Ehangu addysg nyrsio Aberystwyth gyda chymhwyster ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd
Myfyrwyr nyrsio yn dysgu sgiliau clinigol yn un o ystafelloedd efelychu Canolfan Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth.
15 Awst 2023
Bydd addysg nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ehangu ym mis Medi gyda chymhwyster proffesiynol ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd a chymdeithasol.
Bydd myfyrwyr yn gallu astudio Tystysgrif Addysg Uwch mewn Addysg Gofal Iechyd yn rhan-amser dros gyfnod o ddwy flynedd tra'n parhau i weithio yn eu prif swydd gyflogedig.
Mae’r cymhwyster yn cwrdd â safonau addysg y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac mae’n cyfateb i gwblhau blwyddyn gyntaf rhaglenni gradd BSc nyrsio llawn amser y Brifysgol, a ddechreuodd ym mis Medi 2022.
Gall myfyrwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster Lefel 4 yn llwyddiannus ddewis gwneud cais i ymuno ag ail flwyddyn rhaglen gradd BSc Nyrsio y Brifysgol neu fynd ymlaen i swyddi eraill ym maes gofal iechyd a chymdeithasol.
Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, sy'n rhan o GIG Cymru, felly nid oes ffi yn cael ei godi am y cwrs. Fodd bynnag i fod yn gymwys i gwblhau'r rhaglen, rhaid i fyfyrwyr fod yn gyflogedig mewn rôl gofal iechyd o fewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol yn rhanbarth Canolbarth Cymru.
Dywedodd Cydlynydd y Cynllun, Dr Angharad Jones o Brifysgol Aberystwyth:
“Rydym yn falch iawn o gynnig y cymhwyster Lefel 4 hwn am y tro cyntaf a fydd yn helpu i ddatblygu sgiliau gweithwyr cymorth gofal iechyd a chymdeithasol yn y Canolbarth tra’n caniatáu iddynt aros mewn cyflogaeth amser llawn. Mae hefyd yn cynnig llwybr hyblyg iddynt tuag at radd BSc nyrsio os ydyn nhw’n penderfynu parhau â'u hastudiaethau. Rydym wedi datblygu’r cwrs ar y cyd â’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i anghenion hyfforddi’r gweithlu gofal iechyd rhanbarthol.”
Gall myfyrwyr ddewis astudio 50% o'u Tystysgrif Lefel 4 mewn Addysg Gofal Iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae rhagor o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais ar gael ar wefan y Brifysgol: