Rhaglen Llwybr Addysg Wledig (LLAW)

Golygfa o'r awyr o Aberystwyth yn dangos lleoliadau Ysbyty Bronglais, Prifysgol Aberystwyth a'r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd

Mae rhaglen LLAW (Llwybr Addysg Wledig) yn cael ei rhedeg ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr meddygol y drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd dreulio blwyddyn o’u haddysg mewn meddygfeydd yn y Canolbarth er mwyn iddynt gael profiad gwerthfawr o gydweithio’n agos â chlinigwyr a chleifion mewn lleoliadau cymunedol.

Gan fod prinder affwysol o feddygon yng Nghymru i ateb y galw cynyddol o ganlyniad i boblogaeth sy’n tyfu ac yn heneiddio, mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i ddod â meddygon ifanc i’r Canolbarth.  Bydd y rhaglen newydd yn datblygu arfer presennol Prifysgol Caerdydd o sicrhau bod ei myfyrwyr meddygol yn cael cynnig lleoliadau ledled y wlad mewn amrywiaeth eang o leoliadau a rhai sy’n ategu ei gilydd.

Yn ystod y lleoliad blwyddyn hwn (o’r enw ‘Clerciaeth Integredig Hydredol’ / Longitudinal Integrated Clerkship), bydd y myfyrwyr yn astudio tuag at yr un deilliannau addysgol â’u cyfoedion yng Nghaerdydd, trwy’r un cwricwlwm arloesol, ac o dan arweiniad tîm bychan o arbenigwyr. Dyma’r rhaglen gyntaf o’i bath yng Nghymru a dim ond i fyfyrwyr meddygol y drydedd flwyddyn y mae ar gael ar hyn o bryd.

Mae sefydliadau addysgol ledled y byd wedi bod yn cynnal rhaglenni tebyg ers dros 15 mlynedd bellach. Rhai o’r elfennau buddiol a nodwyd yn y rhaglenni yw bod myfyrwyr yn deall anghenion y cleifion yn well, eu bod wedi datblygu eu sgiliau cyfathrebu yn well a bod ganddynt berthynas weithio gryfach â’r cleifion, eu cyd-fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd.

Trwy ymgynghori cyfochrog (sef gweld claf ar eu pen eu hunain cyn trafod ei achos gyda chlinigwyr), mae modd sicrhau eu bod yn ymwneud yn llwyr â’r broses ac yn gallu meithrin sgiliau diagnostig cryf yn gyflymach o lawer. Yn ogystal, trwy ddilyn claf i amgylchedd yr ysbyty, maent yn cael darlun unigryw o brofiad cleifion yng ngofal y GIG. Bydd myfyrwyr yn elwa trwy weithio mewn timau meddygol datblygedig, cwbl weithredol. At hynny, maent y cael y profiad unigryw o fyw mewn cymuned wledig am flwyddyn.

Lleoliad

Bydd myfyrwyr yn byw yn nhref Aberystwyth a’r cyffiniau, a’r dref hon ar arfordir y Gorllewin, rhwng mynyddoedd yr Elenydd a Bae Ceredigion. Bydd modd iddynt ddefnyddio llawer o gyfleusterau Prifysgol Aberystwyth gan gynnwys:

Mae’r practisau Meddygon Teulu sy’n rhan o gynllun LLAW wedi’u lleoli yn Aberystwyth a’r cyffiniau ac maent yn cynnwys:  

Bydd y lleoliadau ysbyty yn digwydd yn Ysbyty Bronglais, sydd yn ymyl y Brifysgol.

Bywyd Myfyriwr LLAW

Gallwch ddarganfod mwy am fywyd myfyriwr LLAW ar y blog LLAW

Cwestiynau Cyffredin

Isod mae rhywfaint o wybodaeth ar ffurf Cwestiynau Cyffredin am y Rhaglen Llwybr Addysg Gymunedol a Gwledig (LLAW) (CARER yn Saesneg). Ymatebir i'r cwestiynau canlynol:

  • Beth sy'n digwydd mewn wythnos LLAW nodweddiadol?
  • Ydw i'n treulio'r flwyddyn gyfan yn gwneud ymarfer meddygol? A fyddaf mewn ysbyty o gwbl?
  • Sut beth fydd gadael Caerdydd am y flwyddyn?
  • Beth os byddaf yn colli cyfleoedd y mae eraill mewn canolfannau mwy yn eu cael?
  • Ydy LLAW yn ddedfryd oes?
  • A fydd LLAW yn amharu ar farciau fy arholiad?
  • Os nad yw'n gwneud gwahaniaeth i fy arholiadau, beth yw'r pwynt?
  • Ble mae myfyrwyr LLAW yn byw?
  • Pa aelodau staff y dylwn i siarad â nhw, a beth yw eu manylion cyswllt?

