Trawsryweddol

Datganiad Polisi Cydraddoldeb Trawsryweddol ar gyfer myfyrwyr a staff

Trawsnewid yn Gwaith - Gwybodaeth i Reolwyr a staff?

  1. Cod Gwisg a Defnyddio Cyfleusterau
  2. Defnyddio Cyfleusterau
  3. Terminoleg
  4. Ymddygiad a Chyfathrebu
  5. Beth i'w wneud fel Rheolwr
  6. Efallai yr hoffai gweithiwr sy'n trawsnewid ystyried
  7. Geirfa 

1. Cod Gwisg a Defnyddio Cyfleusterau:

Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn mynnu bod ei staff na’i myfyrwyr yn gwisgo dillad o fath penodol, ac eithrio lle mae ystyriaethau iechyd neu ddiogelwch, neu lle bo gofyn gwisgo swyddwisg neu ddillad diogelwch ar gyfer swydd neu leoliad gwaith penodol.

Rhaid i’r rheolwr llinell drafod â’r aelod o staff dan sylw pan fydd yr aelod o staff yn dymuno gwisgo a’u cyflwyno eu hunain yn eu rhywedd datganedig, ac a fydd hyn yn broses raddol ai peidio. Dylai’r rheolwr neu’r Partner Busnes AD sicrhau bod yr unigolyn yn ymwybodol o god gwisg y Brifysgol (fel yr amlinellir uchod) ac os yw’r unigolyn yn teimlo y bydd hyn yn eu hatal mewn rhyw fodd rhag eu cyflwyno eu hunain yn y modd y dymunant, yn ystod y newid neu wedyn, bydd rheolwr llinell yr unigolyn yn ystyried y mater yn gydymdeimladol ac yn unol ag amcanion y polisi hwn, gyda’r nod o ddod o hyd i gyfaddawd boddhaol.

2. Defnyddio Cyfleusterau:

Cyn gynted ag y bydd aelod o staff yn byw yn barhaol mewn rôl rhywedd, hyd yn oed os nad ydynt wedi cael triniaeth feddygol neu lawfeddygol, neu os nad ydynt yn bwriadu cael triniaeth o’r fath, mae ganddynt hawl i ddefnyddio’r cyfleusterau sy’n cyfateb i’w rhywedd datganedig. Mae hyn yn cynnwys toiledau ac ystafelloedd newid.

Ni ddylid, o dan unrhyw amgylchiadau, gyfarwyddo na gofyn i’r aelod o staff ddefnyddio toiledau hygyrch neu’r toiledau sy’n cyfateb i’r rhyw a briodolwyd iddynt ar eu genedigaeth. Oni bai eu bod yn dymuno gwneud hynny neu fod yn rhaid iddynt ddefnyddio’r toiled hwn am resymau hygyrchedd.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth mae gennym hefyd doiledau niwtral o ran rhywedd mewn mannau amrywiol ledled y coleg. Gall pawb ddefnyddio’r rhain, a gall pobl drawsrywiol ddewis eu defnyddio, ond ni ddylid eu hail-gyfeirio iddynt.  

5. Os bydd gweithiwr yn cysylltu â chi sy'n bwriadu trawsnewid, sydd wrthi’n trawsnewid neu sydd wedi trawsnewid, mae angen i chi allu:

  • gwrando a dangos cefnogaeth i'r gweithiwr
  • mabwysiadu dull sy'n cwrdd â gofynion y gweithiwr
  • deall y gallai'r gweithiwr fod ag ystod o wahanol brofiadau neu amcanion yr hoffent eu trafod o bosibl
  • deall bod pob gweithiwr yn unigryw a bydd ganddynt eu hamserlen /cyflymder eu hunain ar gyfer trawsnewid
  • trafod gyda'r gweithiwr pwy sydd angen ei hysbysu yn y gwaith yn ystod camau gwahanol y broses drawsnewid.
  • trafod a yw'r gweithiwr yn cynllunio ymyriadau meddygol ai peidio ac a fydd angen unrhyw amser i ffwrdd arnynt ar gyfer apwyntiadau a/neu lawdriniaeth
  • cytuno â'r gweithiwr pa gamau sydd angen eu cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl trawsnewid. Gellir gwneud hyn trwy ddatblygu cytundeb neu gynllun gweithredu
  • cytuno ar ddyddiadau, amseroedd ac amlder addas ar gyfer cyfarfodydd adolygu gyda'r gweithiwr yn rhan o unrhyw gynllun gweithredu neu gytundeb
  • cael cyngor gan AD, neu'r rhwydwaith LGBT + fel ag y bo’n briodol.

