Amdanom ni

Sefydlwyd ein Hysgol yn 1892, ac mae ymhlith yr adrannau Addysg hynaf yn y Deyrnas Unedig.

Ein nod yw cyfuno'r gorau o'n traddodiad ni am ragoriaeth academaidd â'r dulliau diweddaraf oll o ddysgu, cysylltu â'r myfyrwyr ac ymchwilio. 

P'un a ydych yn penderfynu astudio gyda ni ar sail amser llawn neu'n rhan-amser, gallwch fod yn hyderus y byddwch yn magu sylfaen gadarn i'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth ynghyd â'r sgiliau trosglwyddadwy a werthfawrogir gan gyflogwyr. 

Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau, gan gynnwys cyrsiau mewn Astudiaethau Plentyndod ac Addysg, a chyrsiau datblygu proffesiynol parhaus i athrawon ar lefel gradd Meistr, a graddau ymchwil mewn Addysg.

Wrth addysgu a gwneud gwaith ymchwil, rydym wedi ymrwymo i wasanaethu anghenion addysgol, diwylliannol, ieithyddol a chymdeithasol Cymru, ac ystyriwn fod cyfrannu i'r gymuned leol yn bwysig iawn. Wrth wneud hynny, gwerthfawrogwn yn fawr y gallu i gydweithio â darparwyr annibynnol yn y gymuned, ysgolion, awdurdodau unedol a sefydliadau addysgol eraill, yn lleol ac yn genedlaethol, yn ogystal â phartneriaid a sefydliadau eraill yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a'r byd ehangach. Drwy'r partneriaethau hyn, rydym yn mynd ati i wneud ymchwil ym maes addysg a lles, datblygu rhyngwladol, polisïau addysg, addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg i deuluoedd y lluoedd arfog.

Drwy ddarllen y tudalennau hyn, cewch flas ar yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ac rydym yn eich annog i ddod i ymweld â ni i ganfod mwy. Archebwch le ar un o'n Diwrnodau Agored, a dewch i gwrdd â'n cymuned fywiog o fyfyrwyr a staff. Fe gewch groeso cynnes.

Ein cymuned

Mae Aberystwyth yn dref brifysgol ddwyieithog, eangfrydig a bywiog, rhwng bryniau tirion y Canolbarth a glannau prydferth Bae Ceredigion.

Byddwch yn rhan o brifysgol gampws sydd â'i chanolfan chwaraeon ei hun a Chanolfan Gelfyddydau brysur, ac fe fyddwch ddrws nesaf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru - un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r Brifysgol yn rhan fawr o'r dref, ac fe welwch chi bod myfyrwyr a staff y brifysgol ynghyd â'r bobl yn y gymuned leol yn gyfeillgar ac yn groesawgar.

Ein myfyrwyr sydd wrth galon yr Ysgol Addysg, ac maen nhw'n dweud wrthym ni eu bod wrth eu bodd â'r awyrgylch cyfeillgar a chefnogol rydym wedi'i greu yma. Mae Canllaw Prifysgolion Da The Times a’r Sunday Times 2024 wedi gosod yr Ysgol Addysg ar y brig yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ac yn 2il yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd yr Addysgu ym mhwnc Addysg. Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024, roedd 96% o'n myfyrwyr yn yr Adran Addysg yn gadarnhaol am yr 'Addysgu ar eu cwrs', ac roedd 94% yn gadarnhaol am y 'Cymorth Academaidd' a gawsant. Heb os, fe fydd eich amser gyda ni yma ym Mhrifysgol Aberystwyth yn brofiad anhygoel a fydd yn aros yn y cof.

Ein cyrsiau

Yma yn yr Ysgol Addysg, rydym yn cynnig ystod eang o raddau israddedig ac ôl-raddedig. Rydym yn cynnig graddau mewn Astudiaethau Plentyndod ac Addysg, yn ogystal â nifer uchel o raddau cyfun a phrif/is-bwnc. Golyga hyn y gallwch chi astudio Addysg ochr yn ochr â phwnc academaidd arall.

Rydym yn cynnig Doethuriaeth Broffesiynol (DProf) ar gyfer myfyrwyr sy'n awyddus i barhau â'u hastudiaethau. Mae'r radd hon yn addas i bobl sydd â gradd israddedig berthnasol neu brofiad proffesiynol cyfatebol. Canfod mwy am y DProf.

Mae ein cynlluniau gradd cyffrous yn berthnasol i'r gweithle ac yn uchel eu parch ymhlith myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Yn ôl data diweddaraf HESA, roedd 92% o’n graddedigion mewn gwaith neu'n astudio ymhellach 15 mis ar ôl graddio (Arolwg Canlyniadau Graddedigion Prifysgol Aberystwyth, Mehefin 2023, HESA). Mae hyn yn dangos bod ein haddysgu arloesol yn paratoi ein myfyrwyr i drosglwyddo'n ddidrafferth o'r campws i'r gweithle.

Dyma wybodaeth am ein cyrsiau gradd Anrhydedd Sengl.

