Prifysgol Wrth-Hiliol

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hiliaeth ac i fynd ati i weithredu yn wrth-hiliol.  Ni fydd anghydraddoldeb hil yn diflannu heb ymdrech a chamau gweithredu parhaus i herio a dileu camwahaniaethu ar sail hil a gwella profiad staff a myfyrwyr sydd o leiafrifoedd ethnig.

Mae'r Brifysgol yn croesawu'r rhan y bydd yn ei chwarae yng ngweledigaeth Llywodraeth Cymru o wneud Cymru'n genedl wrth-hiliol.  Mae’n ymrwymo i hyrwyddo agwedd o ddim goddefgarwch tuag at hiliaeth ledled y Brifysgol (Dim Hiliaeth Cymru).  

Nid yw'n ddigon i ddweud 'Dydw i ddim yn hiliol'.  

Fel prifysgol rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni wneud mwy i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hil trwy fynd ati i herio eraill a gwrthsefyll hiliaeth, ac rydym yn gwneud newidiadau yn y meysydd canlynol.