Cynllun Gweithredu ar Hil 2022-2025
Nodau ac amcanion
Cynllun Gweithredu ar Hil (2022-2025)
Thema | Gweithredu | Unigolyn / Tîm sy'n gyfrifol | Blwyddyn 1 | Blwyddyn 2 | Blwyddyn 3 | Cynnydd |
---|---|---|---|---|---|---|
1. Strwythurau, camau gweithredu a thryloywder llywodraethu | 1.1. Sefydlu tasglu/ grŵp gorchwyl a gorffen mewnol ar Gydraddoldeb Hiliol i weithio ar yr holl gamau gweithredu sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn. Cynnwys staff o adrannau penodol a chynrychiolwyr llais y myfyrwyr. Gwahodd staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i mewn i gael eu safbwyntiau am eu profiadau byw os ydynt yn hapus i wneud hynny. | 1.1. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda’r Arweinydd Gweithredol ar Ethnigrwydd
|
1.1. Dewis cydweithwyr o Adrannau penodol a llunio Cylch Gorchwyl a threfnu cyfarfodydd ar gyfer Blwyddyn 2 | 1.1. Parhau i gyfarfod, parhau â'r gwaith ar gamau gweithredu AC unrhyw gamau gweithredu newydd | 1.1. Parhau i gyfarfod, parhau â'r gwaith ar gamau gweithredu AC unrhyw gamau gweithredu newydd | Wedi'i gwblhau - Grŵp Gweithredu ar Hil |
1.2. Sicrhau bod cydraddoldeb hiliol yn cael ei gynnwys yn eitem sefydlog ar agenda Gweithrediaeth PA ac yn cael ei drafod bob 6/8 wythnos. |
1.2. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda Phennaeth Swyddfa'r Is-Ganghellor | 1.2. Sefydlu a gweithredu | 1.2. Parhau | 1.2. Parhau | Wedi'i gwblhau - Is-bwyllgorau | |
1.3. Is-Ganghellor a Chadeirydd y Cyngor i ymrwymo i benodi nifer penodol o aelodau’r Cyngor o blith ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. | 1.3. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda’r Arweinydd Gweithredol ar Ethnigrwydd i roi cyngor | 1.3. Sefydlu llinell amser a geiriad | 1.3. Gweithredu a pharhau | 1.3. Gwerthuso a pharhau | Ar y gweill | |
2. Strwythurau adrodd hygyrch ar gyfer gwahaniaethu ac aflonyddu | 2.1. Gwneud yr offeryn adrodd i fyfyrwyr yn fwy amlwg ar wefan PA, a gwella’r wybodaeth ar ddod o hyd iddo.
|
2.1. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol gyda’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd
|
2.1. Cwblhau o fewn blwyddyn 1
|
|
|
Wedi'i gwblhau - Adrodd a Chymorth |
2.2. Gwella'r iaith a ddefnyddir yn yr offeryn adrodd h.y. llai o bwyslais ar iechyd a defnyddio iaith sy'n cydnabod y trawma ynghlwm wrth adrodd am aflonyddu | 2.2. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol gyda’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd | 2.2. Cwblhau o fewn blwyddyn 1 | Wedi'i gwblhau - Adrodd a Chymorth | |||
2.3. Ymchwilio i weld a allwn weithredu offeryn adrodd dienw i staff mewn ffordd debyg i’r hyn a wnaed gyda’r offeryn i fyfyrwyr | 2.3. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol gyda Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol | 2.3. Gweithio gydag AU Ymlaen a CCAUC ar sut i wneud i hyn weithio tra'n parhau i sicrhau cydymffurfiaeth â’r GDRP a’r rhwymedigaethau cyfreithiol | 2.3. Profi, treialu, llunio canllawiau, hyfforddiant | 2.3. Rhoi'r system ar waith | Ar y gweill | |