 

Beth sy'n digwydd mewn wythnos LLAW nodweddiadol?

Treulir hanner yr wythnos yn y feddygfa, yn gweithio un-i-un gydag aelod o staff y feddygfa. Dyma graidd y profiad a bydd yn newid yn raddol o fod yn swyddogaeth oddefol yn gwylio ymgynghoriadau, i sefyllfa lle byddwch yn cymryd yr awenau ac yn aml yn gweld eich cleifion eich hun gyda goruchwyliaeth. Cynhelir diwrnod o addysg un waith yr wythnos, sy'n amrywio o sgiliau clinigol neu arholiadau, i diwtorialau a ddarperir gan staff lleol neu gan gyfadran Caerdydd. Efallai y ceir darlithoedd wedi'u recordio o Gaerdydd hefyd os bydd hynny'n angenrheidiol ar gyfer unrhyw ganlyniadau dysgu ychwanegol. Mae'r amrywiaeth hon yn sicrhau nad ydych yn colli unrhyw beth sydd i'w gael ar y llwybr traddodiadol. Yn olaf, neilltuir un diwrnod yr wythnos i weithio ar y gydran o'ch dewis chi (SSC), a wneir yn hydredol ar draws y flwyddyn drwy LLAW yn hytrach nag mewn bloc o wyth wythnos. Fel arfer mae cyfnodau amrywiol o amser clir, a chaiff myfyrwyr ei lenwi gyda pha beth bynnag y maent yn teimlo bod angen iddynt weithio arno, neu fynd ar drywydd cleifion os ydynt yn derbyn gofal yn lleol e.e. clinigau neu driniaethau arbenigol.

Ydw i'n treulio'r flwyddyn gyfan yn gwneud ymarfer meddygol? Fydda i mewn ysbyty o gwbl?

Mae lleoliadau wedi'u trefnu yn yr ysbyty sy'n lleol i Aberystwyth, am gyfanswm o 4 wythnos yn y flwyddyn. Mae rhai o ganlyniadau dysgu Caerdydd ar gyfer blwyddyn 3 yn benodol iawn i ysbytai: byddai'n amhosibl ymarfer sgwrio dwylo llawfeddygol mewn practis cyffredinol, er enghraifft. Caiff yr amser yn yr ysbyty ei rannu fel arfer rhwng timau megis meddygaeth frys a llawfeddygaeth.

Sut beth fydd gadael Caerdydd am y flwyddyn?

Mae gan fyfyrwyr lawer o bryderon ynghylch y cam sy’n teimlo fel naid ffydd a chamu i'r anhysbys. Cofiwch, hyd yn oed ar drydedd flwyddyn draddodiadol, y bydd eich lleoliadau yn mynd â chi ar hyd a lled Cymru. Gall y rhai sydd yn nhrydedd flwyddyn y cwrs traddodiadol symud o le i le, yn wahanol i'w ffrindiau a'u cyd-letywyr, a dim ond ar gyfer yr wythnosau addysgu y bydd rhai ohonynt yn dychwelyd i Gaerdydd. Gall byw yn yr un gymuned am flwyddyn roi cyfle i chi wneud cysylltiadau agos â’r myfyrwyr eraill – eich cyfoedion yn LLAW a myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Beth os byddaf yn colli cyfleoedd y mae eraill mewn canolfannau mwy yn eu cael?

Mae'n wir y byddai angen i chi fod mewn canolfan drydyddol fawr, yn fwy na thebyg, er mwyn cael profiad o arbenigeddau fel niwro-lawdriniaeth, orthopaedeg baediatrig, llawdriniaeth drawsblannu, plastigion, meddygaeth enetig, cardiothoraseg ac ati. Fodd bynnag, mae dwy flynedd arall o feddyginiaeth ysbyty yn aros amdanoch ar ôl LLAW, sydd yn rhoi digon o amser i gael profiad o arbenigeddau mwy prin os mai dyna sy’n eich diddori.

Mae rhai myfyrwyr yn poeni na fyddant yn gweld yr un amrywiaeth o achosion clinigol â'u cyfoedion sydd mewn ysbytai addysgu enfawr. Yn enwedig ar ddechrau LLAW, mae myfyrwyr yn poeni na fyddant yn gweld digon. Y newyddion calonogol yw ei bod yn ymddangos bod y teimlad hwn yn cael ei droi â'i wyneb i waered yn ystod y flwyddyn. Mae myfyrwyr LLAW yn aml yn dweud, o hanner ffordd drwy’r flwyddyn ymlaen, eu bod yn gweld mwy o amrywiaeth o achosion, ac yn ymwneud yn ddyfnach â’r achosion, na'u cyfoedion sydd mewn ysbytai. Mae'n debyg bod hyn yn gysylltiedig â'r nifer enfawr o achosion a welir mewn practis cyffredinol.

