Unit4 Business World

Defnyddir Unit4 Business World er mwyn rhedeg prosesau ariannol y Brifysgol o ddydd i ddydd; mae’r meysydd isod ar gael ar gyfer staff y tu allan i’r Swyddfa Gyllid:

  • Codi Archebion
  • Cymeradwyo Archebion
  • Adrodd / Ymholiadau
  • Codau Cerdiau Prynu
  • Codi Anfonebau Gwerthiant

Mae gan bob aelod staff fynediad at eu cofnod cyflogaeth yn Business World; bydd yn fwy cyfarwydd i chi o dan yr enw PoblAberPeople. Er mwyn holi am fynediad at feysydd cyllid penodol o Business World, ewch i’r ddolen gysylltiedig ‘Cofrestru ar gyfer Mynediad / Register for Access’ er mwyn holi am y mynediad perthnasol.

Ar ôl i’ch mynediad gael ei gymeradwyo, anfonir e-bost at eich cyfrif e-bost yn y Brifysgol yn cadarnhau eich cais.

Adolygiad

Caffael 2019/20

Dros y misoedd diwethaf, mae adolygiad wedi'i gynnal ar sut y defnyddir system gyllid y Brifysgol (ABW) o safbwynt Caffael. O ganlyniad bydd rhai newidiadau yn cael eu cyflwyno a fydd yn ei gwneud yn fwy effeithlon ac agored, ac yn lleihau risg. Rhoddir manylion y newidiadau hyn isod. Dyma'r newidiadau yn fras:

  1. Anfonir archebion prynu at y cyflenwyr yn uniongyrchol
  2. Gall y defnyddwyr ddewis cyfeiriadau dosbarthu eraill
  3. Bydd ceisiadau am gyflenwyr newydd a newidiadau i fanylion cyflenwyr yn cael eu gwneud o fewn y system

Mae’r modd y mae’r system ABW yn ymdrin â chyfeiriadau mewn archebion ac archebion prynu yn cael ei ddiweddaru. Ar hyn o bryd y drefn ar gyfer anfon anfonebau prynu at gyflenwyr yw bod yr archebion, ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo, yn cael eu dychwelyd i'r archebwyr fel y gallant eu hanfon ymlaen yn uniongyrchol at y cyflenwyr. Mae'r drefn newydd yn golygu y bydd archebion yn cael eu hanfon yn uniongyrchol at y cyflenwyr, a bydd hynny’n gwneud y broses yn fwy effeithlon ac yn lleihau’r risg o ran twyll. Er mwyn lliniaru ar rai o'r anawsterau a allai godi:

  • Yn achos cyflenwyr mawr, bydd y defnyddwyr yn cael dewis pa gyfeiriad y mae angen i'r archeb brynu gael ei hanfon ato wrth iddynt greu archeb. Yn gyffredinol, mae hyn yn berthnasol i gyrff llywodraethau a phrifysgolion yn hytrach na chyflenwyr masnachol.
  • Caiff y defnyddwyr ychwanegu dogfennau at yr archeb, gan nodi naill ai mai dogfen fewnol yn unig yw hi, sef dogfen gyfeirio ar gyfer y brifysgol, neu mai atodyn ydyw, sef dogfen a anfonir gyda'r archeb brynu.

Ar ôl i'r archebion gael eu cymeradwyo, bydd yr archebwyr yn cael cadarnhad o'r rhif PO ac e-gyfeiriad y cyflenwr y mae'r archeb wedi'i hanfon ato. Mae gwaith wedi'i wneud yn ddiweddar i ddiweddaru cofnodion y cyflenwyr ar y system i sicrhau bod yr e-gyfeiriadau ar gyfer archebion yn gywir. Dylai unrhyw newidiadau i e-gyfeiriadau cyflenwyr gael eu gwneud drwy'r drefn arferol (bydd y drefn honno yn newid cyn hir - gweler isod).

