Rhywedd a hunaniaeth ryweddol

Yn ogystal ag egwyddor llwyddiant academaidd, fe sefydlwyd y brifysgol ym 1872 hefyd ar egwyddor cynhwysiant, wrth iddi agor ei drysau i bawb, ni waeth beth fo’u cefndir. Roedd ymhlith y sefydliadau cyntaf i dderbyn menywod fel myfyrwyr. Rydym yn dal ati i hybu cynwysoldeb a dangos ymrwymiad parhaus i hyrwyddo cydraddoldeb rhyweddol: cynrychiolaeth, cynnydd a llwyddiant i bawb.

Mae ein hymagwedd ni tuag at gydraddoldeb rhyweddol yn cydnabod y croestoriadau rhwng rhywedd a nodweddion eraill, ac yn arwain ein gwaith trwy ganolbwyntio ar ganlyniadau.