Terminoleg sy'n ymwneud â hil

Dros y misoedd diwethaf rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ymwybyddiaeth hil gydag amryw grwpiau, staff a myfyrwyr. Un o'r pynciau trafod rheolaidd yw'r derminoleg i'w defnyddio wrth drafod hil ac ethnigrwydd.

Yn rhan o'n gwaith tuag at gael achrediad efydd y Siarter Cydraddoldeb Hiliol, bydd Ian Munton yn cadeirio grŵp bach i drafod hil a diwylliant yn y Brifysgol, a llunio canllawiau dwyieithog ar derminoleg fydd yn un o'u gorchwylion.

Yn y cyfamser, mae’r Weithrediaeth wedi cytuno y bydd Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio'r 'canllawiau ar derminoleg hil' a ddatblygwyd gan Brifysgol Caerlŷr. Maent i’w gweld yma:

Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Caerlŷr am ganiatáu i ni ddefnyddio'r canllawiau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am dermau hil Cymraeg, cysylltwch â cyfieithu@aber.ac.uk neu mae yna crynodeb isod.

Colin McInnnes
Cadeirydd y Grŵp Gweithredu ar Hil
Gorffennaf 2023

Crynodeb

Term Pryd
ethnig l(l)eiafrifol Er ein bod yn annog cyfeirio at grwpiau ethnig penodol, lle nad yw hyn yn bosibl defnyddir y term ‘ethnig leiafrifol’ wrth gyfeirio at bob grŵp ethnig ac eithrio gwyn*.
BAME Er cysondeb, mae’n bosibl y bydd y Brifysgol yn ei ddefnyddio yn ei gohebiaeth â chyrff allanol ynghylch data (e.e. Marc y Siarter Cydraddoldeb Hil)
Cefndir Du/ethnig Du Fe'i defnyddir wrth gyfeirio at unrhyw un sy'n dod o gefndir Affricanaidd, Caribïaidd neu gefndir Du arall.
Cefndir Asiaidd/ethnig Asiaidd Fe'i defnyddir wrth gyfeirio at unrhyw un sy'n dod o gefndir Bangladeshaidd, Tsieineaidd, Indiaidd, Pacistanaidd neu unrhyw gefndir Asiaidd arall. Er ein bod yn annog cyfeirio at grwpiau ethnig penodol, pan ddefnyddir y term mwy cyffredinol ‘Asiaidd’, gall fod yn ddefnyddiol gwahaniaethu a nodi a yw hyn yn ymwneud â phobl o gefndiroedd De Asiaidd ynteu Ddwyrain Asiaidd (lle bo hynny'n berthnasol).
cefndir ethnig cymysg Fe'i defnyddir wrth gyfeirio at unrhyw un sy'n dod o gefndir Asiaidd a gwyn, Du Affricanaidd a gwyn, Du Caribïaidd a gwyn, unrhyw gefndir cymysg arall. 
cefndir gwyn/ethnig gwyn Fe'i defnyddir wrth gyfeirio at unrhyw un sy'n dod o gefndir gwyn Prydeinig neu wyn arall**.

 

Categorïau ethnigrwydd 
"Asiaidd / Asiaidd Prydeinig (prif gategori)
Yn cynnwys is-gategorïau ethnig Bangladeshaidd, Tsieineaidd, Indiaidd, Pacistanaidd, unrhyw gefndir Asiaidd arall. Pan ddefnyddir y term ‘Asiaidd’ mae hyn yn cynnwys yr holl is-gategorïau uchod."
"Du / Du Prydeinig (prif gategori)
Yn cynnwys is-gategorïau ethnig Affricanaidd, Caribïaidd, unrhyw gefndir Du arall. Pan ddefnyddir y term ‘Du’ mae hyn yn cynnwys yr holl is-gategorïau uchod. "
"Cymysg (prif gategori)
Yn cynnwys is-gategorïau ethnig Asiaidd a Gwyn, Du Affricanaidd a Gwyn, Du Caribïaidd a Gwyn, unrhyw gefndir cymysg arall. Pan ddefnyddir y term ‘Cymysg’ mae hyn yn cynnwys yr holl is-gategorïau uchod."
"Grŵp Ethnig Arall (prif gategori)
Yn cynnwys is-gategorïau ethnig Arabaidd, unrhyw gefndir arall. Pan ddefnyddir y term ‘Grŵp Ethnig Arall’ mae hyn yn cynnwys yr holl is-gategorïau uchod."
"Dewis peidio â dweud
Mae hyn yn cyfeirio at unigolion nad oes arnynt eisiau datgelu eu cefndir ethnig. Mae'r Brifysgol yn parchu dewis unigolyn i beidio â datgelu ei ethnigrwydd. Mae'r Brifysgol yn cydnabod cyfyngiadau'r dewisiadau ar gyfer datgelu ethnigrwydd a bydd yn gweithio'n agos gyda’i staff a’i myfyrwyr i ddatblygu a mireinio'r dewisiadau hyn fel eu bod yn cynrychioli ein myfyrwyr a'n staff."
"Heb ei ddatgan / Anhysbys
Mae hyn yn cyfeirio at unigolion nad oes gan y Brifysgol unrhyw wybodaeth am eu hethnigrwydd ar hyn o bryd."
"Gwyn / Gwyn Prydeinig (prif gategori)
Yn cynnwys is-gategorïau gwyn, unrhyw gefndir gwyn arall, Sipsi neu Deithiwr. Pan ddefnyddir y term ‘gwyn’ mae hyn yn cynnwys yr holl is-gategorïau uchod. "

 

Terminoleg sy'n ymwneud â hil Terminoleg sy'n ymwneud â hil (Saesneg)
Aflonyddu ar sail hil Racial harassment
Anghydraddoldebau hil Racial inequalities
Cefndir Asiaidd / Ethnig Asiaidd Asian / Asian Ethnic background
Cefndir Du / Ethnig Du / Cymunedau Du Black / Black ethnic background / Black communities
cefndir ethnig cymysg mixed ethnic background
cefndir gwyn / ethnig gwyn white / white ethnic background
Cydraddoldeb Hil Race Equality
Cymunedau Ethnig Leiafrifol Minority Ethnic communities
Cynllun Gweithredu ar Hil Race Action Plan
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Black, Asian and Minority Ethnic
Du, Brodorol a Phobl o Liw Black, Indigenous and People of Colour (BIPOC)
Ethnig L(l)eiafrifol Minority Ethnic
Ethnigrwydd / Tarddiad Ethnig / Cefndir ethnig Ethnicity / Ethnic Origin / Ethnic background
goruchafiaeth / braint / bregusrwydd pobl wyn white supremacy / privilege / fragility
Grwpiau / pobl nad ydynt yn wyn Non-white groups / people
Grwpiau Ethnig Ethnic Groups
Gwrth-Hiliaeth Anti-Racism
Hil Race
Hiliaeth Racism
Hiliaeth sefydliadol Institutional racism
Hiliaeth strwythurol a chymdeithasol Structural and societal racism
Hiliaeth Systemig Systemic Racism
Hunaniaeth ethnig Ethnic identity
Lleiafrifoedd sydd wedi cael eu hileiddio Racialised minorities
Mae Bywydau Du o Bwys Black Lives Matter
microymosodiad(au) microaggression(s)
Mwyafrif byd-eang Global majority
Rhyddid i lefaru Freedom of speech
Sipsi neu Deithiwr Gypsy or Traveller
Teithwyr Gwyddelig Irish travellers
Trefedigaethedd Colonialism