Ar ben y newidiadau hyn, mae'r system ar hyn o bryd yn dewis cyfeiriad dosbarthu diofyn, ar sail y ganolfan gost yr archebir y nwyddau ar ei chyfer. Pe byddai defnyddiwr am newid hyn, yr unig ddewis oedd ychwanegu'r manylion i gorff yr archeb brynu neu ychwanegu’r manylion mewn e-bost gyda'r archeb. Gall hynny fod yn ddryslyd i'r cyflenwr ac nid yw'n rhoi argraff broffesiynol iawn. Erbyn hyn fe fydd y defnyddwyr yn cael cyfeiriad dosbarthu diofyn, sef y ganolfan gostau y mae eu cyflog yn cael ei gyfeirio ati, ond fe fydd dewis ar gael mewn cwymplen i roi cyfeiriad dosbarthu arall wrth greu archeb. Os nad yw'r cyfeiriad dosbarthu ar gael ar y ddewislen honno, caiff y defnyddwyr ofyn am gyfeiriad dosbarthu newydd i gael ei greu i'w ddefnyddio yn y dyfodol drwy e-bostio i abwstaff@aber.ac.uk. Os yw cyfeiriadau dosbarthu diofyn yn anghywir ac os yw'r defnyddwyr yn defnyddio cyfeiriad arall bob tro, neu fel arfer, fe allent wneud cais i newid y cyfeiriad hwnnw. Fel rheol dylid dosbarthu i adeiladau'r brifysgol ac fe fydd camau rheoli ar waith i wylio am unrhyw gyfeiriadau dosbarthu newydd nad ydynt yn bodloni'r meini prawf hynny.

Ar ôl hynny fe fyddwn yn ailedrych ar sut yr ymdrinnir â cheisiadau am gyflenwyr newydd a newidiadau i fanylion cyflenwyr. Ar hyn o bryd y defnyddwyr sy’n prosesu’r materion hyn, drwy lenwi ffurflen ar-lein; ond bydd y gwaith hwn yn cael ei ymgorffori yn ABW. Ni fydd yn effeithio lawer ar y defnyddwyr ac fe fydd y broses yn aml yn fyrrach. Bydd y broses gymeradwyo yn sicrhau y cydymffurfir â'r Polisïau Caffael ac fe fydd yn cynnwys dilysu'r manylion banc ar gyfer taliadau.

Mae canllawiau i'r newidiadau uchod ar gael yn https://www.aber.ac.uk/en/finance/information-for-staff/agresso/

Hoffwn fachu ar y cyfle hwn i atgoffa'r aelodau o staff sy'n gyfrifol am brynu nwyddau a gwasanaethau ar ran y brifysgol bod, o dan Weithdrefnau Ariannol y Brifysgol, angen i'n prynwyr wneud ceisiadau am archebion prynu ABW am bob trafodyn cyn i'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith gael eu cyflenwi neu eu darparu gan ein cyflenwyr. Yn rhannol, mae gan y Brifysgol bryderon ynghylch sefyllfaoedd lle y mae cyflenwr wedi darparu gwasanaeth, ond bod yr archeb brynu yn cael ei chodi ar ôl hynny, gan ei bod yn bosib y gallai arwain at gostau yn mynd yn uwch na'r hyn a drefnwyd yn ôl y gyllideb. Mewn achosion felly, fe roddir gwybod i'r defnyddwyr ei bod hi'n bosib, os nad yw archebion prynu yn cael eu cynhyrchu ar yr adeg berthnasol, y gall hynny arwain at sefyllfa lle nad yw ein cyflenwyr yn cael eu talu. Mae Polisi Caffael a Rheoliadau Ariannol y Brifysgol i'w cael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/finance/information-for-staff/procurement/

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn mae croeso ichi gysylltu â ni Procurement yn y lle cyntaf.

