Modiwlau Ymchwil Canolog

PGM0210 Principles of Research Design

Nod y modiwl hwn yw dysgu myfyrwyr ymchwil i ddeall egwyddorion sylfaenol cynllun a strategaeth ymchwil. Bydd yn eu galluogi i ddangos eu gallu: i ganfod a ffurfio eu cwestiynau ymchwil yn glir ac yn gryno, eu dadansoddi neu eu rhannu’n is-gyfresi o is-gwestiynau perthnasol, a, lle bo’n briodol, llunio damcaniaethau y gellir eu profi; esbonio pam mae eu cwestiynau ymchwil yn arwyddocaol yng nghyd-destun is-feysydd eu disgyblaeth/ymchwil, pa fath o gwestiynau ydynt yn epistemolegol, a pha fathau o ddata/deunyddiau neu seiliau dadleuaeth sydd eu hangen i ymdrin â’u cwestiynau; ac i gynhyrchu cynllun gweithredu realistig, gan roi sylw i unrhyw faterion cyfreithiol a moesegol y gallent ddod ar eu traws yn eu prosesau ymchwil.

PGM0310 Qualitative Data Collection and Analysis

PGM0310

Ei nod yw rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am amrywiaeth o sgiliau ansoddol, yn fethodolegol a dadansoddol, â’r sesiynau’n cael eu dewis o ddetholiad o bynciau, yn dibynnu ar anghenion y myfyriwr. Mae’r cwrs wedi’i lunio i ddysgu’r hanfodion i fyfyrwyr am egwyddorion sylfaenol methodoleg ymchwil ansoddol. Bydd yn (i) cyflwyno i’r myfyrwyr rai dulliau o gasglu a dadansoddi data ansoddol, (ii) yn dangos sut mae data ansoddol yn cael ei adeiladu a’i ddehongli’n ymarferol gan yr ymchwilydd a (iii) yn meithrin dealltwriaeth o’r ystyriaethau ymarferol ac epistemolegol sy’n codi wrth gasglu data ansoddol. Gall y pynciau gynnwys cynllunio holiaduron, technegau cyfweld, cynllunio arolygon a dulliau o ddadansoddi data ansoddol.

 

PGM0410 Ways of Reading

PGM0410

Cyflwyniad yw’r modiwl deuddydd hwn i wahanol ddulliau o ddehongli a dadansoddi testunau a mathau o ddisgwrs, gan gynnwys dogfennau hanesyddol a chyfoes, cyfryngau print a darlledu, deunydd llenyddol a thestunau cyfreithiol ac addysgol. Gan fod ffurfiau cyfoes ar gyfathrebu’n mynd yn fwyfwy amlfoddol, mae’r modiwl yn trafod agweddau geiriol a gweledol ar destunau ac yn ystyried rhai o’r ffyrdd y mae’r arwyddion geiriol a gweledol yn gysylltiedig â’i gilydd mewn gwahanol fathau o destunau a gwahanol sianelau cyfathrebu. Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ymwneud â gwahanol ddulliau o ddadansoddi testun a disgwrs ac i ddatblygu dealltwriaeth o’r modd y mae’r dulliau hyn wedi’u hymgorffori mewn traddodiadau penodol o greu damcaniaeth.

 

MOR0510 Dulliau Darllen

MOR0510

Modiwl deuddydd dwys yw hwn sy’n rhoi cyflwyniad i wahanol ddulliau o ddehongli a dadansoddi testunau a gwahanol fathau o ddisgwrs, gan gynnwys dogfennau hanesyddol a chyfoes, y cyfryngau a’r gair llafar, deunydd llenyddol a thestunau cyfreithiol. Gan fod cyfathrebu cyfoes yn gynyddol amlfodd o ran ffurf, rhoddir sylw i’r dimensiynau gweledol a llafar mewn testun a’r cydgysylltiadau rhwng y gweledol a’r llafar mewn gwahanol fathau o destun a ffurfiau o gyfathrebu. Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i weithio gyda gwahanol ddulliau o ddadansoddi testunau a disgyrsiau. Byddant hefyd yn deall sut mae’r dulliau hyn yn perthyn i wahanol draddodiadau damcaniaethol.

