Treuliau Staff
Rhyddhad Treth Gweithio o Gartref
Gall staff sy'n gweithio gartref wneud cais i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am ddidyniad treth ar gyfer y costau ychwanegol a ddaw i'w rhan o weithio gartref, gan na fydd y Brifysgol yn cyfrannu dim tuag at y treuliau cartref arferol a ddaw i ran y staff. Cewch ragor o wybodaeth yn y ddogfen ganllawiau isod:
Trethi Teithio a Chynhaliaeth
Am fwy o wybodaeth am yma.
SYLWCH: Dylai staff sicrhau bod eu hyswiriant yn caniatáu iddynt ddefnyddio’u car ar gyfer busnes y Brifysgol, ac ni ddylent gludo teithwyr oni bai bod y polisi’n caniatáu iddynt wneud hynny. Os oes mwy nag un aelod staff yn mynd i’r un cyfarfod, disgwylir iddynt deithio yn yr un car.
Y 10,000 o filltiroedd busnes cyntaf o'r flwyddyn treth | Dros 10,000 o filltiroedd busnes yn ystod flwyddyn treth | |
---|---|---|
Ceir | 45c |
45c |
Beiciau Modur | 24c | 24c |
Beic | 20c | 20c |
Dylech hawlio’r gwariant gwirioneddol hyd at y cyfraddau uchaf a nodir isod.
Bydd angen derbynebau ar gyfer pob eitem, ac eithrio mân gostau na fyddai’n ymarferol cael derbynneb ar eu cyfer (hyd at £5.00 am bob noson i ffwrdd) Noder: Mae hyn am wariant wirioneddol.
Cynhaliaeth | Tu allan i Lundain | Dinasoedd Mawr* | Llundain a Thramor |
---|---|---|---|
Ystafell yn unig | £100 | £115 | £220 |
Gwely a Brecwast | £110 | £125 | £230 |
Pryd Nos | £25 | £25 | £25 |
Brecwast a/neu Bryd canol dydd | £10 | £10 | £10 |
* Mae'r colyfn dinasoedd mawr yn cynnwyd Birmingham, Caerdydd, Caeredin, Castellnewydd, Leeds, Lerpwl a Manceinion
Lwfans Llety | Tu allan i Lundain | Llundain a Thramor |
---|---|---|
Gyda theulu neu ffrindiau (gan gynnwys gwely a brecwast a phryd nos) Sylwch – bydd y lwfans yn cael ei dalu gyda chyflog yr aelod staff, a bydd treth yn daladwy |
£25.00 | £25.00 |
Mân Costau Personol | DU | Tramor |
---|---|---|
Cyfradd ddyddiol am fân gostau personol am bob noson i ffwrdd – heb dderbynebau | £5.00 | £10.00 |
Cynhaliaeth Dydd (Ddim dros nos) - Mae angen derbynabau |
|
---|---|
5-10 awr | £10.00 |
Dros 10 awr | £23.00 |
Cynigir y Brifysgol pedwar ystafell fideogynadledda. Mae manylion llawn ar gyfer rhain ar gael .
Cyn trefnu taith gallwch cysidro os gallwch defnyddio fideogynadledda fel arallddewis i trafeilio.
Ffurflenni
TSs - Cais Mewnol am Dreuliau Teithio a Chynhaliaeth