Gweithdrefn ar gyfer cyflwyno Traethodau Ymchwil i’w haroli (PhD, PhDFA, MPHIL, LLM (Ymchwil)
Mae copi pdf o'r adran hon ar gael i'w lawrlwytho: Canllawiau ar Gyflwyno Traethodau Ymchwil
Bydd y nodiadau canlynol yn eich arwain wrth lenwi’r ffurflen angenrheidiol ar gyfer cyflwyno’ch traethawd ymchwil i’w arholi gan Brifysgol Aberystwyth. Mae rhestr wirio wedi'i chynnwys i'ch helpu i sicrhau eich bod wedi cwblhau'r holl gamau angenrheidiol cyn cyflwyno'ch gwaith.
Mae’r nodiadau hyn yn cynnwys y cynllun gorfodol ar gyfer ffurflen y datganiad a’r gosodiadau y mae'n rhaid ei gynnwys gyda'ch traethawd ymchwil ynghyd â'r Crynodeb. Dylid atgynhyrchu cynnwys y tudalen hwn fel y mae, wedyn ei lenwi, ei lofnodi a'i gynnwys yn y traethawd ymchwil electronig.
Bydd dilyn yr arweiniad yn ofalus ac yn llawn yn caniatáu i'r Brifysgol arholi’ch traethawd ymchwil yn brydlon.
-
Rhestr wirio i ymgeiswyr
- Mae’r myfyriwr wedi llenwi ffurflen bwriadu cyflwyno ac wedi cyflwyno honno i'w hadran dri mis cyn y disgwylir i'r traethawd ymchwil gael ei gyflwyno.
- Cysylltwch â grastaff@aber.ac.uk i gael eich ychwanegu at ddolen cyflwyno traethodau ymchwil Blackboard.
- Un fersiwn electronig o'r traethawd ar ffurf PDF neu Word. Ar ôl y tudalen teitl dylid llenwi a llofnodi ffurflen y Datganiad a’r Gosodiadau Gorfodol. Dylai'r traethawd hefyd gynnwys y Crynodeb ar ôl y Datganiad.
- Ffurflenni eraill i'w huwchlwytho gyda'r traethawd ar Blackboard:
- Un Ffurflen Datganiad Traethawd Ymchwil Electronig wedi'i llenwi
SYLWCH: OS HEPGORIR UNRHYW UN NEU RAGOR O’R UCHOD FE FYDD OEDI WRTH ARHOLI’CH TRAETHAW
-
Canllawiau i ymgeiswyr
Terfynau Amser ar gyfer Cyflwyno Traethodau Ymchwil
Rhaid i'ch gwaith gael ei gyflwyno ar y dyddiad cau a nodir yn eich cofnod myfyriwr neu cyn hynny.
Hyd y Traethawd Ymchwil
Yr uchafswm ar gyfer traethawd ymchwil PhD yw 100,000 o eiriau (heb gynnwys atodiadau a chyfeiriadau).
Yr uchafswm ar gyfer traethawd ymchwil MPhil/LLM (Res) neu Dag/DProf yw 60,000 o eiriau (heb gynnwys atodiadau a chyfeiriadau).
Darpariaethau arbennig ynglŷn â Chynlluniau yn y Celfyddydau Creadigol.
Yn achos ymgeiswyr sy'n dilyn cynlluniau gradd ymchwil a gymeradwywyd sy'n dod o fewn maes pwnc y Brifysgol yn y Celfyddydau Creadigol a Pherfformio, gall y traethawd ymchwil fod ar un neu fwy o'r ffurfiau a ganlyn: arteffactau, sgôr, portffolio o weithiau gwreiddiol, perfformiad neu arddangosfa.
I gyd-fynd â’r cyflwyniad rhaid cael sylwebaeth ysgrifenedig yn ei osod yn ei gyd-destun academaidd ynghyd ag unrhyw eitemau eraill a all fod yn ofynnol (e.e. catalog neu recordiad sain neu recordiad gweledol). Erbyn hyn gellir cyflwyno'r cyflwyniadau hyn trwy SharePoint a all gefnogi ffeiliau MP4. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges ebost at grastaff@aber.ac.uk.
