Grwp Ymgysylltu Myfyrwyr Ymchwil
Cyfansoddiad
Yr isod yw cyfansoddiad Grŵp Ymgynghorol Myfyrwyr Ymchwil:
- Cadeirydd – Pennaeth Ysgol y Graddedigion
- Un cynrychiolydd o bob Adran
- Un cynrychiolydd o Gymdeithas y Graddedigion
- Un cynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr
- Un cynrychiolydd o’r Myfyrwyr Ymchwil Rhan Amser
- Un cynrychiolydd o’r Myfyrwyr Ymchwil Rhyngwladol
- Un cynrychiolydd o’r Myfyrwyr Ymchwil Cyfrwng Cymraeg
- Un cynrychiolydd o’r staff academaidd o bob Cyfadran
- Un cynrychiolydd o’r Gwasanaethau Gwybodaeth
- Un cynrychiolydd o’r Gofrestrfa Academaidd
- Un cynrychiolydd o Adnoddau Dynol
- Un cynrychiolydd o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd
Llwybrau Adrodd
Bydd Grŵp Ymgynghorol y Myfyrwyr Ymchwil yn adrodd i’r Pwyllgor Graddau Ymchwil. Bydd yn cyfarfod o leiaf ddwywaith ymhob blwyddyn academaidd.
Cylch Gorchwyl
- Derbyn cofnodion pwyllgorau ymgynghorol uwchraddedigion ymchwil/staff yr adrannau
- Ystyried materion yn ymwneud ag amgylchedd cyffredinol graddedigion-myfyrwyr
- Gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Ymchwil Graddau
- Rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff drafod materion sy’n peri pryder mewn fforwm agored
- Ystyried materion yn codi o holiaduron adborth gan fyfyrwyr.
Aelodau Presennol
Cofnodion pwyllgorau’r gorffennol (saesneg yn unig)