Rheolau Cofrestru a Meini Prawf Beirniadu
Rheolau ar gyfer y cyflwyniad fideo:
- Cyfyngir y fideos i 3 munud ar y mwyaf a bydd cystadleuwyr sy’n recordio fideo sy’n hwy na 3 munud yn cael eu gwahardd.
- Bydd y fideos yn canolbwyntio ar y cyflwynydd yn unig ac yn barhaus, a bydd eich wyneb o leiaf i’w weld drwy gydol y fideo (h.y. mae gwe-gamera ar ffurf ‘pen sy’n siarad’ neu fideos ar gamera ffonau symudol yn dderbyniol).
- Ni ddylid golygu’r cyflwyniadau ac ni ddylai’r fideos gynnwys cymorthyddion gweledol nac elfennau ychwanegol.
- Bydd y cyflwyniadau ar ffurf geiriau llafar (e.e. dim cerddi, rapiau na chaneuon).
- Ni chaniateir cyfryngau electronig ychwanegol (e.e. ffeiliau sain a fideo).
- Ni chaniateir ategolion ychwanegol (e.e. gwisgoedd, offerynnau cerdd, offer labordy).
- Bydd penderfyniad y panel sy’n llunio’r rhestr fer yn derfynol.
Rheolau ar gyfer rownd derfynol byw 3MT®
- Caniateir un sleid PowerPoint sefydlog (dim trosglwyddo, animeiddio na ‘symud’ o unrhyw fath, rhaid cyflwyno’r sleid o ddechrau’r araith.
- Ni chaniateir cyfryngau electronig ychwanegol (e.e. ffeiliau sain a fideo).Ni chaniateir ategolion ychwanegol (e.e. gwisgoedd, offerynnau cerdd, offer labordy).
- Cyfyngir y fideos i 3 munud ar y mwyaf a bydd cystadleuwyr sy’n cymryd mwy na 3 munud yn cael eu gwahardd o’r gystadleuaeth.
- Bydd y cyflwyniadau ar ffurf geiriau llafar (e.e. dim cerddi, rapiau na chaneuon).
- Bydd y cyflwyniadau yn dechrau o’r llwyfan (ar gyfer y rownd derfynol byw).
- Ystyrir bod y cyflwyniadau wedi dechrau wrth i’r cyflwynydd ddechrau’i gyflwyniad trwy symud neu siarad.
- Bydd penderfyniad y panel beirniaid yn derfynol.
Meini Prawf Beirniadu 3MT®
Ar bob lefel o’r gystadleuaeth bydd pob cystadleuydd yn cael ei asesu ar sail y tri maen prawf beirniadu a restrir isod. Noder fod pob maen prawf yn gyfartal o ran gwerth a bod pwyslais ar y gynulleidfa.
1. Dealltwriaeth: |
|
1.1 |
A oedd y cyflwyniad yn cynnwys dealltwriaeth o gefndir y cwestiwn ymchwil dan sylw, a’i arwyddocâd? |
1.2 |
A wnaeth y cyflwyniad ddisgrifio’n eglur brif ganlyniadau’r ymchwil yn cynnwys y casgliadau a’r deilliannau? |
1.3 |
A oedd y cyflwyniad yn dilyn trefn eglur a rhesymegol? |
2. Ymgysylltu: |
|
2.1 |
A oedd yr araith yn gwneud i’r gynulleidfa fod eisiau gwybod mwy? |
2.2 |
A oedd y cyflwynydd yn ofalus wrth beidio â distadlu neu gyffredinoli ei waith ymchwil? |
2.3 |
A oedd brwdfrydedd y cyflwynydd am ei waith ymchwil yn amlwg? |
2.4 |
A wnaeth y cyflwynydd ddal, a chadw, sylw ei gynulleidfa? |
3. Cyfathrebu: |
|
3.1 |
A gafodd pwnc y traethawd ymchwil, y prif ganlyniadau ac arwyddocâd a deilliannau’r ymchwil eu cyfathrebu mewn iaith sy’n briodol ar gyfer cynulleidfa sydd ddim yn arbenigwyr? |
3.2 |
A wnaeth y siaradwr osgoi jargon gwyddonol, egluro terminoleg a darparu digon o wybodaeth gefndirol wrth ddarlunio pwyntiau? |
3.3 |
A oedd gan y siaradwr bresenoldeb digonol ar lwyfan, yn edrych i fyw llygaid ei gynulleidfa ac yn amrywio ei lais yn dda; yn siarad yn bwyllog drwy’r amser; ac yn hyderus? |
3.4 |
A wnaeth y cyflwynydd dreulio digon o amser ar bob elfen o’r cyflwyniad – neu a wnaeth ymhelaethu’n ormodol ar un agwedd neu a oedd ôl brys ar y cyflwyniad? |