Cwblhau ein harolwg Siarter Cydraddoldeb Hil

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hil a meithrin amgylchedd mwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn gwahodd ein holl fyfyrwyr a staff i gymryd rhan yn ein harolwg Siarter Cydraddoldeb Hil.

Cwblhau ein harolwg Siarter Cydraddoldeb Hil

Bydd yr arolwg ar gael i staff ar 5 Chwefror am gyfnod o dair wythnos. Yna, bydd yn agor i fyfyrwyr ar 3 Mawrth am dair wythnos arall. Ni ddylai gymryd mwy na 10-15 munud i’w gwblhau.

Rydym yn annog yr holl staff a myfyrwyr, waeth beth fo'ch hil neu ethnigrwydd, i gymryd rhan. Bydd eich mewnbwn yn cyfrannu'n sylweddol at ein dealltwriaeth o gydraddoldeb hil ym Mhrifysgol Aberystwyth. Po fwyaf o aelodau ein cymuned sy'n cymryd rhan, y cryfaf yw'r sylfaen ar gyfer creu amgylchedd mwy cynhwysol i bobl o bob ethnigrwydd.

Gadewch i ni wneud gwahaniaeth!

Meddai’r Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesedd) a Chadeirydd Tîm Hunanasesu’r Siarter Cydraddoldeb Hil,

“Rydym am glywed eich barn ar astudio a gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac a ydych yn meddwl bod unrhyw beth gallwn ei wneud i ddileu gwahaniaethu ar sail hil a hyrwyddo cydraddoldeb hil.”

Fformat yr Arolwg

Mae'r arolwg yn eich annog i raddio a disgrifio'ch profiadau, gan gynnig cipolygon gwerthfawr a fydd yn ein helpu i ddeall, cynllunio a gweithredu gwelliannau yn ein hymagwedd a'n gwasanaethau ar gyfer yr holl staff a myfyrwyr.

Mae’r arolwg wedi’i strwythuro o amgylch tair thema hollbwysig:

  • Synnwyr o Berthyn
  • Siarad a Chyfathrebu
  • Diwylliant a Hinsawdd

Mae pob thema yn cynnwys cwestiynau amlddewis am eich profiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth. O fewn pob thema, mae o leiaf un cyfle i roi sylwadau ychwanegol mewn blwch testun rhydd os dymunwch. Mae’r adran Ddemograffeg yn cynnwys cwestiynau am eich hunaniaeth, a bydd ymatebion cyfun yn ein helpu i gymharu profiadau ar draws gwahanol grwpiau myfyrwyr a staff.

Beth arall ydyn ni'n ei wneud?

Rydym wedi ymrwymo i egwyddorion Siarter Cydraddoldeb Hil Advance HE, sy'n rhan annatod o'n cynllun Gweithredu Hil ehangach. Mae'r Siarter hon yn darparu fframwaith ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hil, gyda mentrau parhaus ar y gweill. Mae'r cam nesaf yn cynnwys dadansoddi data sylweddol i nodi a mynd i'r afael â materion, nodau a blaenoriaethau hil-benodol ar draws y Brifysgol gyfan, gan wneud yr arolwg hwn yn rhan hollbwysig o'n hymdrechion.

Mae’r arolwg yn ffordd ystyrlon y gall ein cymuned rannu profiadau a safbwyntiau personol, gan ddarparu cyfleoedd i edrych ar faterion a phryderon yn fwy manwl – rydym am gadw’r sgwrs i fynd.

Ym mis Mawrth bydd sawl sesiwn wrando, yn benodol ar gyfer staff a myfyrwyr lleiafrifoedd ethnig. Bwriad y rhain yw cynnig gofod diogel ac anffurfiol i rannu meddyliau a phrofiadau. Bydd canlyniadau'r sesiynau hyn, ynghyd â chanlyniadau arolygon, yn gosod y sylfaen ar gyfer cyfres o sioeau teithiol cymunedol, gan ganolbwyntio ar faterion yn ymwneud â hil a hyrwyddo amgylchedd prifysgol gwrth-hiliol.

Cadwch lygad am wahoddiadau er mwyn ymgysylltu yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd.

Ar ddiwedd yr arolwg, fe welwch ddolen i ffurflen ar wahân lle gallwch chi fynegi diddordeb mewn cyfrannu at grwpiau ffocws yn dilyn yr arolwg. Bydd y grwpiau hyn yn helpu i ddehongli canlyniadau arolygon ac yn darparu llwyfan i aelodau'r gymuned rannu eu profiadau.

Gofalu am eich Lles

Rydym yn deall y gall yr arolwg ennyn atgofion annymunol neu drawmatig. Gellir dod o hyd i adnoddau cymorth ar ein tudalennau gwe Gwasanaethau Myfyrwyr ac Adnoddau Dynol, ac mae Dylan Jones ein Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gael ar gyfer trafodaethau sy’n ymwneud â’r arolwg drwy e-bostio cydraddoldeb@aber.ac.uk