Disgyblion ysgol yn plannu coed ym mherllan dreftadaeth y Brifysgol
Disgyblion o Ysgol Rhydypennau yn plannu coeden yn y Gardd Hanes Byw, Prifysgol Aberystwyth
09 Chwefror 2024
Mae disgyblion ysgolion cynradd o ardal Aberystwyth wedi plannu coed afalau mewn perllan dreftadaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw, ddydd Gwener 9 Chwefror.
Mewn digwyddiad a drefnwyd i nodi Dydd Sant Teilo, nawddsant coed ffrwythau Cymru, plannodd disgyblion goed afalau Cymreig traddodiadol gan gynnwys Croen Mochyn, Marged Nicholas, Nant Gwrtheyrn, Gelli Aur, Afal Cas Gwent a Gabalfa.
Nod prosiect perllan dreftadaeth y Brifysgol yw helpu i ddiogelu rhywogaethau hanesyddol pwysig o goed ffrwythau Cymreig rhag diflannu.
Yn plannu coeden fel rhan o’r prosiect roedd disgyblion o Ysgol Comins Coch, Ysgol Rhydypennau, ac Ysgol Padarn Sant. Plannwyd coed hefyd gan Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro Jon Timmis, a Maer Aberystwyth, y Cynghorydd Kerry Ferguson.
Bu disgyblion hefyd yn gwrando ar sgwrs fer gan Reolwr Cynaliadwyedd y Brifysgol, Dewi Day, ynglŷn ag uchelgeisiau'r Brifysgol i fod yn gampws carbon niwtral erbyn 2030, gan gynnwys y datblygiad solar diweddar.
Mae’r berllan dreftadaeth yn rhan o brosiect Gardd Hanes Byw Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi trawsnewid darn o dir fferm y Brifysgol ym Mhenglais yn adnodd i staff, myfyrwyr a thyfwyr cymunedol.
Disgyblion o Ysgol Comins Coch yn plannu coeden yn y Gardd Hanes Byw
Yr Athro Siân Nicholas o’r Adran Hanes a Hanes Cymru yw un o sylfaenwyr y prosiect Gardd Hanes Byw. Dywedodd:
“Pleser oedd cael croesawu disgyblion lleol i safle’r Ardd Hanes Byw heddiw, ac iddyn nhw wneud eu rhan yn y gwaith o warchod y mathau Cymreig hynafol hyn o goed ffrwythau. Rwy’n gobeithio y bydd y disgyblion yn dychwelyd yn y dyfodol i weld sut mae eu coed yn tyfu ac i flasu rhai o’u ffrwythau.
“Mae'r berllan dreftadaeth yn ategu gwaith bridwyr planhigion ar Gampws Gogerddan, sy’n gweithio i sicrhau bod gan wyddonwyr a thyfwyr fynediad at adnodd genetig ar gyfer holl fathau coed ffrwythau hynafol Cymru.”
Yr Athro Jon Timmis yw Is-ganghellor y Brifysgol. Dywedodd:
"Rwy’n falch iawn o fod wedi gallu plannu coeden fel rhan o’r prosiect cyffrous hwn. Dros y blynyddoedd nesaf, mae’r Brifysgol yn bwriadu plannu dros 150 o goed ffrwythau, un ar gyfer pob blwyddyn ers i’r Brifysgol agor ei drysau am y tro cyntaf ym 1872. Ein gobaith yw y bydd y berllan yn dod yn safle ar gyfer astudio, mwynhau a lles ar gyfer y Brifysgol a’r gymuned leol.”
Wedi’i leoli rhwng llety myfyrwyr Pentre Jane Morgan a Fferm Penglais, mae prosiect Gardd Hanes Byw y Brifysgol hefyd yn cynnwys rhandir sy’n seiliedig ar gyfnod yr Ail Ryfel Byd a ysbrydolwyd gan bamffled o 1942 a oedd yn annog pobl i droi eu gerddi yn leiniau llysiau 'Dig for Victory'.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r cynnyrch o’r rhandir wedi cael ei ddosbarthu ymhlith gwirfoddolwyr a’i roi i gynllun Bwyd Dros Ben Aber a rhaglen cinio cymunedol Eglwys Fethodistaidd Sant Paul.
Yn ogystal â chynlluniau i blannu mwy o fathau hynafol o goed ffrwythau Cymreig dros y blynyddoedd i ddod, mae cynlluniau hefyd i greu gardd berlysiau ganoloesol a chae o flodau gwyllt.
Disgyblion o Ysgol Padarn Sant yn plannu coeden yn y Gardd Hanes Byw