Cyflogadwyedd
Hanes yn Aberystwyth: Datblygu Sgiliau i'r Gweithle
Mae Hanes yn radd sy'n uchel ei pharch ac sy'n treiddio i ddynol ryw drwy'r oesoedd gan roi'r cyfle i chi feithrin llawer o sgiliau yr un pryd. Bydd gradd mewn Hanes yn cynnig hyfforddiant a fydd yn eich caniatáu i ddatblygu ystod o sgiliau pwysig sy'n cael eu hystyried yn hanfodol i gael gwaith yn y farchnad swyddi gystadleuol.
Bydd y sgiliau y byddwch yn eu meithrin yn ystod eich gradd Hanes yn rhai hyblyg, pellgyrhaeddol a throsglwyddadwy ac yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd. Mae'r sgiliau hyn yn rhai y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr y gellir eu defnyddio mewn ystod eang o swyddi.
Yn ddisgyblaeth academaidd, bydd astudio hanes yn eich annog i feddwl yn feirniadol er mwyn gallu datrys problemau mewn ffordd ystyriol a sensitif. Trwy gydol eich gradd, bydd ein pwyslais ar y sgiliau trosglwyddadwy hyn (gweler y tab isod) yn eich helpu i fagu hyder a blaengarwch.
Mae ein modiwlau yn canolbwyntio nid yn unig ar gyrhaeddiad yr unigolyn, ond ar gynnal amgylchedd hamddenol ond cynhyrchiol. Rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar addysgu mewn grwpiau bach. Yn gyffredinol, mae gan ein graddedigion gryfderau penodol wrth weithio'n rhan o dîm ac adeiladu timoedd, yn ogystal â'r gallu i gyflwyno'u hunain yn effeithiol mewn sefyllfa grŵp.
Pa gyfleoedd gyrfa fydd ar gael i mi tra'n astudio?
Rydym yn cynnig arweiniad a chefnogaeth o ran bywyd ar ôl y brifysgol o dan gyfarwyddyd cydlynydd cyflogadwyedd academaidd. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gan eich tiwtor personol, sgyrsiau, gweithdai, a sesiynau un-i-un a ddarperir gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd, cael eich mentora gan gyn-fyfyrwyr, a hefyd ein cynllun Lleoliadau Gwaith yn y Sector Treftadaeth.
Cliciwch ar y tabiau i ganfod mwy.