 

PGM0910 Statistics in Context: Collecting, Handling and Presenting Data

PGM0910

Nod y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth eang i fyfyrwyr am amrywiaeth o sgiliau methodolegol a dadansoddol y gallant eu defnyddio mewn gwahanol gyd-destunau ymchwil. Mae’r modiwl wedi’i anelu at fyfyrwyr sydd eisoes wedi astudio technegau meintiol sylfaenol. Mae’r modiwl hwn yn trafod methodolegau econometrig y gellir eu defnyddio yng nghyd-destun astudiaeth PhD yn y gwyddorau. Bydd hyn yn cynnwys dadansoddi cyfresi amser uwch, methodoleg astudio digwyddiadau a mesur perfformiad. Bydd sesiynau ymarferol yn dysgu myfyrwyr sut i ddefnyddio’r technegau, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r meddalwedd perthnasol.

 

PGM1010 Quantitative Data Collection and Analysis

PGM1010

Nod y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth eang i fyfyrwyr am amrywiaeth o sgiliau methodoleg a dadansoddi y gallant eu defnyddio mewn gwahanol gyd-destunau ymchwil. Yn ogystal â dysgu’r hanfodion i fyfyrwyr am egwyddorion sylfaenol methodoleg ymchwil ansoddol, bydd y modiwl yn (i) edrych ar sut y gellir disgrifio’r data, (ii) cyflwyno amrywiaeth o brofion ystadegol sy’n cael eu defnyddio’n rheolaidd, a (iii) archwilio ystyr y canlyniadau o safbwynt y cwestiwn ymchwil a osodir. Bydd y modiwl yn cynnwys darlithoedd, yn ogystal â gwaith ymarferol yn y labordy gan ddefnyddio pecyn ystadegol priodol.

 

PGM1210 Manuscript Skills: Post Medieval Palaeography and Diplomatic

PGM1210

Mae’r modiwl hwn yn ystyried datblygiad hanesyddol llawysgrifen (palaeograffeg) ym Mhrydain rhwng tua 1450 a thua 1800, nodweddion mathau penodol o lawysgrifen, egwyddorion trawsgrifio a dulliau golygyddol eraill, a datblygiad ffurf gyffredin mewn dogfennau ffurfiol (diplomateg). Datblygir sgiliau ymarferol a thechnegol mewn darllen a thrawsgrifio, gan roi’r ddamcaniaeth ar waith yn ymarferol drwy ddefnyddio amrywiaeth eang o lawysgrifau o dan arweiniad gofalus.

 

PGM1610 Public Engagement and Impact

PGM1610

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae RCUK wedi rhoi pwyslais ychwanegol ar bwysigrwydd ymwneud â’r cyhoedd ac effaith gyhoeddus ymchwil a bydd y modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr PhD archwilio agweddau allweddol. Cynhelir y modiwl mewn dwy ran:

  • Bydd y rhan gyntaf yn weithdy undydd dwys. Bydd hwn yn dechrau gyda nifer o sesiynau a “ddysgir” er mwyn cyflwyno agweddau ar ymwneud â’r cyhoedd ac effaith gyhoeddus. Dilynir y sesiynau a “ddysgir” hyn gan sesiwn ymarferol â’r nod o greu deunydd i ymwneud â’r cyhoedd (agweddau testun a gweledol). Yn sesiwn olaf y gweithdy cyntaf bydd canlyniadau’r sesiwn flaenorol yn cael eu cyflwyno a’u trafod.
  • Bydd ail ran y modiwl yn gyfraniad i ddigwyddiad cyswllt â’r cyhoedd. Y drefn arferol ar gyfer hyn fydd arddangosfa i’r cyhoedd yn gyffredinol (e.e. yng Nghanolfan y Celfyddydau neu’r Hen Goleg), â’r disgwyliad y bydd pob myfyriwr PhD yn cyfrannu arddangosfa weledol/testun ac yn ei chyflwyno yn y derbyniad agoriadol.