6. Efallai yr hoffai gweithiwr sy'n trawsnewid ystyried y canlynol:

  • Meddyliwch am ddull a fydd yn cwrdd â'ch gofynion
  • Meddyliwch am yr amserlen a'r cyflymder yr ydych yn bwriadu trawsnewid
  • Ystyriwch a fydd angen unrhyw amser i ffwrdd arnoch chi ar gyfer apwyntiadau ac ati
  • Ystyriwch unrhyw gamau y gallai fod angen eu cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl trawsnewid. Gellid gwneud hyn trwy ddatblygu cytundeb neu gynllun gweithredu gyda'ch rheolwr
  • Ystyriwch ddyddiadau, amseroedd ac amlder addas ar gyfer cyfarfodydd adolygu gyda'ch rheolwr fel rhan o unrhyw gynllun gweithredu neu gytundeb
  • Sut fyddech chi eisiau i'ch cydweithwyr adrannol, staff eraill yr ydych chi'n gweithio gyda nhw yn y brifysgol, a/neu'ch myfyrwyr, ddysgu eich bod yn trawsnewid? Hoffech chi ddechrau rhoi gwybod i'r bobl rydych chi'n gweithio agosaf gyda nhw trwy sgyrsiau unigol? A yw anfon e-bost yn elfen ddefnyddiol o'r cyfathrebu? Ydych chi eisiau dweud wrth gydweithwyr mewn cyfarfod personol? Ar gyfer sgyrsiau neu gyfarfodydd personol, a hoffech i'ch rheolwr neu Bennaeth Adran, Adnoddau Dynol, cynrychiolydd o’r Rhwydwaith LGBT, a/neu rywun o'ch rhwydwaith cymorth eich hun fod yn bresennol?
  • Pryd ydych chi eisiau i newidiadau i systemau mewnol a dogfennau ddod i rym?
  • A fydd angen i chi wneud newidiadau i unrhyw offer, e.e. arwyddion drws, bathodynnau enw, ffotograffau.
  • Gofynnwch am gyngor gan AD, neu'r rhwydwaith LGBT + fel ag y bo’n briodol

7. Geirfa:

Mae termau ac iaith sy’n disgrifio pobl drawsryweddol a materion trawsryweddol yn datblygu’n gyflym ac mae llawer o’r termau hyn yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Ceir yma ddiffiniadau y byddai pobl yn gyffredinol, ond nid pawb, yn eu deall.

Rhywedd Caffaeledig

Mae’r gyfraith yn defnyddio’r term ‘rhywedd caffaeledig’ i gyfeirio at y rhywedd y mae person trawsryweddol yn ei arddel ac yn ei gyflwyno i’r byd. Nid dyma’r categori rhywedd y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni, ond dyma’r rhywedd y dylid eu trin yn unol ag ef.

Croeswisgwr

Rhywun sy’n gwisgo dillad y byddid yn disgwyl fel arfer i rywun o’r rhywedd ‘arall’ eu gwisgo. Termau eraill a ddefnyddir yw ‘trawswisgwr’ a ‘rôl ddeuol’. Mae croeswisgwyr yn annhebygol o fod â hunaniaeth lawn amser fel aelodau o’r rhywedd y maent yn croeswisgo ynddo ac fel arfer nid ydynt yn ceisio ymyrraeth feddygol.

Deuoliaeth Rhywedd

Mae system ddeuol yn caniatáu dau beth neu gyflwr yn unig – er enghraifft, poeth/oer. O safbwynt rhywedd, mae’n cyfeirio at gategorïau ‘naill ai/neu’ gwrywaidd/benywaidd ac nid yw’n caniatáu, nac yn cydnabod, profiadau eraill o rywedd.

Dysfforia Rhywedd

Y cam cyntaf gan amlaf i bobl drawsryweddol sy’n ceisio ymyrraeth feddygol yw cael diagnosis o ‘dysfforia rhywedd’. Mae dysfforia rhywedd yn disgrifio ymdeimlad cryf, parhaus o anesmwythder neu drallod oherwydd gwrthdaro rhwng hunaniaeth rhywedd rhywun a’r categori rhywedd y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni.

Hunaniaeth Rhywedd

Ymdeimlad rhywun o fod yn wrywaidd, yn fenywaidd, yn berson anneuaidd neu ymdeimlad arall o rywedd. Disgwylir fel arfer i hunaniaeth rhywedd pobl gyfateb yn uniongyrchol i'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni (yn seiliedig ar nodweddion corfforol), ond nid yw hynny bob amser yn wir.

Ailbennu Rhywedd

Y broses o newid neu drawsnewid o un rhywedd i un arall.

Tystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC)

Tystysgrif a roddir o dan y Ddeddf Cydnabod Rhywedd sy’n galluogi pobl i sicrhau cydnabyddiaeth gyfreithiol i’w rhywedd caffaeledig.

