Celf (Portffolio)

Os ydych chi wedi dewis Celf (Portffolio) fel un o’ch pynciau Ysgoloriaeth dylech gynnwys y lluniau canlynol yn eich portffolio:

  1. Hunan-bortread
  2. Portread maint llawn o aelod o’r teulu, yn eistedd
  3. Golygfa o’r ffenestr
  4. Llun/bywyd llonydd o beiriant neu wrthrych gwneud arall (e.e. peiriant gwnïo, offer gwaith pren, peiriant car)

Os oes gennych chi luniau o wrthrychau tebyg eisoes gallwch eu hamnewid am yr uchod.

Gallwch hefyd gynnwys detholiad o waith sy’n dangos:

  • Safon uchel o ddylunio cynrychioladol a pheintio drwy arsylwi
  • Diddordeb, chwilfrydedd a sensitifrwydd cynyddol tuag at y byd gweledol o’ch cwmpas sy’n dangos eich potensial ar gyfer creadigrwydd unigol
  • Penderfyniad personol i gyfuno astudiaethau dadansoddol, ymarferol a chreadigol mewn modd systematig
  • Detholiad o waith celf cynrychiadol wedi’i gyflwyno’n dda.

Cofiwch wrth lunio eich portffolio bod gennym ddiddordeb mewn safon, nid nifer.

Dylech ddod â’ch portffolio i Ddiwrnod Ymweld yn yr Ysgol Gelf cyn 18 Chwefror. Ffoniwch (01970 622460) neu e-bostiwch (srw@aber.ac.uk) i drefnu dyddiad addas. Neu gallwch anfon eich portffolio at:

Suzie Watkin
Yr Ysgol Gelf
Prifysgol Aberystwyth
Buarth Mawr
Aberystwyth
SY23 1NG