Crynodeb
Bydd copi o’r Crynodeb yn cael ei gyhoeddi yng nghadwrfa ymchwil ar-lein y Brifysgol, hyd yn oed os na fydd y traethawd ymchwil ar gael. Darperir ffurflen ar ddiwedd y llyfryn hwn i chi ei llenwi.
Crynodeb o'r traethawd ymchwil: canllawiau i fyfyrwyr ymchwil
Mae crynodeb yn golygu crynodeb hunangynhwysol o'ch traethawd mewn 250-300 o eiriau. Bydd yn ymddangos ar flaen y traethawd ac yn rhoi cyflwyniad cryno i'ch arholwyr i'r traethawd. Yn arwyddocaol iawn, ar ôl ichi basio, bydd yn cael ei ddangos ar gadwrfeydd ymchwil ar-lein i hysbysu darpar ddarllenwyr am ei gynnwys.
Bydd yn cynnwys termau allweddol y gellir eu dewis mewn chwiliadau. Gan hynny, mae’n bwysig o ran galluogi darllenwyr i ddod o hyd i’ch gwaith a’u helpu i benderfynu a yw’n berthnasol i’w hymchwil nhw eu hunain. Bydd papurau cynhadledd, grantiau ymchwil a chyhoeddiadau cyfnodolion i gyd yn gofyn am grynodeb ac felly mae'n ddefnyddiol datblygu'r gallu i lunio’r crynodebau hyn sy’n llawn gwybodaeth.
Bydd y crynodeb yn cael ei ysgrifennu ar ôl i fanylion terfynol y traethawd gael eu pennu, a hynny er mwyn iddo ymdrin â’r gwaith cyfan. Gall fod ar wahanol ffurfiau gan ddibynnu ar y ddisgyblaeth (gwiriwch y gwaith yn eich maes disgyblaeth chi’ch hun i gael arweiniad) ond fel arfer bydd yn cynnwys:
- Rhesymeg y prosiect
- Y cwestiwn/cwestiynau ymchwil
- Y dull(iau)
- Y prif ganfyddiadau/casgliadau
- Goblygiadau’r canfyddiadau (e.e., ar gyfer ymchwil yn y dyfodol, cymwysiadau ymarferol)
Mae’n werth cymryd amser i lunio crynodeb graenus, yn enwedig pan fyddwch yn dod at y cyflwyniad terfynol i’w adneuo, er mwyn denu cymaint o sylw â phosibl i’ch traethawd.
Dylid llunio crynodeb ar gyfer pob math o gyflwyniad gradd ymchwil, gan gynnwys gweithiau sydd wedi’u seilio ar ymarfer creadigol. Hyd yn oed os bydd y traethawd dan embargo am gyfnod, bydd y crynodeb yn cael ei gyhoeddi, fel y gall unrhyw un sydd â diddordeb ofyn am gyfle unigol i’w weld neu wneud nodyn i wirio’r traethawd pan gaiff ei ryddhau.
Dogfennau i'w Cyflwyno gyda'ch traethawd ymchwil
Mae’r Nodiadau Cyfarwyddyd hyn yn cynnwys tudalen o’r enw ‘Cynllun Gorfodol Datganiadau a Gosodiadau’. Dylid mewnosod cynnwys LLAWN y tudalennau hyn ar flaen y copi electronig o'ch traethawd heb newid geiriad na chynnwys y Datganiad neu'r Gosodiadau.
Rhaid llofnodi a dyddio pob Datganiad a Gosodiad.
Mae’r ffurflen hon hefyd yn cynnwys cyfrif geiriau eich traethawd ymchwil, y mae’n rhaid ei gwblhau.
Cyflwyno Traethodau Ymchwil
Rhaid i ymgeiswyr sy'n cyflwyno traethawd i'w arholi gyflwyno un copi electronig i'r ddolen cyflwyno traethodau ymchwil yn Blackboard.
- Enw'r ymgeisydd;
- Enw’r Brifysgol (gellir ei dalfyrru i PA);
- Y radd y mae'r traethawd yn cael ei gyflwyno ar ei chyfer;
- Enw llawn neu dalfyredig y traethawd; a’r
- Dyddiad cyflwyno.
