Cyfleusterau Chwaraeon
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau chwaraeon ar y campws gyda ffocws o sicrhau bod pob myfyriwr ac aelod o staff yn cael cyfle i gymryd rhan, waeth beth fo’u gallu neu’u diddordebau. Pa un ai eich bod eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu’ch bod yn ymroddedig i weithgaredd penodol, mae Campws Penglais yn cynnig cyfleusterau sy’n amrywio o bwll nofio a champfa i gae 3G gyda llifoleuadau, cyrtiau sboncen a hyd yn oed sawna Nordig.
Cyfleusterau Campfa
Yn sgil buddsoddiad diweddar o £250,000, gallwn gynnig yr offer gorau posibl sydd ar gael. Mae’r Ganolfan Ffitrwydd (campfa) wedi’i rhannu i bum ardal arbenigol; theatr cardiofasgiwlar, ystafell llwytho platiau, ystafell cryfder a chyflyru, ardal hyfforddiant personol a menywod a’r stiwdio sbinio.
Ystafell Sbinio
Mae yna nifer o ddosbarthiadau sbinio dyddiol sy’n agored i bawb o fyfyrwyr a staff i unrhyw un arall. Mae 14 beic ar gael a 15 dosbarth gwahanol bob wythnos.
Ystafell Pwysau Rhydd
Mae’r Ystafell Pwysau Rhydd yn darparu ystod o beiriannau cryfder a chyflyru a detholiad eang o bwysau rhydd. Mae’r ystafell yn berffaith i unigolion sy’n dilyn rhaglen benodol.
Cyfleusterau Nofio
Pwll nofio’r Ganolfan Chwaraeon yw cartref y gwersi nofio a’r gweithgareddau pwll yn Aberystwyth. Mae’r Ganolfan Chwaraeon yn cynnig dosbarthiadau wythnosol a phob yn ail wythnos gan gynnwys Ffitrwydd Dŵr, Ymarfer Corff Dŵr a Nofio Treiathlon. Yn ogystal â’r dosbarthiadau hyn y mae’r Ganolfan Chwaraeon yn eu cynnal, mae nifer o glybiau chwaraeon y Brifysgol yn cynnal gweithgareddau rheolaidd megis Sub Aqua, Nofio a Pholo Dŵr ac Octopush (Hoci o dan y dŵr).
Sawna Nordig
Mae ein sawna Nordig yn gaban pren sy’n creu atmosffer ‘trofannol’ sy’n gweithredu ar dymheredd o rhwng 50 a 60° a lleithder o rhwng 40 a 50%.
Cyfleusterau dan do
Stiwdio Ddawns
O ddawnsio stryd i ddawnsio sioe, dechreuwyr i ddawnswyr proffesiynol, mae’r stiwdio ddawns yn darparu gofod ar gyfer nifer o glybiau dawns gwahanol yn rhan o Undeb y Myfyrwyr ac yn allanol i’r Brifysgol. Rhagor o wybodaeth.
Wal Ddringo
Mae ein wal ddringo, a elwir hefyd yn 'Box Rox' wedi’i lleoli yn y ganolfan chwaraeon ac mae ar gael i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd. Mae’n rhaid i bob dringwr lofnodi ffurflen gofrestru a thalu ffi untro o £6 i gael mynediad i’r waliau. Wedi hynny, mae Box Rox ar gael i’w logi yn y ganolfan chwaraeon drwy ffonio neu alw heibio.
Cyrtiau Sboncen
Wedi’i lleoli yn y Gawell Chwaraeon, mae’r ardal sboncen yn cynnwys tri chwrt sydd ar gael i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd. I logi cwrt sboncen, ewch i’r dderbynfa yn y gawell chwaraeon neu ffoniwch y ganolfan chwaraeon ar: 01970 622280
Hefyd, os oes gennych chi ddiddordeb mawr mewn sboncen neu os ydych chi eisiau chwarae’n hamddenol â grŵp cyfeillgar o bobl, mae’r Gymdeithas Sboncen yn cynnal sesiynau rheolaidd. I gael rhagor o wybodaetha.
Cyfleusterau awyr agored
Cae 3G
Mae’r cae 3G wedi’i leoli gyferbyn â mynediad y Ganolfan Chwaraeon ac mae’n lleoliad i nifer o chwaraeon y brifysgol a gweithgareddau eraill gan gynnwys pêl-droed a hoci. Mae gan y cae lifoleuadau ac mae ar gael i’w ddefnyddio gan fyfyrwyr, clybiau myfyrwyr, staff, ysgolion a grwpiau cymunedol drwy gydol y flwyddyn.
Trac Rhedeg
Mae’r Mondotrack SX yn arwyneb arloesol o ganlyniad i ymchwil newydd gan Brifysgol Paris. Bydd yr arwyneb hwn yn gwella ac ehangu perfformiad athletaidd y defnyddwyr.
Cawell 3G
Mae’r cyfleuster yn mesur 40m x 25m, ac mae’n gyfleuster hyfforddi ychwanegol ar gyfer chwaraeon cyswllt. Mae yna lifoleuadau ac mae wedi’i leoli o flaen y Ganolfan Chwaraeon drwy nesaf i’r Cae 3G. Mae ar gael i’w ddefnyddio gan fyfyrwyr, clybiau myfyrwyr, staff, ysgolion a grwpiau cymunedol drwy gydol y flwyddyn.