 

 

PGM1810 Ways of Working

PGM1810

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr uwchraddedig i nifer o ddulliau ymchwil seiliedig ar ymarfer, gan gynnwys ffilm a chyfryngau, delweddau, testun, perfformiad a sain. Mae dulliau o'r fath yn rhyngddisgyblaethol yn eu hanfod, ac yn cydgysylltu â hanes, daearyddiaeth, gwleidyddiaeth, ac ieithoedd trwy, er enghraifft, dechnegaGeneral Contentu ethnograffig arloesol a chyfoethog ac agweddau athronyddol. Yn hyn o beth, mae'r modiwl yn ddefnyddiol i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â gwaith seiliedig ar ymarfer yn y celfyddydau yn ogystal â rhai sy'n chwilio am ddulliau gwahanol (megis rhai'n ymwneud â'r gweledol, sain a pherfformiad) i ategu at ymchwil mewn meysydd eraill. Mae'r modiwl yn cyflwyno cyfres o ddarlithoedd sy'n ymdrin â syniadau delweddu, dychmygu a phrofi'r syniadau daearyddol, diwylliannol, emosiynol ac ysbrydol yng nghyswllt lle a gofod, cyn arwain ymlaen i sesiynau tiwtorial sy'n gweithio gyda myfyrwyr i ddatblygu dulliau priodol seiliedig ar ymarfer o fewn eu prosiectau ymchwil eu hunain.

 

PGM1910 Leadership for Researchers

PGM1910

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno pwnc arweinyddiaeth i ymchwilwyr uwchraddedig ac i ddefnyddio syniadau am nodweddion, arddull ac ymddygiad arweinyddiaeth yng nghyd-destun y broses ymchwilio. Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio ar gyfer darparu cynnwys dewisol o fewn i’r rhaglen HY ar gyfer myfyrwyr ymchwil uwchraddedig. Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno ymchwilwyr uwchraddedig i ystod a modelau arweinyddiaeth, defnyddio’r modelau hyn yng nghyd-destun rheoli ac arwain termau ymchwil, a rhoi’r cyfle i fyfyrwyr archwilio drwy arddull ac ymddygiad arwain dysgu drwy brofiad.

 

MOR2210 Sgiliau Ymchwil a Datblygiad Personol

MOR2210

Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr ymchwil ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy y gallant eu defnyddio mewn gwahanol gyd-destunau ymchwil. Bydd yn ymdrin â datblygiad personol, gan gynnwys sgiliau trafod a rhwydweithio, rheoli ymchwil, gweithio mewn tîm ac ysgrifennu a chyflwyno papur cynhadledd. Bydd hefyd yn ymdrin â sgiliau TG, yn bennaf mewn cyd-destun ymchwil, a materion penodol sy’n codi wrth ymgymryd ag ymchwil yn y Gymraeg, yn ddwyieithog neu’n amlieithog.

 

PGM2210 Research Skills and Personal Development

PGM2210

Nod y modiwl hwn yw rhoi sylfaen eang o wybodaeth i fyfyrwyr ymchwil yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol am amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y gallant eu defnyddio mewn gwahanol gyd-destunau ymchwil. Bydd y modiwl yn trafod datblygiad personol, gan gynnwys sgiliau trafod a rhwydweithio, ysgrifennu academaidd, rheoli ymchwil, gweithio mewn tîm, ac ysgrifennu a chyflwyno papur mewn cynhadledd. Bydd sgiliau Technoleg Gwybodaeth, yn gyffredinol ac yng nghyd-destun eu cymhwyso i ymchwil, yn cael eu cynnwys hefyd.

 

PGM2310 Research Skills and Personal Development for Scientists

PGM2310

Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr ymchwil yn y Gwyddorau wybodaeth eang am amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y gallant eu defnyddio mewn gwahanol gyd-destunau ymchwil. Bydd y modiwl yn trafod datblygiad personol, gan gynnwys sgiliau trafod a rhwydweithio, ysgrifennu academaidd, rheoli ymchwil, gweithio mewn tîm ac ysgrifennu a chyflwyno papur mewn cynhadledd. Mae’r modiwl hefyd yn cwmpasu sgiliau TG, yn gyffredinol ac wedi’u cymhwyso i ymchwil.