Rhaid i’r wybodaeth hon fod ar gael i'w gweld ar y tudalen blaen.
Os bydd y gwaith yn cynnwys mwy nag un gyfrol, rhaid i'r tudalen blaen hefyd ddangos rhif pob cyfrol.
Copi electronig o'r traethawd ymchwil, boed i'w harholi neu i'w hadneuo mewn llyfrgelloedd, gael eu cyflwyno ar ffurf barhaol a darllenadwy ac ni chaiff y nodau a ddefnyddir yn y prif destun (ond nid o reidrwydd mewn darluniau, mapiau etc) fod yn llai na 12pt; ni chaiff y nodau a ddefnyddir ym mhob testun arall, nodiadau, troednodiadau, etc fod yn llai na 10pt. Rhaid i'r teipio fod o ansawdd gyfartal gyda nodau du clir.
Rhaid defnyddio bylchiad dwbl neu un a hanner yn y prif destun, ond rhaid defnyddio bylchiad sengl yn y crynodeb ac mewn unrhyw ddyfyniadau wedi'u hindeintio a throednodiadau. Rhaid i luniadau a brasluniau fod mewn inc du, dylid hepgor manylion diangen a dylai'r raddfa fod yn golygu nad yw'r gofod lleiaf rhwng llinellau yn llai nag 1mm. Dylid rhifo pob tudalen yn briodol.
Caiff yr ymgeiswyr gyflwyno deunyddiau ategol eraill pan fo’r rheiny’n ychwanegiad defnyddiol at y gwaith a geir yn y cyflwyniad ysgrifenedig, neu'n esboniad ohono, ac os deunydd o'r fath yw'r dull mwyaf priodol o gyflwyno'r wybodaeth dan sylw. Yn ddelfrydol bydd hyn ar ffurf ddigidol ond os nad yw hyn yn bosibl, dylai’r myfyrwyr ymgynghori â'u goruchwylwyr a staff y Gwasanaethau Gwybodaeth i gael cyngor yn gynnar yn eu hymchwil.
I gael rhagor o wybodaeth am gyflwyniadau gan ddefnyddio ffeiliau MP4, cysylltwch â grastaff@aber.ac.uk.
-
Canllawiau ar gyflwyno fersiynau electronig o draethodau ymchwil yn orfodol
Cyflwynir traethodau ymchwil yn electronig trwy Blackboard at ddibenion arholi ac i’w hadneuo’n derfynol yng nghadwrfa ymchwil ar-lein y Brifysgol. Mae hyn hefyd yn caniatáu iddynt gael eu gwirio â meddalwedd sy’n gallu nodi a yw’n bosibl nad gwaith y myfyriwr ei hunan yw’r gwaith.
-
Fformat y Cyflwyniad Electronig
Dylid uwchlwytho fersiwn electronig y traethawd ymchwil cyn y viva i ddolen gyflwyno Blackboard. Mae’r fformatau derbyniol yn cynnwys unrhyw fformat electronig a gydnabyddir gan y Brifysgol: (.doc, .docx, .odt, .txt, .rtf, .pdf, .html).
Dylai enw ffeil y traethawd ymddangos fel hyn: “traethawd_cyn_viva_teitl_enw’r myfyriwr_dyddiad_cyflwyno” (hyd at 255 o gymeriadau ar y mwyaf: gall fod angen byrfoddau).
Dylai corff y traethawd fod mewn un ffeil. Ni ddylai'r ffeil fod yn fwy na 100 MB. Os yw'r ffeil yn fwy na'r maint hwn, lluniwch ffeil ar wahân ar gyfer delweddau neu cywasgwch y ffeil.
At hynny, rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno copi electronig o fersiwn terfynol y traethawd ymchwil i ddolen gyflwyno Blackboard. Dylid labelu'r fersiwn electronig derfynol yn glir a dylai enw'r ffeil gynnwys: “traethawd_wedi_viva_teitl_enw’r myfyriwr_dyddiad” (hyd at 255 o gymeriadau ar y mwyaf: gall fod angen byrfoddau). Mae angen fersiwn electronig ar gyfer cywain meta-ddata hyd yn oed mewn achosion lle nad yw'r gwaith yn cael ei osod yn y storfa ymchwil ar-lein.