Ydy LLAW yn ddedfryd oes?

Yr ateb byr yw: na, nid yw'n ddedfryd oes. Pan fyddwch chi'n pasio'r drydedd flwyddyn, byddwch yn symud ymlaen i'r bedwaredd flwyddyn.  Os ydych chi’n yn gwneud LLAW ar safle Aberystwyth, byddwch yn dychwelyd i'ch amserlen o leoliadau traddodiadol mewn ysbyty yn y bedwaredd flwyddyn, ble bynnag yng Nghymru y trefnir hynny (neu'n dechrau gradd ryngosodol os mai dyna eich cynllun).

A fydd LLAW yn amharu ar farciau fy arholiad?

Unwaith eto, yr ateb byr yw na. Mae gan Gaerdydd flynyddoedd lawer o ddata ar berfformiad academaidd myfyrwyr LLAW mewn profion cynnydd o'i cymharu â pherfformiad eu cyfoedion yn y drydedd flwyddyn draddodiadol. Hyd yn hyn, nid oes unrhyw dystiolaeth ystadegol arwyddocaol bod dilyn LLAW yn golygu bod myfyrwyr dan anfantais.

Os nad yw'n gwneud gwahaniaeth i fy arholiadau, beth yw'r pwynt?

Nid yw'n bosib mesur gydag arholiad y rhan fwyaf o'r buddion a gofnodir gan fyfyrwyr sydd wedi gwneud LLAW. Mewn blwyddyn nodweddiadol o leoliadau ysbyty rydych chi'n cwrdd â thimau newydd drwy'r amser, tîm gwahanol bob wythnos ar adegau. Yn LLAW rydych chi’n dysgu ochr yn ochr â’r un staff drwy gydol y flwyddyn, ac mae'r rhan fwyaf o’r myfyrwyr yn dweud bod hyn yn arwain at deimlad bod y staff yn eu hadnabod a'u deall yn well. Mae hyn yn trosi i well addysgu, sydd wedi ei deilwra'n well i ddealltwriaeth a diddordebau'r myfyrwyr. Mae'r teimlad o gael eu gwerthfawrogi o ddifri fel rhan o'r tîm clinigol yn rhywbeth a nodir yn gyffredin iawn gan y myfyrwyr sy'n gwneud LLAW. Dros y flwyddyn, mae'n debyg y byddwch yn gweld mwy o gleifion (llawer mwy!) na'ch cydweithwyr mewn ysbytai - ac nid eu gweld yn unig, ond siarad gyda nhw, ffurfio diagnosis a bod yn rhan o'u triniaeth. Mae'n bosib hefyd y cewch y cyfle i'w gweld yn dod yn ôl atoch yn bersonol ac i fonitro eu cynnydd.

Mae'r lleoliadau y rhedir LLAW ynddynt hefyd yn ardaloedd prydferth. Mae’r ddau safle yn drefi prifysgol wedi’u hamgylchynu gan harddwch naturiol: Saif Aberystwyth yng nghanol Bae Ceredigion ac amgylchynir y dref gan fryniau gwyrdd tonnog, clogwyni dramatig a rhannau isaf Eryri i'r gogledd.  Gallai cyfle i astudio mewn lleoliad mor brydferth apelio at lawer ohonoch.

Os ydych chi’n diddori mewn gyrfa mewn practis cyffredinol, bydd blwyddyn o gyswllt â phractis yn rhoi profiad a chyfle amhrisiadwy i chi gael gweld meddygaeth glinigol ond cewch hefyd weld y ffordd y caiff busnes ei redeg a dysgu gan yr holl staff sy'n cyfrannu at waith y practis.

Os nad yw ymarfer cyffredinol yn eich diddori chi, efallai y bydd yr addysg unigol, ymwneud â nifer fawr o achosion dan oruchwyliaeth a pherthynas ddyfnach rhwng myfyriwr a mentor yn eich temtio. Mae amrywiaeth ehangach o achosion hefyd na’r hyn a ddisgwylir ym mlwyddyn 3 yn unig. Mae myfyrwyr sy’n diddori mewn arbenigeddau fel seiciatreg, pediatreg, gynaecoleg, dermatoleg neu riwmatoleg yn debygol felly o weld achosion a fyddai'n dod o fewn cylch gorchwyl yr arbenigeddau hyn mewn ysbyty fel arfer, arbenigeddau y mae'n rhaid i fyfyrwyr aros tan y bedwaredd flwyddyn i gael profiad ohonynt.

