Amdano Ni

Yma yn Aberystwyth rydym yn ymfalchïo mewn darparu profiad dysgu sy'n eich helpu i ddeall yr hyn sydd ei angen i gynnig gofal nyrsio o'r radd flaenaf.

Nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig profiad dysgu penodol ac agos-atoch chi. Mae'r gymuned a'r amgylchedd lleol wedi ein cynorthwyo i siapio'r cwricwlwm. Mae Canolfan Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth yn newydd sbon, ac mae'n cynnwys Uned Sgiliau Clinigol, sef ystafelloedd efelychu hollol fodern lle gall myfyrwyr ddysgu ac ymarfer sgiliau clinigol mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Mae nyrsys Prifysgol Aberystwyth yn dathlu amrywiaeth, yn ymwneud yn rhagweithiol â'u taith ddysgu ac mae ganddynt yr hyder a'r hyblygrwydd i arwain a darparu gofal iechyd mewn lleoliadau gwledig a threfol. Maent yn deall cod ymarfer proffesiynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth  a sut mae'n llywio'r dull o fynd ati bob dydd i ddarparu gwasanaeth nyrsio proffesiynol.

Fel nyrs, fe fydd galw o hyd am eich sgiliau, a bydd eich profiadau dysgu yn ystod eich cwrs gradd yn eich galluogi i ddatblygu eich hunanymwybyddiaeth, eich hyder a'ch arbenigedd clinigol. Mae nyrsio yn broffesiwn hyblyg, ac mae cyfleoedd gwaith i'w cael mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd a thrydyddol, gwasanaethau cymunedol, addysg, ymchwil, rheolaeth, twristiaeth, diwydiant, y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac mewn mudiadau gwirfoddol ac elusennol. Wedi ichi gymhwyso bydd llu o gyfleoedd ar gael i'ch cynorthwyo i ddatblygu eich gyrfa, gan gynnwys swyddi ym maes rheoli ac ym maes ymarfer ac ymchwil clinigol uwch ac arbenigol.

Mae rhan o'r rhaglen gyffredinol ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ac os nad ydych yn siarad Cymraeg a bod arnoch eisiau dysgu'r iaith, mae'r rhaglen yn cynnig hefyd wersi sgwrsio Cymraeg ym maes iechyd trwy gyfrwng 'cornel coffi a chlonc'.

Bydd croeso cynnes yma ichi gyd.