-
Anfon y traethawd ymchwil
Pan fyddwch wedi cyflwyno'r holl ddogfennau gofynnol a’r traethawd cyn viva i Blackboard, bydd Ysgol y Graddedigion yn trefnu eu hanfon at yr arholwyr, ynghyd â'r Rheoliadau a'r canllawiau perthnasol ar y gweithdrefnau.
Ni chaiff myfyrwyr nac Adrannau Academaidd/Athrofeydd anfon traethodau ymchwil yn uniongyrchol at arholwyr.
-
Y broses arholi
Diwygio traethodau a gyflwynwyd cyn y viva:
Ni chaiff ymgeiswyr ddiwygio traethawd, ychwanegu ato, na dileu ohono ar ôl iddo gael ei gyflwyno i'w arholi. Ni chaniateir dychwelyd traethodau ymchwil a gyflwynwyd i’r ymgeiswyr i’w gwella cyn cwblhau trafodaethau ac argymhelliad ffurfiol y Bwrdd Arholi. Dylai gwaith na ellir ei basio fel y'i cyflwynwyd gael ei ailgyflwyno’n ffurfiol ar ffurf ddiwygiedig i'w ailarholi.
Gofynnir i’r arholwyr hysbysu Ysgol y Graddedigion ar unwaith os cânt draethodau drafft ‘ar gyfer sylwadau ac i’w dychwelyd’ cyn i’r broses arholi ffurfiol ddechrau. Dylent wrthod yn bendant unrhyw awgrym y dylid dychwelyd traethawd i ymgeisydd i’w wella a’i ailystyried cyn cwblhau trafodaethau ffurfiol y Bwrdd Arholi.
Arholiad Llafar (Cyflwyniad Cyntaf)
Mae arholiad llafar (‘viva voce’) yn orfodol a dylech fod ar gael i gael eich arholi fel hyn. Yn y Brifysgol y cynhelir arholiadau llafar fel arfer. Os cadarnhaodd y Bwrdd Arholi, yn dilyn y viva, fod angen ichi wneud naill ai Mân Gywiriadau (4 wythnos) neu Gywiriadau a diwygiadau (6 mis neu 3 mis gan ddibynnu ar y radd) i’ch traethawd a chael y rhain wedi’u cymeradwyo gan eich arholwyr cyn y gellir dyfarnu gradd, mae’n rhaid ichi fodloni'r terfynau amser hyn ynglŷn â’r cywiriadau.
Rhaid i Adrannau/Cyfadrannau roi gwybod i Ysgol y Graddedigion am unrhyw fyfyriwr nad yw wedi cwblhau'r cywiriadau o fewn yr amserlen ofynnol.
Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y cymeradwyir estyniadau i'r dyddiad cau ar gyfer cywiriadau a hynny pan fydd cais ffurfiol gyda thystiolaeth ategol wedi'i wneud i Ysgol y Graddedigion.
Arholiad Llafar (Ailarholi)
Os ceir ailarholiad, bydd angen arholiad llafar pellach fel arfer. Os felly, rhaid ichi fod ar gael i ddod i’r arholiad hwnnw a gynhelir fel arfer yn y Brifysgol.
Dim ond yn achos pàs clir neu amgylchiadau eithriadol eraill y caniateir hepgor y viva. Y disgwyl fel arfer yw bod rhaid cynnal y viva er mwyn rhoi cyfle i'r myfyriwr amddiffyn ei waith. Mae ailgyflwyno yn cael ei drin fel cyflwyniad cyntaf a rhaid cyflwyno pob dogfen eto gan gynnwys y ffurflen bwriadu cyflwyno.
-
Y traethawd ar ôl y viva
Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw hysbysu'r myfyriwr o'r rhychwant a'r dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r cywiriadau gofynnol. Pan fo'r ymgeisydd wedi pasio, ond bod angen mân gywiriadau, diwygiadau, neu gywiriadau teipograffyddol yn y gwaith, dylai'r Cadeirydd drefnu gyda'r ymgeisydd i'r cywiriadau angenrheidiol gael eu gwneud.