2.4. Creu un man i storio achosion o aflonyddu a gwahaniaethu gan staff a myfyrwyr | 2.4. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol gyda Llywodraethiant a’r Gwasanaethau Gwybodaeth | 2.4. Gweithio gyda chydweithwyr yn yr adrannau Cydymffurfiaeth Gwybodaeth a Gwasanaethau Gwybodaeth i weld sut y gallai hyn weithio, yn unol â'r system newydd i staff | 2.4. Profi ar yr un pryd â threialon y system adrodd i staff | 2.4. Gweithredu | Ar y gweill ac yn gysylltiedig i pwyntiau 2.1 a 2.3. | |
3. Cynorthwyo ein myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol: cadw myfyrwyr, cau'r bwlch dyfarnu, creu cwricwlwm mwy amrywiol | 3.1. Creu cwricwlwm mwy amrywiol. Gweithio gyda chynrychiolwyr llais y myfyrwyr, yr adrannau academaidd, a’r cyfadrannau ar gasglu gwybodaeth ynghylch sut i fynd ati i greu cwricwlwm mwy amrywiol. |
3.1. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol | 3.1. Casglu gwybodaeth, coladu syniadau, ymchwil cefndirol | 3.1. Treialon ar ddewis yr Adrannau ar draws y Cyfadrannau | 3.1. Gweithredu newidiadau | Treialon wedi'u gwblhau ac yn trafod camau nesaf |
3.2. Gweithio gyda chynrychiolwyr llais y myfyrwyr, a'r Gofrestrfa Academaidd i ychwanegu cydymffurfiaeth o ran ‘cwricwlwm amrywiol' at strwythurau adolygu safonol. | 3.2. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol a'r Gofrestrfa Academaidd | 3.2. Gweithio gyda'r Gofrestrfa Academaidd ar y ffordd orau o wneud hyn er mwyn sicrhau ei fod yn ystyrlon ac nid yn ymarfer 'ticio blychau' yn unig | 3.2. Treialon ar ddewis yr Adrannau ar draws y Cyfadrannau | 3.2. Gweithredu a gwerthuso | Ar y gweill - grwp tasg o'r Bwrdd Academaidd | |
3.3. Gweithio gyda thîm y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol i lunio’r strategaeth ar gau’r bwlch cyrhaeddiad. Edrych ar yr effaith a gafodd polisïau dim anfantais ar leihau'r bwlch. | 3.3. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol | 3.3. Casglu gwybodaeth, coladu syniadau, ymchwil cefndirol | 3.3. Treialon o dulliau ac arfer gorau | 3.3. Rhoi unrhyw fesurau llwyddiannus ar waith yn barhaol | Ar y gweill fel rhan o'r cais i'r Siarter Cydraddoldeb Hil | |
4. Cynorthwyo ein staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol: recriwtio, mentora, codi proffil, gwobrwyo a chydnabyddiaeth | 4.1. Mentora ar gyfer staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i’w cynorthwyo i symud ymlaen ac i ddatblygu eu gyrfaoedd | 4.1. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant a Phennaeth Datblygu Sefydliadol a Dysgu | 4.1. Cwblhau o fewn blwyddyn 1 | 4.1. Gwerthuso |
|
Heb ddechrau |
4.2. Y Rhwydwaith Staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gael hanner diwrnod encil gyda Gweithrediaeth PA i helpu i ffurfioli'r hyn maent yn dymuno ei wneud â'r rhwydwaith wrth symud ymlaen |
4.2. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda Phennaeth Swyddfa'r Is-Ganghellor | 4.2. Cwblhau am y tro cyntaf o fewn blwyddyn 1 | 4.2. Ailadrodd y sesiwn | Ar y gweill | ||
4.3. Ffurfioli cyllid ar gyfer Rhwydwaith Staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gynnal digwyddiadau ac ati |
4.3. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r Arweinydd Gweithredol ar Ethnigrwydd | 4.3. Cwblhau o fewn blwyddyn 1 | 4.3. Gwerthuso cyllid | Wedi'i gwblhau ac yn parhau - Rhwydwaith Staff Du a Lleiafrifoedd Ethnig | ||
