Gwirfoddolwch yn Aber
Beth yw e-Fentora?
Caiff e-Fentora Aberystwyth ei gyllido gan Gronfa Aber ac mae’n llwyfan ar-lein i gyn-fyfyrwyr Aber gynnig gwasanaeth mentora am yrfaoedd a chyfarwyddyd i fyfyrwyr presennol a graddedigion newydd.
Caiff myfyrwyr eu paru â mentoriaid o blith y cyn-fyfyrwyr sydd â phrofiad a gwybodaeth am ddiwydiant/galwedigaeth a fydd yn cyd-fynd ag uchelgais gyrfaol y myfyriwr.
Faint o fy amser fydd angen i mi ei roi i wirfoddoli fel e-Fentor?
Gall amrywio o e-bost unigol i ryngweithiadau hirach wrth i fyfyrwyr a graddedigion newydd gynllunio a llywio eu dewisiadau gyrfaol. Gall mentoriaid gynnig:
• cyngor drwy e-bost
• adborth ar CV a ffurflenni cais
• dirnadaeth werthfawr o yrfa benodol
• ymweliad â man gwaith y mentor
• cyfleoedd ar gyfer cysgodi/profiad gwaith
Sut mae’n gweithio?
- Cofrestrwch i ddefnyddio llwyfan ar-lein eFentora Aberystwyth.
- Crëwch broffil byr i chi’ch hun.
- Chwiliwch am fentoriaid sy’n cynnig y cymorth sydd ei angen arnoch.
- Cysylltwch â mentor gan ddefnyddio eFentora Aberystwyth.
- Gweler Ein Canllaw i gael rhagor o fanylion.
Gallwch gofrestru i gynnig neu dderbyn gwasanaeth mentora yma.