Rhaglen Datblygu Ymchwilydd
Beth yw Datblygu Ymchwilwyr?
Yn 2001 cyhoeddodd y Cynghorau Ymchwil Ddatganiad Sgiliau ar y Cyd (Joint Skills Statement, JSS) a oedd yn disgrifio’r sgiliau y mae disgwyl i fyfyrwyr ymchwil eu cael neu eu datblygu. Mae’r rhain yn cynnwys ystod o sgiliau ymchwil, sgiliau proffesiynol a sgiliau trosglwyddadwy. Ystyrir bod datblygu sgiliau o’r fath yn rhan hanfodol o’r profiad o fod yn fyfyriwr ymchwil uwchraddedig. Mae’r Datganiad Datblygu Ymchwilwyr a’r Fframwaith cysylltiedig (gweler isod) a gyhoeddwyd yn 2010 yn esblygiad o’r Datganiad Sgiliau ar y Cyd ac maent yn tynnu sylw at yr ystod o wybodaeth, sgiliau, ymddygiadau a rhinweddau personol y mae’r Cynghorau Ymchwil yn disgwyl i ymchwilwyr eu datblygu yn ystod eu hyfforddiant.
Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr
Mae datblygu sgiliau ymchwil, sgiliau proffesiynol a sgiliau trosglwyddadwy o’r fath yn rhan bwysig o radd ymchwil. Mae angen ystod eang o sgiliau ar ymchwilwyr er mwyn gallu cwblhau gradd yn llwyddiannus, o sgiliau ymchwil cryf i sgiliau effeithiol ym maes cyfathrebu, TG a rheoli gyrfa. Bydd datblygu’r sgiliau hyn nid yn unig yn helpu myfyrwyr i ddod yn ymchwilwyr mwy llwyddiannus, bydd hefyd yn help iddynt ddatblygu’r rhinweddau a’r cyneddfau angenrheidiol i gyflawni eu hamcanion gyrfaol.
Mae holl brifysgolion a chyrff cyllido y DU bellach yn mynnu bod myfyrwyr ymchwil uwchraddedig yn datblygu set o sgiliau generig yn ystod eu hastudiaethau drwy fynychu cyrsiau hyfforddi wedi’u strwythuro a gweithgareddau hyfforddi a datblygu eraill addas. Nod Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth (PA) yw rhoi dulliau a sgiliau generig i fyfyrwyr a fydd yn ymateb i anghenion ymchwilwyr yn yr amgylchedd academaidd modern ac yn eu paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’n chwarae rhan hanfodol wrth greu a chynnal cymuned ymchwil uwch.
Mae Aberystwyth wedi ymrwymo i ddarparu lefel addas o hyfforddiant i’w holl fyfyrwyr uwchraddedig. Yn rhan o’r ymrwymiad hwn mae’r Brifysgol wedi sefydlu rhaglen sydd wedi’i chynllunio i helpu myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gwblhau eu graddau ymchwil yn llwyddiannus a hefyd i wella eu cyflogadwyedd yn y dyfodol. Mae’n dechrau â digwyddiad cyflwyno, ac yna set o fodiwlau ymchwil a ddarperir yn ganolog, wedi’u hategu gan weithdai blynyddol i raddedigion a’u cefnogi gan ystod eang o weithdai, cyrsiau hyfforddi byr a gweithgareddau eraill a gynigir drwy’r Gweithdai Hyfforddiant Sgiliau Proffesiynol a Throsglwyddadwy.
Mae gofyn i’r holl fyfyrwyr ddilyn elfennau penodol o’r rhaglen (ceir mwy o fanylion am hyn yn nes ymlaen), ond mae croeso i’r holl uwchraddedigion hefyd ymuno ag unrhyw agweddau ychwanegol ar y rhaglen, os ydynt yn teimlo y bydd hyn yn cyfoethogi eu set o sgiliau ymchwil. Mae Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr PA, sy’n cael ei rhedeg dan nawdd Ysgol y Graddedigion, yn cael ei hategu gan ddarpariaeth Datblygu Ymchwilwyr benodol-i-bynciau a gynigir gan adrannau unigol, â’r nod o roi sgiliau ymchwil penodol i fyfyrwyr sy’n unigryw i’w disgyblaeth ymchwil benodol hwy ac i anghenion unigol y myfyriwr.
Mae Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr PA yn cael ei chyflwyno gan staff sy’n arbenigwyr yn eu disgyblaeth, sy’n dod ynghyd yn sgil ymrwymiad i greu amgylchedd ymchwil amlddisgyblaeth uwch. O ganlyniad i’r rhaglen hon bydd gan fyfyrwyr well meistrolaeth ar y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i lunio, cynnal ac ysgrifennu eu hymchwil o fewn y terfynau amser a bennwyd. Ers i’r rhaglen gael ei chyflwyno, mae cyfraddau cyflwyno yn PA wedi cynyddu’n sylweddol.
Ceir hefyd reswm galwedigaethol dros ddilyn y rhaglen hon. Bydd yn rhoi i chi sgiliau a chymwyseddau gwerthadwy, i’ch galluogi i symud o radd ymchwil i amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth.
Beth sy’n orfodol i mi ei fynychu?
