Celf (Portffolio)
Os ydych chi wedi dewis Celf (Portffolio) fel un o’ch pynciau Ysgoloriaeth dylech gynnwys y lluniau canlynol yn eich portffolio:
- Hunan-bortread
- Portread maint llawn o aelod o’r teulu, yn eistedd
- Golygfa o’r ffenestr
- Llun/bywyd llonydd o beiriant neu wrthrych gwneud arall (e.e. peiriant gwnïo, offer gwaith pren, peiriant car)
Os oes gennych chi luniau o wrthrychau tebyg eisoes gallwch eu hamnewid am yr uchod.
Gallwch hefyd gynnwys detholiad o waith sy’n dangos:
- Safon uchel o ddylunio cynrychioladol a pheintio drwy arsylwi
- Diddordeb, chwilfrydedd a sensitifrwydd cynyddol tuag at y byd gweledol o’ch cwmpas sy’n dangos eich potensial ar gyfer creadigrwydd unigol
- Penderfyniad personol i gyfuno astudiaethau dadansoddol, ymarferol a chreadigol mewn modd systematig
- Detholiad o waith celf cynrychiadol wedi’i gyflwyno’n dda.
Cofiwch wrth lunio eich portffolio bod gennym ddiddordeb mewn safon, nid nifer.
Dylech ddod â’ch portffolio i Ddiwrnod Ymweld yn yr Ysgol Gelf cyn 18 Chwefror. Ffoniwch (01970 622460) neu e-bostiwch (srw@aber.ac.uk) i drefnu dyddiad addas. Neu gallwch anfon eich portffolio at:
Suzie Watkin
Yr Ysgol Gelf
Prifysgol Aberystwyth
Buarth Mawr
Aberystwyth
SY23 1NG