Caffael

Swyddfa Caffael

Swyddogaeth y Swyddfa Caffael yw hyrwyddo caffael effeithlon ac effeithiol fel rhan o gaffaeliad unrhyw nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Rydyn ni’n rhoi cyngor i’r Brifysgol ar bob gofynion caffael ac yn cynnig polisïau a strategaethau ar gyfer eu trosglwyddiad.  Rydyn ni’n gweithio gyda phob adran er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gwerth gorau am arian, drwy ledaenu’r ymarfer gorau, rhoi cyngor ar reolaeth risg addas a sicrhau cydymffurfiad gyda gofynion statudol.  Y swyddfa hefyd yw’r man cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â rheolaeth cardiau pwrcasu.  

Gwybodaeth

Telerau ac Amodau Contractau

Telerau ac Amodau Contractau

E-Dendro

Mae proses dendro electronig yn hwyluso’r broses dendro yn ei chyfanrwydd, o hysbysebu’r gofynion i ddyfarnu’r contract ar gyfer unrhyw gaffaeliad a weinyddir drwy’r Swyddfa Gaffael. Gweithredir y broses e-dendro hon drwy wefan e-dendro Bravosolution. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddo’r holl ddogfennau perthnasol yn electronig. Dyma esboniad llawnach am y ddwy weithdrefn y gellir eu defnyddio:

  • Y Weithdrefn Agored 
  • Y Weithdrefn Gyfyngedig

Gweithred Tendr Sengl