Cyfleoedd Gwaith Maes
Caiff ein myfyrwyr israddedig gyfle i ymgymryd â gwaith maes amrywiol yn ystod eu tair blynedd yn Aberystwyth. Mae hyn yn dechrau ar gychwyn eich astudiaethau drwy archwilio cefnwlad Aberystwyth a’i daearyddiaeth ddifyr, fydd yn ysbrydoli’r holl fyfyrwyr ar ein rhaglenni gradd.
Ceir teithiau maes lleol yn fynych drwy gydol y cynlluniau gradd mewn modiwlau penodol, ond yr uchafbwynt i lawer o fyfyrwyr yw’r teithiau maes rhyngwladol rydym ni’n eu cynnig. Dros y blynyddoedd diwethaf mae myfyrwyr wedi ymweld â Seland Newydd, Efrog Newydd, Sbaen ac Iwerddon. Bydd y rhain yn cyfoethogi eich datblygiad personol a’ch sgiliau technegol yn ogystal â chynnig cyfle pwysig i werthfawrogi rhyfeddodau daearyddol a daearegol gwledydd eraill.
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau maes Daearyddiaeth (Ffisegol a Dynol), Gwyddor Daear a Gwyddor Amgylcheddol.
Mae fideos amrywiol o rai teithiau maes lleol a rhyngwladol diweddar i’w gweld yn yr Oriel Gwaith Maes Amlgyfrwng.