Camryweddu

Rydych yn camryweddu pobl drwy gyfeirio atynt gan ddefnyddio gair, yn arbennig rhagenw neu gyfarchiad, nad yw’n adlewyrchu’n gywir y rhywedd y maen nhw’n uniaethu ag ef.

Person Anneuaidd

Rhywun nad yw’n arddel y dull deuaidd arferol o ddisgrifio rhywedd, ac nad yw o bosib yn ystyried ei hun yn wrywaidd nac yn fenywaidd, neu sy’n ystyried ei hun yn wrywaidd ac yn fenywaidd, neu sy’n arddel rhywedd mewn ffordd gwbl wahanol. 

Person Trawsryweddol (neu draws)

Term cyffredinol, cynhwysol sy’n cyfeirio at bobl y mae eu profiad personol o rywedd yn mynd y tu hwnt i brofiadau nodweddiadol y rhai yn yr un categori rhyw â’r un y rhoddwyd nhw ynddo. Ymhlith eraill, gall pobl drawsrywiol, pobl anneuaidd a chroeswisgwyr i gyd eu hystyried eu hunain yn bobl drawsryweddol.

Person Trawsrywiol

Mae’r term hwn yn cael ei gysylltu gan amlaf â nodwedd gyfreithiol warchodedig ‘ailbennu rhywedd’. Gall pobl drawsrywiol fod yn bobl a roddwyd yn y categori benywaidd adeg eu geni ac sydd wedi trawsnewid neu sydd wrthi’n trawsnewid i fyw fel dyn, neu bobl a roddwyd yn y categori gwrywaidd adeg eu geni ac sydd wedi trawsnewid neu sydd wrthi’n trawsnewid i fyw fel menyw. Nid yw’n ofynnol o dan yn gyfraith i bobl gael triniaeth feddygol i gael eu cydnabod fel pobl drawsrywiol. Unwaith y bydd pobl drawsrywiol wedi cael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd, dylid eu trin yn gyfan gwbl yn eu rhywedd caffaeledig. 

Dyn Trawsryweddol

Dyn trawsryweddol yw person trawsryweddol benyw-i-wryw a roddwyd yn y categori benywaidd adeg ei eni ond sy’n arddel hunaniaeth wrywaidd.

Menyw Drawsryweddol

Menyw drawsryweddol yw person trawsryweddol gwryw-i-fenyw a roddwyd yn y categori gwrywaidd adeg ei geni ond sy’n arddel hunaniaeth fenywaidd. 

Trawsnewid

Y camau y bydd person trawsryweddol yn eu cymryd o’r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo i’r un y maen nhw’n ei arddel. Gall hyn gyfeirio at drawsnewid cymdeithasol (newid enw, dillad ac ati), trawsnewid meddygol (hormonau a/neu lawdriniaeth) neu’r ddau.

Sut i fod yn gynhwysol

Yr arfer gorau yw gofyn pa ragenwau y mae pobl am eu defnyddio a’r hyn maen nhw yn ddefnyddio eu hunain.

Mae llawer o gyfarfodydd yn gwneud hyn fel rhan o rownd gyflwyno, e.e., 'Helo, Ruth ydw i, Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant Prifysgol Aberystwyth. Rwy’n defnyddio Miss neu Ms a nhw neu hi fel rhagenw.'

Rhan o’r frawddeg Enghraifft gyda hunaniaeth rhyw Enghraifft heb hunaniaeth rhyw Hefyd yn cael eu defnyddio (ysgrifenedig / rhyngwladol – e.e. cyfnodolion)
Rhagenw goddrych Chwarddodd ef/hi am ben y syniad o redeg marathon Roedden nhw yn chwerthin am ben y syniad o redeg marathon Zie
Per
Xe
Rhagenw gwrthrych Roeddent yn ceisio ei darbwyllo hi/ddarbwyllo ef nad yw anrhywedd yn bod Roeddent yn ceisio eu darbwyllo hwy nad yw anrhywedd yn bod Hir
Per
Xem
Ansoddair meddiannol Wyddon ni ddim beth yw ei hoff liw ef/hi Wyddon ni ddim beth yw ei hoff liw nhw Hir
Pers
Xyr
Rhagenw meddiannol Fe/hi biau’r mýg yna Nhw biau’r mýg yna Hirs
Pers
Xyrs
Rhagenw perthynol Mae gan y rheolwr feddwl mawr ohoni’i/ohono’i hun Mae gan y rheolwr feddwl mawr o’u hunain irself
Perself
Xemself
Teitlau Miss, Mrs, Ms,
Mr
Mx
Mx