Mae'r Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr PA yn cynnwys y canlynol:
Cwrs | Orfodol/dewisol |
---|---|
Cynefino |
Mae rhaid i bob myfyriwr ymchwil amser llawn newydd (PhD ac MPhil), a yw eu hymchwil yn cael ei wneud trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, ddilyn y Rhaglen Gyflwyno. Anogir myfyrwyr PhD rhan-amser ac MPhil yn gryf i fynychu. |
Modiwlau Hyfforddiant Ymchwil Canolog |
Gorfodol i uwchraddedigion ymchwil (MPhil a PhD) Bydd y gweithdy hwn yn rhedeg yn Blwyddyn Un, yn dwyn ynghyd y garfan ymchwil ôl-raddedig llawn, Bydd hyn yn cynnwys moeseg, materion yn ymwneud â llên-ladrad, cyfrinachedd, hawlfraint, diogelu data, ac rhyddid gwybodaeth yn y broses ymchwil ac ysgrifennu. Disgwylir i bob myfyriwr PhD amser llawn gwblhau o leiaf 45 credyd o hyfforddiant ymchwil a ddarperir gan y sefydliad yn ystod eu dwy flynedd gyntaf. Mae hyn yn cynnwys:
Disgwylir i bob myfyriwr uwchraddedig rhan-amser gwblhau o leiaf 25 credyd o hyfforddiant ymchwil a ddarperir gan y sefydliad. Mae hyn yn cynnwys:
Disgwylir i bob myfyriwr MPhil amser llawn gwblhau o leiaf 15 credyd o hyfforddiant ymchwil a ddarperir gan y sefydliad. Mae hyn yn cynnwys:
Mae’n holl bwysig i uwchraddedigion ddewis modiwlau hyfforddiant ymchwil sy’n addas i faes eu hymchwil, felly yn y lle cyntaf mae gofyn i uwchraddedigion ymchwil drafod maes eu hymchwil â’u harolygydd / adran, a phenderfynu pa gylch gwaith sy’n berthnasol i’w hymchwil hwy, ac yna rhaid i fyfyrwyr a’u harolygwyr gytuno pa fodiwlau fyddai’r rhai mwyaf addas cyn cofrestru arnynt. Ar ôl trafod â’ch arolygydd, anfonwch y ffurflen trwy e-bost at dîm Ysgol y Graddedigion ar graduate.school@aber.ac.uk. |
Modiwlau Ymchwil Canolog
Math o cwrs | Beth sy'n orfodol |
---|---|
PhD llawn amser | Disgwylir i’r holl fyfyrwyr PhD llawn amser gwblhau isafswm o 45 credyd mewn hyfforddiant ymchwil a ddarperir gan y sefydliad yn ystod y ddwy flynedd gyntaf. Disgwylir y caiff o leiaf 20 credyd eu hastudio yn y flwyddyn gyntaf, ac unrhyw gredydau sy’n weddill yn yr ail flwyddyn. |
PhD rhan amser |
Disgwylir i bob myfyriwr uwchraddedig rhan-amser gwblhau o leiaf 25 credyd o hyfforddiant ymchwil a ddarperir gan y sefydliad. |
MPhil llawn amser | Disgwylir i’r holl fyfyrwyr MPhil llawn amser gwblhau isafswm o 15 credyd mewn hyfforddiant ymchwil a ddarperir gan y sefydliad. |
Gwyddorau Cymdeithasol (ESRC) |
Disgwylir i fyfyrwyr PhD llawn amser astudio’r ddau Fodiwl Craidd (orfodol)
ynghyd ag o leiaf un modiwl arall o blith y rhestr lawn isod (gan sicrhau o leiaf 45 o gredydau) |
Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) | Disgwylir i fyfyrwyr PhD llawn amser yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau ddewis 45 o gredydau o blith y rhestr isod |
Gwyddorau (BBSRC, EPSRC, MRC, NERC, STFC) | Disgwylir i fyfyrwyr PhD llawn amser yn y Gwyddorau ddewis 45 o gredydau o blith y rhestr isod |
Mae'r gofynion hyn yn cael eu penderfynu’n unol â maes ymchwil y myfyriwr unigol. Disgwylir i uwchraddedigion ymchwil drafod eu hymchwil yn y lle cyntaf gyda’u goruchwyliwr/adran, a phenderfynu i ba gylch gorchwyl mae eu hymchwil yn perthyn. Yna rhaid i’r myfyrwyr drafod pa fodiwlau fyddai’n fwyaf addas gyda’u goruchwylwyr cyn cofrestru arnyn nhw.
Rhaglen Ymchwilwyr Aberystwyth
Mae’r Rhaglen Ymchwilwyr Aberystwyth yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddiant byr a gweithgareddau eraill a gynlluniwyd er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cwblhau eu gradd ymchwil yn llwyddiannus a hefyd i wella eu cyfle i gael swydd yn y dyfodol, boed hynny yn y byd academaidd neu yn y byd tu allan. Mae’r cyrsiau a gynigir wedi eu gosod mewn grwpiau yn unol â’r sgiliau a nodir yn y Cyd-Ddatganiad ar Sgiliau. Mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr ymchwil Aberystwyth beth bynnag fo eu ffynhonnell cyllid.
Gweithdai 2022-23
Noder: bydd mwy o weithdai yn cael eu hychwanegu yn ystod y flwyddyn academaidd. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, ac i weld y diweddariadau a gwybodaeth am gyrsiau newydd a’u dyddiadau, cofiwch ymweld â’r dudalen hon yn rheolaidd.
Eich Cyrsiau
Mae cofnod ar gael o’r cyrsiau rydych wedi eich cofrestru ar eu cyfer a holl sesiynau’r Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Uwchraddedig rydych wedi’u mynychu. Gallwch hefyd ofyn am Dystysgrif Bresenoldeb ar gyfer unrhyw un o’r cyrsiau a fynychwyd gennych o’r dudalen hon. [Nodwch y bydd angen cyfrif e-bost gweithgar Prifysgol Aberystwyth arnoch]