Athena Swan

Rydym yn falch o fod wedi ennill Gwobr Efydd Athena SWAN (Medi 2023) sy'n cydnabod ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb o ran rhywedd ar draws y Brifysgol.

Dyma gais Prifysgol Aberystwyth am Wobr Efydd Athena Swan (Aberystwyth University application for an Athena Swan Bronze Award), sy’n cynnwys ein Cynllun Gweithredu Athena Swan 2023-2028.

Beth yw Athena Swan?

Mae Siarter Athena Swan yn fframwaith a ddefnyddir ar draws y byd i gefnogi a thrawsnewid cydraddoldeb o ran rhywedd mewn addysg uwch (AU) ac ymchwil. Sefydlwyd y Siarter yn 2005 i annog a chydnabod ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM), a chaiff ei ddefnyddio bellach ar draws y byd i fynd i’r afael â chydraddoldeb o ran rhywedd yn fwy eang, ac nid dim ond y rhwystrau dilyniant sy’n effeithio ar fenywod.

Pam fod hyn yn bwysig?

  • helpu sefydliadau i gyflawni eu hamcanion cydraddoldeb o ran rhywedd
  • cynorthwyo sefydliadau i fodloni gofynion deddfwriaeth cydraddoldeb, yn ogystal â gofynion a disgwyliadau rhai cyllidwyr a chynghorau ymchwil
  • defnyddio fframwaith hunanasesu wedi’i thargedu sy’n cynorthwyo ymgeiswyr i nodi meysydd ar gyfer gweithredu cadarnhaol yn ogystal â nodi a rhannu arfer gorau
  • cefnogi hyrwyddo arferion gwaith cynhwysol a all wella cyfradd cadw academyddion a staff proffesiynol ac ategol gwerthfawr, a dangos ymrwymiad eich sefydliad i amgylchedd gwaith cyfiawn

Sut mae hyn yn effeithio ar Brifysgol Aberystwyth?

Mae siarter Athena Swan Advance HE yn cwmpasu pob hunaniaeth rhywedd mewn:

  • swyddi academaidd mewn STEMM ac AHSSBL
  • swyddi staff proffesiynol, rheoli ac ategol

mewn perthynas â’u:

  • cynrychiolaeth
  • dilyniant myfyrwyr i’r byd academaidd
  • taith drwy gerrig milltir gyrfaol
  • amgylchedd gwaith i’r holl staff

Y Tîm Hunanasesu:

Paratôdd y Tîm Hunanasesu gais y Brifysgol am y Wobr Efydd a bydd yn goruchwylio gweithrediad y Cynllun Gweithredu.

Enw Swydd/Adran E-bost
Al Rhodes Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth, Undeb y Myfyrwyr alr80
Andrew Thomas Pennaeth Adran, Ysgol Fusnes ant42
Anwen Jones  Dirprwy Is-Ganghellor, Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol  aej
Anthonia Ijeoma Onyeahialam Gwyddonydd Arsyllu’r Ddaear a GIS – Prosiect GEOM, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear  aio
Christine Zarges Uwch-ddarlithydd, Adran Cyfrifiadureg  chz8
Delphine Demelas Cynorthwyydd Ymchwil Ôl-ddoethurol – Geiriadur Eingl-Normanaidd, Adran Ieithoedd Modern  ded22
Elin Mabbutt Rheolwr Prosiect Cynhyrchu Cyfryngau Uwch, Adran Cyfrifiadureg  emm32
Gabor Gelleri Uwch-ddarlithydd, Ieithoedd Modern gag9
James Woolley Arweinydd Thema E-ddysgu, Cyfoethogi ac Ymgysylltu, Gwasanaethau Gwybodaeth  jbw
Jessica Adams Cymrawd Ymchwil, IBERS jaa
Lucy Trotter Darlithydd Addysg, Ysgol Addysg lut22
Megan Talbot Darlithydd Cyswllt, Adran y Gyfraith a Throseddeg met32
Mike Morris Rheolwr Datblygu Busnes, IBERS tem
Rachel Cross Uwch-ddarlithydd, Adran Ffiseg rac21
Dylan Jones Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant dej20
Sarah Dalesman Darlithydd Bioleg Dŵr Croyw, Adran y Gwyddorau Bywyd sad31

 

Cysylltiadau Athena Swan:

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ar waith y Brifysgol ar gyfer Nod Siarter Athena Swan cysylltwch â

  • Dylan Jones, Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant dej20@aber.ac.uk