4.4. Anelu at recriwtio staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i'r Brifysgol yn unol â ffigurau’r myfyrwyr. Byddwn yn ceisio tystiolaeth gan Brifysgolion eraill ar fentrau llwyddiannus ac yn cydweithio'n agos â’r adran Marchnata Byd-eang a Denu Myfyrwyr. |
4.4. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol gyda Phennaeth y Tîm Gwasanaethau Staff yn Adnoddau Dynol | 4.4. Anelu at gynyddu’r niferoedd bob blwyddyn | 4.4. i gynyddu’r niferoedd bob blwyddyn | 4.4. Anelu at 1% o gynnydd bob blwyddyn |
Parhau - Adroddiadau Cydraddoldeb Ers 2020 - mae'r nifer o staff ethnig lleiafrifol wedi cynnyddu o 5.4% i 6.0% |
|
4.5. Creu ffug gylch dyrchafiadau ar gyfer staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gynyddu cyfraddau llwyddiant pan ddaw cyfle am ddyrchafiadau go-iawn |
4.5. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda’r Pennaeth Datblygu Sefydliadol a Dysgu | 4.5. Dechrau dylunio'r rhaglen gyda chyngor gan gydweithwyr mewn SAU eraill | 4.5. Cyflwyno 1 carfan ar y rhaglen | 4.5. Gwerthuso, addasu a chyflwyno 2il garfan ar y rhaglen | Heb ddechrau | |
5. Codi ymwybyddiaeth a chynyddu gwybodaeth yr holl staff ynglŷn â hil a hiliaeth | 5.1. Darparu cwrs/modiwl hyfforddiant cydraddoldeb hiliol/gwrth-hiliaeth ar gyfer yr holl staff. |
5.1. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda Phennaeth Datblygu Sefydliadol a Dysgu | 5.1. Ymchwil a chwmpasu
|
5.1. Gweithredu
|
5.1. Gwerthuso a diwygio os oes angen
|
Wedi'i gwblhau - Gadewch i ni drafod am hil yn y gweithle - Hyfforddiant Cydraddoldeb |
5.2. Cyflwyno mentora o chwith ar gyfer uwch reolwyr a rheolwyr canol, gan gynnwys y Weithrediaeth, gan staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, i ddysgu mwy am eu profiadau byw. |
5.2. Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda Phennaeth Datblygu Sefydliadol a Dysgu | 5.2. Ymchwil a dylunio | 5.2. Gweithredu | 5.2. Gweithredu am yr ail flwyddyn a gwerthuso a diwygio os oes angen | Ar y gweill | |
6. Cyfathrebu a rhannu arfer gorau | 6.1. Archwiliad mewnol o gydraddoldeb hiliol - i gael darlun o’r hyn sydd eisoes yn digwydd yn fewnol (gan gynnwys Undeb y Myfyrwyr)
|
6.1. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol
|
6.1. Dechrau’r ymarfer
|
6.1. Cyflwyno’r canfyddiadau a chreu porth i storio gwybodaeth ac eitemau eraill o ddiddordeb
|
|
Wedi'i gwblhau ac yn parhau |
6.2. Cyfathrebu â'r holl staff a myfyrwyr ynglŷn â chynnydd a’r bylchau o ran hil a chydraddoldeb hiliol | 6.2. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol a’r tîm Cyfathrebu | 6.2. Gweithio gyda'r tîm cyfathrebu ar strategaeth gyfathrebu | 6.2. Gwerthuso cynnydd a gwella os oes angen | 6.2. Gwerthuso cynnydd a gwella os oes angen | Wedi'i gwblhau fel rhan o'r diweddariad blynyddol ar gydraddoldeb yn yr Adroddiadau Cydraddoldeb a diweddariadau i staff. | |
6.3. Ymarfer dadansoddi bylchau o ran y ffordd rydym yn ein cyflwyno ein hunain fel Prifysgol. Marchnata a Denu Myfyrwyr, Adnoddau Dynol, Cyfathrebu. | 6.3. Tîm y tasglu Cydraddoldeb Hiliol | 6.3. Gweithio gydag Adrannau allweddol sy'n gyfrifol am ddelwedd y Brifysgol ar sut y gallwn sicrhau amrywiaeth a gwneud newidiadau/ gwelliannau | 6.3. Gwerthuso cynnydd ac unrhyw newidiadau o ran y data – gwneud newidiadau pellach os oes angen | 6.3. Gwerthuso cynnydd ac unrhyw newidiadau o ran y data – gwneud newidiadau pellach os oes angen | Parhau |