Ffurflenni

Ffurflenni Cyflenwyr

Mae'r ffurflen we ar gyfer creu, diwygio ac ail-actifadu cyflenwyr wedi'i dileu. Bellach bydd angen i bob cais am greu, diwygio ac ail-actifadu cyflenwyr gael ei wneud yn ABW yn uniongyrchol, gellir dod o hyd i ganllaw ar y broses ymhellach i lawr ar y dudalen hon o dan yr adran Cyflenwyr

I fewngofnodi i ABW ewch i https://abw.aber.ac.uk/

Os gwelwch nad oes gennych y mynediad angenrheidiol yn ABW i greu, diwygio neu ail-actifadu cyflenwr bydd angen i chi ofyn am fynediad yn https://bisaccess.aber.ac.uk/en/

Ffurflenni Cwsmeriaid

Os oes angen i chi greu neu newid cwsmer gallwch wneud hyn yn ABW, i fewngofnodi ewch i fewngofnodi ABW. Am help, gweler o dan Cwsmer a Gwerthiant yn yr adran Canllawiau a Gwybodaeth isod.

Os yw’r Cwsmer eisoes wedi’i gofrestru ar Business World, a fyddech cystal â llenwi’r ffurflen isod er mwyn gwneud cais i anfon anfoneb:

Canllawiau a Gwybodaeth

Elfennau Sylfaenol

Isod ceir rhestr o gysylltiadau ar gyfer gwybodaeth ddefnyddiol wrth ddefnyddio Agresso:

Cwsmer a Gwerthiant

Ymholiadau ar gyfer Archebu Prynu

Cyn gosod unrhyw archebion gyda chyflenwyr mae'n rhaid eich bod wedi codi Archeb Brynu (PO) cymeradwy, er mwyn codi CP rhaid i chi gwblhau Archeb ar Business World a fydd angen cymeradwyaeth gan gymeradwywyr dynodedig. Unwaith y caiff ei gymeradwyo, bydd y Swyddfa Caffael yn cael ei anfon yn uniongyrchol at y cyflenwr a byddwch yn copïo i mewn iddo.

Raising Requisitions for Purchase Orders (pdf)

Yn cynnwys:   

  1. Sut i godi ymholiad
  2. Beth sy'n digwydd ar ôl i'r ymholiad gael ei godi
  3. Sut i wirio statws ymholiad

Approving Requisitions for Purchase Orders (pdf)

Yn cynnwys: 

  1. Sut i brosesu tasgau cymeradwyo archeb yn Business World

Anfonebau Prynu

Dylai pob Anfoneb Prynu (PI) a dderbynnir gynnwys rhif SP, yn ddelfrydol dylai pob anfoneb gael ei hanfon yn uniongyrchol i'r Adran Gyllid, os ydynt yn dod i law yn eich adran, anfonwch ymlaen at y Cyfrifon Taladwy (paystaff@aber.ac.uk) yn yr Adran Gyllid ar gyfer prosesu.

Er mwyn talu unrhyw gyflenwr mae'n rhaid cwblhau derbynneb nwyddau cyn y taliad, pwrpas hyn yw cadarnhau bod y gwasanaeth/nwyddau rydych wedi'u harchebu wedi'u derbyn.

Os yw DP wedi'i fewnbynnu i Fyd Busnes heb Dderbynneb Nwyddau anfonir tasg 'Derbynneb Nwyddau Coll' i'r Ymholwr i gadarnhau a yw'r gwasanaeth/nwyddau wedi'u derbyn ai peidio.

  • Missing Goods Receipt (Coming Soon)

Os oes gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y SRh a’r DP (5% neu £50) bydd tasg yn cael ei hanfon at y sawl a oedd yn cymeradwyo’r cais yn wreiddiol i gadarnhau ei fod yn fodlon i’r anfoneb gael ei thalu.

  • Purchase Invoice (Coming Soon)

Anfonebau Cyflenwyr

Anfonebau a Ddaw i Mewn