Amdanom ni

Croeso i Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

Fel un o’r adrannau celf uchaf ei safle yn y DU, ein nod yw eich cyflwyno i’r ysgolheictod orau ym myd y celfyddydau, eich cynorthwyo i gyflawni eich potensial dysgu ac i ennill gwybodaeth, hyder a sgiliau ar gyfer sefydlu gyrfa yn y farchnad sydd ohoni.

Yma yn yr Ysgol Gelf, nid sefydliad academaidd yn unig mohonom ond cymuned fawr eu gofal o staff a myfyrwyr o wahanol gefndiroedd a chenhedloedd. O gofio’r amrywiaeth hynny, rydym yn cynnig nifer o gyrsiau mewn Celfyddyd Gain, Ffotograffiaeth, Hanes Celf a/neu’r celfyddydau creadigol sy’n ysgogi ac yn herio creadigrwydd – rhaglenni gradd sy’n rhoi’r cyfle i chi gyfuno’r ymarferol, hanesyddol, damcaniaethol a churadurol wrth astudio celf.

Mae’r Ysgol wedi’i lleoli mewn adeilad sy'n un o'r esiamplau gorau o bensaernïaeth yn Aberystwyth. Dathlodd adeilad Edward Davies, sy’n adeilad rhestredig, ei ganmlwyddiant yn 2007. Mae llawer o’i nodweddion gwreiddiol wedi’u cadw, ond mae hefyd wedi’i addasu’n ofalus i gwrdd ag anghenion dysgu celfyddyd gain heddiw. Mae’n symbol urddasol o nod yr Ysgol i gyfuno’r traddodiadol â’r cyfoes.

Mae ymchwil ein staff - artistiaid sy’n arddangos, haneswyr celf sy’n cyhoeddi a churaduron sy’n gweithio yn y maes - yn ysbrydoli’r addysgu. Mae’n hyrwyddo meddwl beirniadol a rhyngddisgyblaethol, ac yn creu amgylchedd dysgu ysbrydoledig. Dysgwch fwy am ein hymchwil, ein cyfleusterau, ein graddedigion, ein henw da a byw ac astudio yn Aberystwyth drwy glicio ar y tabiau isod.

Pam ddim dod i ymweld â ni? Mae'n hawdd dod i Aberystwyth ar y trên neu mewn car, ac mae'n amgylchedd delfrydol ar gyfer astudio a bwy'n dda. Cymerwch fantais o'r cyfle i ddod i gwrdd â'r staff a'r myfyrwyr ac i brofi'r Ysgol Gelf, y brifysgol a'r dref drosoch eich hun. Dewch i un o'n Diwrnodau Agored!

Ein graddedigion

Bydd y sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy a ddysgir yma yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfa ichi.

Mae ein cyn-fyfyrwyr yn gweithio yn y diwydiannau creadigol fel artistiaid, darlunwyr llyfrau plant, dylunwyr graffeg, athrawon prifysgol, ymchwilwyr a churaduron. Ers 2015, mae pump o’n graddedigion wedi ymddangos ar Sky Arts Landscape Painter of the Year – yn cynnwys yr ennillydd yn 2017, Tom Voyce - ac ar Sky Arts Portrait Painter of the Year.

Mae cyn-fyfyrwraig, Edwina Ellis, wedi dylunio sawl darn arian i’r Bathdy Brenhinol, yn cynnwys pedwar darn £1 yn dangos pontydd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a darn £2 yn cofnodi 150 mlwyddiant rheilffordd tanddaearol Llundain ac, yn 2019, darn 50c yn coffáu Stephen Hawking trwy ddyluniad oedd wedi’i ysbrydoli gan ei ddamcaniaethau ar dyllau du.

Ein henw da

Er nad yw ffigurau yn gallu rhoi’r darlun cyfan, mae llwyddiant ein cyrsiau arbenigol a chyfunol mewn darlunio a phaentio, darlunio llyfrau, ffotograffiaeth, gwneud printiau, cyfryngau newydd, ynghyd â'r addysg ymarferol alwedigaethol a roddwn mewn hanes celf yn cael ei ategu gan yr ystadegau. Rydym yn dal i wneud yn eithriadol o dda yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) a thablau cynghrair eraill. Yn yr ACF 2022, roedd 92% o fyfyrwyr yr Adran Gelf yn fodlon â'r addysgu ar eu cwrs ac roedd 97% o'n myfyrwyr yn cytuno bod staff yn gwneud y pwnc yn ddiddorol. Mae perthnasedd a chyfoesedd ein cynlluniau'n cael eu hadolygu yng ngoleuni adborth o'r fath.

Cawsom ein hethol yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu ym mhwnc Celf a Dylunio gan Ganllaw Prifysgolion Da, The Times and Sunday Times 2024, ac yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd y Myfyrwyr gyda’r Addysgu ym mhwnc Celfyddyd Gain gan Dabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024.