 

PGM2410 Research Seminar Skills in the Life Sciences

PGM2410

Nod y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth eang i fyfyrwyr am ystod o sgiliau pwnc-benodol y gallant eu defnyddio mewn amrywiaeth o ddiddordebau ymchwil. Bydd yn datblygu’n benodol allu myfyrwyr i werthfawrogi perthnasedd ymchwil y tu hwnt i’w maes pwnc uniongyrchol. Mae IBERS yn trefnu cyfres o seminarau ymchwil wythnosol, yn cynnwys siaradwyr o Brifysgol Aberystwyth (IBERS yn bennaf ond hefyd yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a.y.y.b.) a siaradwyr gwadd allanol. Byddai disgwyl i fyfyrwyr sy’n dilyn y modiwl hwn fynychu o leiaf 12 o’r seminarau hyn yn ystod semestrau 1 a 2, a chyflwyno crynodebau 300 gair ar gyfer chwech ohonynt.

 

PGM2510 Grants Development Workshops

PGM2510

Mae’r modiwl hwn wedi’i anelu ar gyfer datblygu grant ymchwil a bydd yn rhoi ymwybyddiaeth i fyfyrwyr o’r broses gyflawn ar gyfer gwneud hynny, yn cynnwys trafod y broses ysgrifennu, dealltwriaeth o’r cyrff cyllido, y dogfennau a’r gofynion ariannol, a’r broses asesu gan banel.

 

PGM2610 Reading and Writing Development Group

PGM2610

Mae’r modiwl hwn yn rhoi profiad i fyfyrwyr o ddarllen, trafod ac asesu cyhoeddiadau ac ymchwil yn feirniadol. Gellir hefyd drafod ysgrifennu adolygiad beirniadol o lenyddiaeth. Disgwylir y bydd myfyrwyr yn cymryd rhan weithredol yn y broses ddatblygu ac yn cyfrannu i’r modiwl a’r broses werthuso.

 

PGM2710 Theoretical Foundations of Research in Law and Criminology

PGM2710

Mae’r modiwl hwn yn cynnig gorolwg a thrafodaeth ar sail ddamcaniaethol y Gyfraith a Throseddeg fel disgyblaethau astudio ac ymchwilio. Mae’n egluro sut mae meysydd pwnc y gyfraith a ‘gwyddor droseddol’ wedi’u damcaniaethu a’u datblygu yn nisgwrs y Gorllewin ac yn nodi’r prif dueddiadau wrth drafod a dadlau’n feirniadol heddiw. Trwy gynnig cipolwg a dealltwriaeth o’r sail ddamcaniaethol a’r strwythur sydd wrth wraidd y meysydd pwnc hyn, mae’n galluogi ymchwilwyr i werthfawrogi rôl a dulliau penodol y Gyfraith a Throseddeg fel disgyblaethau ym meysydd ehangach y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.

 

PGM2810 Skills in Bioinformatics for Biologists

PGM2810

Modiwlau Ymchwil Canolog - Ysgol y Graddedigion, Prifysgol Aberystwyth Daw sgiliau biowybodeg yn fwyfwy pwysig i uwchraddedigion ac mae myfyrwyr uwchraddedig IBERS wedi tynnu sylw at hynny, gan awgrymu bod hwn yn faes y dylid darparu mwy o hyfforddiant ar ei gyfer. Mae’r modiwl hwn yn mynd i’r afael â hynny trwy gynnig modiwl Biowybodeg i fyfyrwyr uwchraddedig sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddewis y pwnc mwyaf perthnasol i’w gwaith o blith ystod o fodiwlau sy’n bodoli eisoes.