BA Addysg (3 blynedd)
Nod y radd hon yw datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'r rôl y mae addysg yn ei chwarae mewn gwahanol gyd-destunau ac amrywiaeth o ysgolion, lleoliadau addysgol a chyflenwyr addysg ôl-16. Mae Addysg yn bwnc rhyngddisgybledig sy'n rhoi boddhad, ac fe fydd yn eich cynorthwyo i ddysgu am sut mae pobl o bob oedran yn dysgu, ynghyd â'r ffactorau sy'n dylanwadau ar p'un y mae'r profiad hwnnw'n un bositif neu negyddol. Bydd y radd hon yn cynnig gwybodaeth bynciol berthnasol a sgiliau proffesiynol, ynghyd ag amrywiaeth o brofiadau addysgol, a fydd yn rhoi'r cyfle i chi gael profiad o weithio mewn ystod o rolau proffesiynol sy'n gysylltiedig ag addysg. Mae'r radd BA Addysg yn canolbwyntio ar gefnogi dysgwyr, anghenion addysgol arbennig, ac arfer yn y dosbarth, a cheir amrywiaeth o fodiwlau arbenigol yn y meysydd hyn. Os yw gyrfa addysgu a'r cyfle i ddylanwadu ar genedlaethau'r dyfodol yn apelio i chi, gallwch fod yn hyderus bod y radd hon yn cynnig llwybr i'r rhaglenni hyfforddiant i athrawon cynradd (Tystysgrif Addysg i Raddedigion, TAR) yn ogystal.

BA Addysg (4 blynedd)
Mae Addysg yn bwnc rhyngddisgybledig sy'n rhoi boddhad, ac fe fydd yn eich cynorthwyo i ddysgu am sut mae pobl o bob oedran yn dysgu, ynghyd â'r ffactorau sy'n dylanwadau ar p'un y mae'r profiad hwnnw'n un bositif neu negyddol.
Mae'r cwrs gyda blwyddyn sylfaen integredig, ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd perthnasol neu ddigonol, yn ddewis perffaith i gael mynediad i'r cwrs gradd hwn. Yn ystod y flwyddyn sylfaen, cewch ddatblygu sylfaen gadarn i'ch galluogi i fynd ymlaen i astudio'r radd lawn.
Bydd y radd hon yn cynnig gwybodaeth bynciol berthnasol a sgiliau proffesiynol, ynghyd ag amrywiaeth o brofiadau addysgol, a fydd yn rhoi'r cyfle i chi 
gael profiad o weithio mewn ystod o rolau proffesiynol sy'n gysylltiedig ag addysg. Mae'r radd BA Addysg yn canolbwyntio ar gefnogi dysgwyr, anghenion addysgol arbennig, ac arfer yn y dosbarth, a cheir amrywiaeth o fodiwlau arbenigol yn y meysydd hyn.
Os yw gyrfa addysgu a'r cyfle i ddylanwadu ar genedlaethau'r dyfodol yn apelio i chi, gallwch fod yn hyderus bod y radd hon yn cynnig llwybr i'r rhaglenni hyfforddiant i athrawon cynradd (Tystysgrif Addysg i Raddedigion, TAR) yn ogystal.

BA Astudiaethau Plentyndod (3 blynedd)
Bydd y radd mewn Astudiaethau Plentyndod yn eich galluogi i archwilio ystod eang o feysydd sy'n hanfodol i fywydau plant, a bydd yn eich paratoi chi gyda'r sgiliau a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol er mwyn gweithio mewn ystod o swyddi'n ymwneud â phlant. Pa bynnag yrfa y byddwch yn ei dewis, bydd y radd hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi o'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, ynghyd â sgiliau beirniadol a gwerthuso. Hefyd, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r gofynion mynediad, gallwn roi sicrwydd y cewch gyfweliad ar gyfer astudio TAR Cynradd yn Aberystwyth.

BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (3 blynedd)
Ydych chi â diddordeb mewn ymchwilio i sut mae plant yn y blynyddoedd cynnar yn datblygu, ac astudio'r wybodaeth ddamcaniaethol a'r ymchwil sy'n dylanwadu ar y dulliau a ddefnyddir heddiw? Os ydych, ymunwch â ni ar y cwrs hwn. Gan ddefnyddio agweddau ar seicoleg, cymdeithaseg, astudiaethau plentyndod ac addysg, bydd y radd hon yn cyfuno theori ac ymarfer ac yn caniatáu i chi ddatblygu dealltwriaeth glir am y cyfnod hwn ym mywydau plant. Gan weithio o fewn y cyfnod lle mae datblygu'n digwydd yn gyflym iawn, byddwch yn dysgu am sut mae ymarferwyr yn cadw cofnod o'r datblygiad hwn, i'w galluogi i gynllunio'n ofalus ac mewn modd addas ar gyfer camau nesaf pob plentyn.
Gan dreulio dros 700 o oriau mewn lleoliadau gyda phlant ifanc, byddwch yn datblygu'r sgiliau proffesiynol ac academaidd sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn gyrfa ym maes plentyndod cynnar.

I gael rhagor o wybodaeth am ein holl gyrsiau, ewch i'n tudalen  a phorwch y cyrsiau yr ydym yn eu cynnig. Os oes gennych gwestiynau, da chi cysylltwch â ni - gweler yr adran 'Cysylltu â ni' yn y brif ddewislen.