Dylai'r Cadeirydd anfon y ffurflen Adroddiad a Chanlyniad wedi'i chwblhau a'r Ffurflen Adroddiad Dros Dro at Ysgol y Graddedigion. Rhaid i’r ffurflenni, gan gynnwys adroddiadau'r arholwyr unigol ac adroddiad ar y cyd gael eu cwblhau a chael eu llofnodi gan yr arholwyr, y myfyriwr a'r cadeirydd lle bo angen hynny.
Ni chaniateir rhyddhau canlyniadau ymgeiswyr nes bod unrhyw fân gywiriadau neu gywiriadau teipograffig angenrheidiol wedi'u cyflawni a bod fersiwn terfynol y traethawd wedi dod i law ac wedi’i wirio.
Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw gwneud y cywiriadau angenrheidiol o fewn yr amser penodedig. Dylai’r Cadeiryddion wirio bod y tasgau hyn wedi'u cyflawni'n foddhaol ac yn brydlon er mwyn osgoi oedi wrth ddyfarnu graddau.
Rhaid i unrhyw nodiadau neu sylwadau yn ymylon y traethawd a wnaed gan yr arholwyr gael eu dileu cyn ei adneuo yn y Llyfrgelloedd.
Bydd fersiwn terfynol y traethawd yn cael ei anfon i Gadwrfa Prifysgol Aberystwyth gan Ysgol y Graddedigion ynghyd â'r Ffurflen Datganiad Traethawd electronig.
Bydd y Brifysgol yn trefnu bod traethodau a adneuir fel hyn ar gael i gadwrfeydd ac offer chwilio allanol gan gynnwys casgliad digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chronfa ddata’r Llyfrgell Brydeinig o draethodau’r Deyrnas Unedig.
Disgwylir i'r ymgeisydd lofnodi datganiad ei fod wedi sicrhau’r caniatâd hawlfraint priodol ar gyfer cynnwys unrhyw ddeunydd trydydd parti yn y traethawd fel bod modd sicrhau bod y gwaith ar gael yn gyfreithlon mewn cadwrfa mynediad agored.
Dylai deunydd a dderbynnir ar gyfer cadwrfa’r sefydliad gydymffurfio â’r canllawiau a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth.
Pan fo gwaharddiad ar weld traethawd wedi’i osod, ni fydd yn cael ei adneuo yn y gadwrfa electronig mynediad agored nes i’r gwaharddiad hwnnw ddod i ben.
Dylid dychwelyd cyflwyniadau aflwyddiannus i'r ymgeisydd ar ôl cwblhau'r broses arholi.
Gwahardd gweld gwait
Mae'r Brifysgol yn disgwyl y bydd gwaith ymchwil a dderbynnir ar gyfer gradd uwch ar gael yn agored, na fydd yn perthyn i unrhyw ddosbarthiad diogelwch ac na fydd cyfyngiadau ar weld y gwaith.
Serch hynny, mewn achosion lle mae angen llethol i gyfyngu ar gopïo neu weld y gwaith (er enghraifft pan fo ymchwil sydd wedi’i noddi wedi arwain at draethawd sy'n cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif), caiff y Brifysgol, ar argymhelliad arbennig Adran, osod gwaharddiad ar lungopïo a/neu weld traethawd am gyfnod penodol (tair blynedd fel arfer yn y lle cyntaf). Cyfrifoldeb eich goruchwylydd yw gwneud cais i'r Adran am gael gwaharddiad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. Yn ddelfrydol, bydd yr Adran yn gallu anfon argymhelliad i osod gwaharddiad at y Brifysgol ar ddechrau’ch ymgeisyddiaeth.
Sylwch: os bydd y Brifysgol yn gosod gwaharddiad ar lungopïo a/neu weld gwaith, dylai'r datganiad wedi'i lofnodi sydd i'w gynnwys gyda phob copi o'r traethawd a gyflwynir ddangos y gellir trefnu bod y traethawd ar gael yn agored ar ôl i'r gwaharddiad ar weld y gwaith ddod i ben.
Fel arfer, trefnir bod teitl a chrynodeb y traethawd ar gael.
-