Adeiladau Academaedd

Yr Ysgol Gelf (Adeilad Edward Davies)

Mae'r Ysgol Gelf, neu Adeilad Edward Davies, i'w chael oddi ar Gampws Penglais, tuag at ganol y dref. Dyma gartref Yr Ysgol Gelf. 

Adeilad Carwyn James

Mae Adeilad Carwyn James yn gartref i Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff rhan o IBERS.

Hugh Owen

Yn adeilad Hugh Owen lleolir adrannau Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, y Gyfraith a Throseddeg, ac leithoedd Modern ac yr Ysgol Fusnes Aberystwyth, yn ogystal a phrif lyfrgell y Brifysgol.

Adeilad IBERS

Adeilad newydd Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ar Gampws Penglais yw conolfan weinyddol yr adran, ac mae yno hefyd gaffi. Drws nesaf iddo mae adeilad Edward Llwyd, lleoliad y prif labordai a'r ystafelloed dysgu.

Canolfan Ceffylau Lluest

Mae Canolfan Ceffylau Lluest yn ganolfan a adeiladwyd yn unswydd ar gyfer astudiaethau ceffylau; mae i'w chael ar Gampws Llanbadarn y Brifysgol.

Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Yr adeilad yma, lleolir adrannau Hanes ac Hanes Cymru a Gweleidyddiaeth Ryngwladol.

Adeilad Llandinam 

Yn adeilad Llandinam mae ein hadrannau Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a Chyfrifiadureg.

Adeilad P5

Yr adeilad hwn yw lleoliad yr adrannau Seicoleg, Astudiaethau Gwybodaeth ac  Yr Ysgol Addysg.

Adeilad Parry Williams

Adeilad Parry Williams yw cartref Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ac Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu'r Brifysgol.

Adeilad y Gwyddorau Ffisegel

Mae Adeilad y Gwyddorau Ffisegol yn gartref i'n hadrannau Mathemateg a Ffiseg, yn ogystal a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol.