Galwad am Grynodebau

  • Dylid cyflwyno'r crynodeb ar ffurf pdf.
  • Dylid cyflwyno'r crynodeb ac ni ddylai fod yn hwy na 250 o eiriau. 
  • Rhaid defnyddio print du a ffont Calibri neu Times New Roman.
  • Dylai'r crynodeb ddangos sut mae eich cyflwyniad yn cyd-fynd â thema'r gynhadledd, sef 'Arloesi 2023:
     Pontio'r Bwlch rhwng Byd Ymchwil a'r Byd Go Iawn’. 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodebau yw hanner dydd, 12 Chwefror 2024.

Rhaid i’r crynodebau a gyflwynir i'r gynhadledd hon fod yn rhai gwreiddiol ac ni ddylent fod dan ystyriaeth i'w cyhoeddi mewn unrhyw gyfnodolyn neu gynhadledd arall.

Wrth ysgrifennu eich crynodeb efallai yr hoffech sicrhau eich bod wedi ymdrin â phwyntiau penodol:

  • Nodau ac amcanion yr ymchwil yr hoffech ei gyflwyno
  • Y dulliau a ddefnyddiwyd
  • Amlinelliad o’r canfyddiadau
  • Casgliadau a goblygiadau’r darn penodol hwn o ymchwil

Lawrlwytho’r Fffurflen cyflwyno crynodeb

Anfonwch eich crynodeb i: bid1@aber.ac.uk