Ymchwilio i effeithiau Covid-19 ar addysg Gymraeg

Manylion y prosiect

Roedd cyfnodau clo pandemig Covid-19 yn heriol i ystod eang o bobl a sectorau, gan gynnwys ysgolion.  Bu’n rhaid i athrawon a disgyblion ymdopi’n gyflym gyda’r drefn newydd o weithio o gartref a dysgu ac addysgu o bell.  Ymhlith yr heriau ychwanegol oedd yn wynebu ysgolion cyfrwng Cymraeg ar y pryd roedd estyn cefnogaeth i blant o gartrefi di-Gymraeg.

Yn dilyn y cyfnod clo cyntaf yn 2020, aeth ymchwilwyr yn Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth ati i edrych yn fanylach ar yr effaith gafodd y pandemig ar addysg disgyblion. Gan weithio mewn partneriaeth gyda sawl prifysgol arall yng Nghymru a gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, aethpwyd ati i lunio tair astudiaeth arbennig. 

Nod yr astudiaeth gyntaf oedd archwilio sut y gwnaeth ysgolion ymateb i ofynion dysgu o bell a chyfunol, adnabod arfer da ac ystyried gwersi i’w dysgu ar gyfer ysgolion yn ogystal ag ar gyfer hyfforddi athrawon newydd yn y dyfodol.

Roedd yr ail astudiaeth yn edrych ar yr effaith y cafodd cau ac ailagor ysgolion yn raddol ar ddysgwyr, yn enwedig y rhai sy’n cael eu hystyried yn ddifreintiedig.

Ffocws y trydydd prosiect oedd pwyso a mesur effaith cyfyngiadau Covid-19 ar ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ac yn benodol felly'r rhai hynny sy'n byw mewn cartrefi di-Gymraeg.  Fel rhan o’r astudiaeth yma, bu ymchwilwyr yn siarad gydag athrawon, disgyblion, rhieni a gofalwyr er mwyn clywed am eu profiadau uniongyrchol nhw.  Cafodd casgliadau ac argymhellion yr ymchwil, a ddechreuodd yn Hydref 2020, eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2021.

Ers hynny, mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Addysg Aberystwyth wedi parhau i astudio effeithiau gwahanol Covid-19 ar ysgolion cyfrwng Cymraeg, gan ganolbwyntio ar ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg a sut orau oedd eu cefnogi nhw.  Ym mis Awst 2023, fe gyhoeddon nhw adroddiad yn edrych yn benodol ar yr effaith ar ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg oedd wedi trosglwyddo o’r ysgol gynradd i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ystod y pandemig. Comisiynwyd yr adroddiad yma gan Ganolfan Dystiolaeth Covid-19 Cymru ac fe rannwyd y canfyddiadau a’r argymhellion gyda Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a Chonsortia Addysg Cymru ymhlith eraill.

Ond roedd gwaith pellach i’w wneud, yn ôl Dr Siân Lloyd-Williams Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth. “O fod wedi gwneud yr astudiaethau cyntaf yma, roedd yn glir bod angen parhau â’r gwaith er mwyn i ni allu cloriannu, cydnabod a chofnodi effaith ein hargymhellion ar sut i gefnogi teuluoedd di-Gymraeg,” meddai.  “Aethom ati i drefnu cyfres o weithdai, gan ddwyn ynghyd cynrychiolwyr o’r awdurdodau addysg lleol, athrawon, rhieni ac eraill i glywed eu profiadau nhw a chasglu tystiolaeth. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cyd-greu llyfryn arbennig y gall athrawon ei defnyddio i gefnogi disgyblion o gartrefi di-Gymraeg sy’n mynychu ysgolion Cymraeg.”

Cafodd y llyfryn Cysylltu, Cefnogi a Chynnig Cyfleoedd (Cysylltu, Cefnogi a Chynnig Cyfleoedd pdf) ei lansio yn ystod digwyddiad hyfforddiant i athrawon ym mis Ionawr 2025 ac mae modd ei lawrlwytho copi PDF o wefan y Brifysgol neu holi am gopi caled.

Dywedodd aelod arall o dîm ymchwil Ysgol Addysg Aberystwyth, Dr Rhodri Aled Evans: “Dyma enghraifft o gydweithio effeithiol a phwrpasol rhwng academyddion ac ymarferwyr ar lawr gwlad. Ein gobaith yw y bydd y llyfryn yma, ynghyd ag argymhellion ein hastudiaethau blaenorol, yn adnodd gwerthfawr i’r sector addysg ac o fudd i athrawon, disbyglion a theuluoedd fel ei gilydd.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Ceredigion, Elen James: “Mae wedi bod yn hynod werthfawr cydweithio gydag ymchwilwyr y Brifysgol i greu adnoddau pwrpasol sy’n cynnig cymorth ymarferol ar sut mae gwella ymhellach brofiadau disgyblion o gartrefi di-Gymraeg. Mae’r gwaith hwn yn gyfoethog ac yn fan cychwyn gwych ar gyfer cydweithio pellach. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r project yn y dyfodol.”

Cafodd y gwaith o gyd-greu’r llyfryn gefnogaeth hefyd gan AberCollab, cynllun a sefydlwyd gan Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi’r Brifysgol i feithrin cydweithio a phartneriaethau ymchwil.

Adnoddau defnyddiol

Adnoddau defnyddiol