Ble mae myfyrwyr LLAW yn byw?

Mae hyn wedi amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Mae llawer yn dewis byw mewn llety preifat am y flwyddyn, yn union fel y byddech yng Nghaerdydd; dewis myfyrwyr eraill mewn gwahanol flynyddoedd yw byw mewn neuaddau preswyl yn Aberystwyth. Yn nodweddiadol, mae'r myfyrwyr yn byw yn nhref eu prifysgol, gan mai dyma lle mae'r rhan fwyaf o eiddo ar gael i'w rentu ac mae'n golygu y gall y myfyrwyr gymudo'n hawdd a phrofi bywyd cymdeithasol y brifysgol leol.

Pa aelodau staff y dylwn i siarad â nhw, a beth yw eu manylion cyswllt?

Os oes gennych chi gwestiynau sydd heb eu hateb, gofynnwch a byddwn yn gwneud ein gorau i'w hateb.

Y cyfeiriad e-bost cyffredinol er mwyn gofyn unrhyw gwestiynau am LLAW yw   ugmedicyr2@caerdydd.ac.uk. Caiff ei staffio gan brifysgol Caerdydd yn hytrach nag un o safleoedd LLAW, ond heb os, bydd modd iddynt eich cyfeirio ymlaen os nad oes modd iddynt ateb cwestiwn yn uniongyrchol.

Arweinydd cangen Aberystwyth yw Dr Sue Fish, sy'n feddyg teulu ym meddygfa Borth ychydig i'r gogledd o Aberystwyth. Ei chyfeiriad e-bost yw FishS2@caerdydd.ac.uk. Gweinyddir cangen Aberystwyth gan Vicki Jones, a’i chyfeiriad e-bost hi yw   cmestaff@aber.ac.uk.

Gellir cysylltu ag awdur y Cwestiynau Cyffredin yma trwy e-bostio Edward.Hatfield@wales.nhs.uk.

 

Tîm LLAW: Prifysgol Aberystwyth:

Gellir gwneud ymholiadau drwy’r cyfeiriadau e-bost canlynol:

Enw Rôl Ebost
Dr Sue Fish Arweinydd Rhaglen Aberystwyth

FishS2@cardiff.ac.uk 

Vicki Jones Gweinyddydd Aberystwyth

cmestaff@aber.ac.uk 

Ymholiadau Prifysgol Caerdydd

UGMedicYr2@cardiff.ac.uk 

 

Manteision addysgol Clerciaeth Integredig

  • Cwricwlwm sy’n union yr un fath â blwyddyn 3 draddodiadol
  • Addysgu un-i-un gyda thiwtor sy’n feddyg teulu yn ogystal â goruchwyliwr addysgol sy’n gallu teilwra’r dysgu i anghenion y myfyrwyr
  • Addysgu mewn grwpiau bychain gyda’r un myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn
  • Mae’r sgiliau clinigol yn rhwydd i’w cwblhau
  • Dysgu drwy ddilyn casgliad o gleifion drwy gydol y flwyddyn

 

Theori Addysgol / Manteision Addysgol Ychwanegol LLAW

  • Mae profiadau cadarnhaol yn rhoi adborth, yn gwella hyder ac yn dylanwadu ar y dysgu
  • Caiff y dysgu ei gryfhau drwy ddigwydd mewn cyd-destun cymdeithasol sydd â rhyngweithio cytbwys rhwng y person, yr amgylchedd a’r ymddygiad
  • Mae dysgu drwy arsylwi dros amser yn rhoi modd addasu perfformiad
  • Mae cymunedau gwaith y tîm gofal sylfaenol yn sicrhau mwy o brofiad dysgu

Asesiadau

  • Gwneud yr un asesiadau â blwyddyn 3 draddodiadol
  • Haws dod o hyd i gleifion ar gyfer prosiectau hydredol
  • Elfen o ddewis y myfyriwr (SSC) Hydredol
  • Portffolio Meddygon Teulu yn hawdd i’w gwblhau
  • Cyfle i godi eu safle yn y garfan ar gyfer Profion Cynnydd
  • Mwy o hyder yn yr Arholiadau Clinigol Strwythuredig Integredig (ISCEs)

Cyfleoedd Eraill

  • Gellir cyflwyno prosiect SSC i gynadleddau a chystadlaethau
  • Mae nifer o fyfyrwyr yn gwneud BSc Ymsang (iBSc)
  • Profiad dysgu ychwanegol i’w ychwanegu at CV wrth wneud cais am swyddi hyfforddi yn y dyfodol ar ôl gadael yr ysgol feddygol