'u halltudio yng Ngwlad y Thai, ac wedi trefnu gweithdy addysgol a gynhaliwyd dros bedwar diwrnod ym Mhrifysgol Chiang Mai yng Ngwlad y Thai. 

Roedd y rhaglen a'r gweithdy yn fodd i’r hyfforddeion gael profiad o adrodd straeon a dysgu seiliedig ar le, gan ddangos sut y gallai adrodd straeon cymunedol gyfleu eu hanesion eu hunain yn y traddodiad llafar, yn ogystal ag arwain at greu deunyddiau dysgu amgen sy'n dathlu hunaniaethau ethnig.

Ychwanegodd Dr Li:

"Trwy hyfforddi athrawon i ddefnyddio adrodd straeon cymunedol yn ddull dysgu amgen, a meithrin cyfranogiad cymunedol ar draws y cenedlaethau, ein nod yw diogelu atgofion lleol llawer o gymunedau ethnig, atgofion sydd yn aml dan fygythiad, a hynny’n annibynnol ar ddatganiadau’r jwnta."

Mae tîm y prosiect yn cynhyrchu llawlyfr i athrawon sy’n cynnwys maes llafur a chyngor ar ddulliau hyfforddi ar gyfer adrodd straeon seiliedig ar le, y bwriedir ei gyhoeddi yn Saesneg a Burmaneg yn ddiweddarach eleni.

Yn ogystal â hyn, mae tîm y prosiect yn gweithio ar lyfr storïau darluniadol sy'n cynnwys y straeon cymunedol a adroddwyd trwy'r gweithdai a gynhaliwyd hyd yma.

Mae Dr Li yn gweithio mewn partneriaeth â Tharaphi Than, Athro Cyswllt yn Adran Ieithoedd a Diwylliannau’r Byd ym Mhrifysgol Gogledd Illinois; Surajit Sarkar, Curadur yn Amgueddfa Kerala, Kochi (India) a Jyothi Thrivikraman, Athro Cynorthwyol yng Ngholeg Prifysgol Leiden yr Hag, Cyfadran Llywodraethu a Materion Byd-eang (yr Iseldiroedd).

Ariannwyd y prosiect trwy Wobr Cyfnewid Gwybodaeth gan Brifysgol Aberystwyth a Humanities Across Borders.