Beth yw ystyr ‘penderfyniad polisi’ yng nghyd-destun Safonau’r Gymraeg?

Mae Safonau’r Gymraeg yn nodi mai ystyr 'penderfyniad polisi' yw penderfyniad gan gorff ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau neu ynglŷn â chynnal ei fusnes.

Mae’n ddiffiniad hynod o eang, ac nid yw wedi ei gyfyngu i ddogfennau ysgrifenedig a elwir yn “bolisïau” yn unig.

Mae Comisiynydd y Gymraeg (CYG) o'r farn bod ‘polisi’ yn ymwneud yn fras â datganiad / dogfen ffurfiol ysgrifenedig sy'n delio â nodau, cyfeiriad, syniadau, cynllun neu ganllaw ar sut y bydd corff yn gweithredu mewn sefyllfa benodol.

Mae CYG o'r farn bod 'arfer' yn ymwneud yn fras â phenderfyniadau gweithredol corff sy'n llywodraethu ei weithredoedd o ddydd i ddydd, ac fe'u gwneir o fewn terfynau neu ganiatâd penderfyniadau polisi. Mae penderfyniadau gweithrediadau yn rhoi penderfyniadau polisi ar waith.

Enghreifftiau o benderfyniadau polisi

Byddai enghreifftiau o benderfyniadau polisi yn debygol o gynnwys -  

  1. Cynlluniau a Strategaethau Corfforaethol.
  2. Polisïau a Datganiadau Polisi.
  3. Achosion Busnes ac Ailstrwythuro.
  4. Recriwtio ac Adnoddau Dynol.
  5. Penderfyniadau polisi strategol a gaiff eu hystyried gan lefel y Grŵp Gweithredol neu bwyllgor yn ymwneud â’r meysydd canlynol -
    • Derbyn myfyrwyr
    • Gwybodaeth am y Brifysgol a ddarperir i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr
    • Lles myfyrwyr
    • Cwynion
    • Achosion disgyblu myfyriwr
    • Gwasanaeth gyrfaoedd
    • Mewnrwyd i fyfyrwyr, gwefannau rhith-ddysgu a gwefannau porth dysgu
    • Seremonïau graddio a gwobrwyo
    • Asesu neu arholi myfyriwr
    • Dyfarnu grantiau a darparu cymorth ariannol
    • Darlithoedd cyhoeddus; cyfleoedd dysgu; a chyrsiau cyhoeddus
    • Lleoliadau swyddfeydd ac adeiladau gan gynnwys arwyddion
    • Llety myfyrwyr, llyfrgelloedd a chanolfannau celfyddydau
    • Dyrannu tiwtor personol
    • Gwasanaethau ffôn
    • Datganiadau Polisi
    • Strategaethau a Chynlluniau Strategol
    • Strwythurau mewnol 

Gofynion Safonau’r Gymraeg (Penderfyniadau Polisi)

Yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg, rhaid i benderfyniadau polisi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar—

(a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Hefyd, rhaid ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel byddai’r  yn cael effeithiau mwy positif / effeithiau llai andwyol ar y Gymraeg.

Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori neu’n comisiynu ymchwil sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch sut y gellid llunio neu addasu’r polisi o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—

(a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a
(b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwblhewch asesiad ardrawiad effaith ar y Gymraeg ar gyfer penderfyniadau polisi sydd angen eu cymeradwyo ar lefel y Weithrediaeth. Gall Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg canolfangymraeg@aber.ac.uk eich cynorthwyo i gwblhau’r asesiad.