Manteision

Cyflogadwyedd

Mae’r gallu i gyfathrebu'n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ysgrifenedig ac ar lafar yn sgìl fanteisiol iawn yn y gweithle.  Mae astudio drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog yn datblygu’r sgiliau hyn ac yn rhoi mantais i chi yn y farchnad swyddi, nid yn unig dros ymgeiswyr di-Gymraeg ond hefyd ymgeiswyr sy’n medru’r Gymraeg ond nid ydynt wedi datblygu eu sgiliau cyfathrebu i lefel raddedig.

Pam mae sgiliau dwyieithog yn bwysig i gyflogwyr?

  • Yn y sector cyhoeddus, mae gofyn statudol i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg
  • Gan fod y cyhoedd yn derbyn gwasanaeth Cymraeg yn y sector cyhoeddus, maent yn disgwyl yr un lefel o wasanaeth yn y sector preifat
  • Cwsmeriaid/cleientiaid yn gwerthfawrogi cael gwasanaeth yn Gymraeg
  • Darparu profiad Cymreig, sy’n cynnwys gweld a chlywed y Gymraeg, yn arf marchnata
  • Ehangu’r farchnad darged
  • Denu cwsmeriaid/cleientiaid newydd a’u chadw
  • Gwella delwedd y cwmni/sefydliad
  • Cyfrifoldeb cymdeithasol - cefnogi iaith a diwylliant y gymuned
  • Dangos parch at gwsmeriaid/cleientiaid a’r gymuned ehangach
  • Dilyn arfer da a dangos ansawdd uchel y busnes/gwasanaeth
  • Hybu cydraddoldeb

Dosbarthiadau llai o faint

Mae darlithoedd a seminarau cyfrwng Cymraeg yn tueddu bod yn weddol fach, sy’n golygu dosbarthiadau cyfeillgar a rhagor o gefnogaeth gan y tiwtor.  Byddwch yn dod i nabod eich cyd-fyfyrwyr a’ch tiwtor yn well. Mae ymchwil yn dangos bod myfyrwyr mewn dosbarthiadau bach yn tueddu cael marciau uwch na myfyrwyr mewn dosbarthiadau mawr.

Datblygu sgiliau trawsieithu - gwell dealltwriaeth o’r pwnc

Hyd yn oed os ydych chi’n astudio drwy’r Gymraeg, bydd angen i chi wneud defnydd o ddeunyddiau dysgu yn Saesneg (ac ieithoedd eraill os ydych chi’n astudio ieithoedd modern neu astudiaethau Celtaidd).  Mae’r broses o drawsieithu (defnyddio gwybodaeth a geir mewn un iaith mewn iaith arall) wrth ysgrifennu nodiadau ac asesiadau yn eich cynorthwyo i ddeall a dehongli deunydd darllen yn well.  Nid yw’n bosib copïo heb ddeall wrth drawsieithu!

Cefnogaeth ariannol

Mae ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg.  Bydd myfyrwyr sy'n astudio dros 5 credyd y flwyddyn drwy'r Gymraeg yn derbyn Ysgoloriaeth Astudio drwy'r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn awtomatig.

Mwynhad

Mae dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg yn gyfeillgar a byddwch chi’n ymuno â chymuned fywiog o fyfyrwyr sydd hefyd yn astudio drwy’r Gymraeg.

Addysg o’r ansawdd orau

Byddwch chi’n derbyn addysg o’r ansawdd orau gan arbenigwyr yn eu pwnc sy’n defnyddio’r gorau o ddulliau dysgu traddodiadol a newydd.

Dulliau dysgu arloesol

Mae modiwlau cyfrwng Cymraeg yn defnyddio nifer o dechnegau blaengar, megis cipio darlithoedd, deunyddiau dysgu amlgyfrwng, fideo-gynadledda, sesiynau preswyl ag ymarferwyr proffesiynol ac adnoddau ar lein, i gefnogi dulliau dysgu mwy traddodiadol, megis darlithoedd a’r llyfrgell.