Ffyrdd o Roi i Aber
P’un a ydych chi’n dewis rhoi unwaith neu roi yn rheolaidd, rydym yn ddiolchgar iawn i chi am ddewis gwneud hynny - diolch!
Mae sawl ffordd i gyfrannu rhodd i Brifysgol Aberystwyth, ac maent wedi’u nodi isod:
- Ar-lein: gallwch dalu ar-lein i osod rhodd reolaidd neu rodd unigol i'r Brifysgol.
- Trwy’r post: argraffwch a llenwch ein Ffurflen Roddi, a’i dychwelyd i’r cyfeiriad rhadbost a ddarparwyd.
- Gallwch gyfrannu trwy drosglwyddiad banc.
Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, mae’r tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn gweithio o bell.
Oherwydd hyn, bydd unrhyw gyfraniadau sy’n cael eu hanfon trwy’r post yn cymryd mwy o amser nag arfer i’w prosesu. Er ein bod yn bwriadu casglu’r post bob wythnos, bydd hyn yn oedi’r amser ymateb i unrhyw gyfathrebu trwy’r post.
Gwneud i’ch rhodd fynd ymhellach
Cymorth Rhod
Rhoi arian o’ch cyflog
Arian cyfatebol
Rhoddion her
Gallwch hefyd wneud rhodd i Aber trwy’r dulliau canlynol
Rhoddion Mewn Da
Stocau a Chyfrannddaliadau
Tir ac Eiddo
Gwneud Rhodd o'r Unol Daleithiau
Gwneud Rhodd o Ewrop
Gwneud Rhodd o Dramor
Mae Prifysgol Aberystwyth yn elusen gofrestredig, rhif 1145141.