Ein Cyrsiau

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa mewn Nyrsio? Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau sy'n addas ar gyfer pobl o bob cefndir a phob lefel mynediad: 

Ymgeisiwch am le yn awr ar gyfer Medi 2024

Ymgeisiwch am le yn awr ar gyfer Chwefror 2024

 

Nyrsio Oedolion: Cwrs i ddatblygu ymarferwyr ym maes nyrsio oedolion sy'n gallu gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, gan roi’r pwyslais ar urddas, gofal a thosturi.

Nyrsio Iechyd Meddwl: Cwrs i ddatblygu ymarferwyr ym maes nyrsio iechyd meddwl sy'n gallu gweithio gyda phobl o bob oed i wella lles, cynhwysiant cymdeithasol, ac ansawdd bywyd. 

Tystysgrif Addysg Uwch (Cert HE): Addysg Gofal Iechyd: Cwrs astudio sy'n cyfateb i flwyddyn gyntaf ein rhaglen hyfforddiant nyrsio BSc cyn cofrestru, dros gyfnod o ddwy flynedd. 

Dychwelyd i Ymarfer (Oedolion): Cwrs sy’n eich galluogi i wneud cais i ailymuno â’r gofrestr broffesiynol fel ymarferydd gofal iechyd cofrestredig annibynnol.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth: nrsstaff@aber.ac.uk