 

PGM3310 Entrepreneurship for Research Students

PGM3310

Bydd y modiwl hwn yn arfogi’r myfyrwyr ymchwil â gwybodaeth am entrepreneuriaeth, a fydd, fwy na thebyg, yn gysylltiedig â’u prosiect ymchwil eu hunain. Bydd y modiwl yn datblygu cyfres o sgiliau generig (e.e. ysgrifennu cynigion) ac yn cymhwyso’r rhain i ddatblygiadau entrepreneuriaeth. Mae’n ymdrin ag agweddau damcaniaethol ac ymarferol. Mae’r modiwl yn gymysgedd o wybodaeth gefndirol, rhannu profiadau a gwaith ymarferol a fydd yn cyfuno i greu drafft o gynnig busnes a digwyddiad tebyg i Dragon’s Den.

 

PGM3410 Using Manuscript Sources for Medieval Studies: paleography and diplomatic

PGM3410

Er mwyn darllen a dehongli ffynonellau'r llawysgrifau canoloesol, rhaid i fyfyrwyr ddeall datblygiad hanesyddol llawysgrifen (paleograffeg) a datblygiad 'ffurf gyffredin' dogfennau ffurfiol (diplomyddol). Caiff sgiliau ymarferol (gan gynnwys iaith) eu datblygu trwy ymarferion darllen, trawsgrifio a chreu calendr.

 

PGM3510 Sources for Postgraduate Research in the Modern Humanities and Social Sciences

PGM3510

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr uwchraddedig i ffynonellau cynradd allweddol yn y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol modern, ac yn rhoi iddynt hyfforddiant ymchwil hanfodol yn y dulliau a'r agweddau sydd eu hangen i ddefnyddio'r ffynonellau hyn yn eu hymchwil eu hunain, trwy gyfres o weithdai teirawr sy'n cael eu teilwra i anghenion ymchwil unigol y myfyrwyr.

 

PGM3610 Texts that made the Middle Ages: Latin for Postgraduates

PGM3610
Dosbarth darllen uwch iaith Ladin yw'r modiwl hwn. Bydd yn rhoi myfyrwyr mewn sefyllfa i ddatblygu eu dawn darllen Lladin ymhellach, ac felly i ymdrin â gofynion penodol eu hymchwil. Bydd yn dod â hwy i lefel lle gallant feistroli testunau o anhawster canolradd, a lle, gyda chymorth geiriadur, y gallant fynd i'r afael yn llwyddiannus â pheth o'r deunydd mwy heriol.

 

PGM6310 Subject Specific Research Skills

PGM6310

O fewn y modiwl hwn gallwch astudio modiwlau pwnc-benodol yn eich pwnc/adran (naill ai un modiwl 20 credyd neu ddau fodiwl 10 credyd ar lefel israddedig neu radd meistr). Disgwylir i'r modiwl(au) a ddewiswyd fod wedi'i alinio/wedi’u halinio â'ch maes ymchwil, a dylai hyn gael ei adlewyrchu yn yr asesiad traethawd.

 

PGM6410 Writing your first Journal Article

PGM6410
This module will look at the development of journal articles within a PhD context and would cover the full pipeline up to paper submission (and possible beyond that). It is seen that this is supporting the development of an essential skill for an academic/research career.
This is aimed at second/third year PhD (or potentially first year MPhil) students. It could be based around transferring a thesis chapter into a journal paper or starting that process from scratch.

PGM8110 How to Organise a Conference

PGM8110

Ar gyfer myfyrwyr PhD yr ail flwyddyn ac uwch (neu fyfyrwyr MPhil blwyddyn gyntaf o bosib). Bydd y modiwl hwn yn edrych ar ddatblygu cynhadledd academaidd ac yn ymdrin â'r holl agweddau perthnasol. Gwelir bod hyn yn cefnogi datblygiad sgil hanfodol ar gyfer gyrfa academaidd/ymchwil.
Y disgwyl yw y byddai'r myfyrwyr yn cyfrannu at drefnu a chynnal Cynhadledd Uwchraddedigion Ymchwil Aberystwyth (neu'n cymryd rhan mewn cynhadledd arall yn eu maes ymchwil).