Arolwg cydraddoldeb LHDTC+

Rydym yn gweithio'n galed i greu cymuned cwbl gynhwysol yn y Brifysgol ac yn ymfalchïo yn amrywiaeth ein staff a'n myfyrwyr.

Hoffai Stonewall glywed gan bawb o’n staff am eu profiadau yn y gweithle. Mae'r wybodaeth a ddarparwch yn gwbl ddienw.

Mae'n hynod o werthfawr clywed eich barn a'ch profiadau ar gydraddoldeb LHDTC+. Felly, byddem yn annog pob aelod o staff i lenwi’r arolwg staff:

Yr Arolwg

Ni ddylai gymryd mwy na phum munud i’w gwblhau, erbyn 15 Rhagfyr 2023 yw’r dyddiad cau ar gyfer ymateb.

Hoffem hefyd eich atgoffa o Rwydwaith LHDT Staff Aber. Mae’n agored i holl staff a myfyrwyr uwch-raddedig sy'n nodi eu bod yn lesbiaid, yn hoyw, yn ddeurywiol, anneuaidd a thrawsrywiol, hynod, neu'n cwestiynu a ace, yn ogystal ac aelodau cyfeillgar o'r gymuned.

Mae’r rhwydwaith ar hyn o bryd yn gobeithio denu aelodau newydd a chysylltu â mwy o gynrychiolwyr bi, anneuaidd a thraws.

Bydd cyfarfod nesaf y Rwydwaith LHDT Staff Aber am 13:00 ar ddydd Gwener 24 Tachwedd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at Dylan Jones dej20@aber.ac.uk