Y traethawd ar ôl y viva
Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw hysbysu'r myfyriwr o'r rhychwant a'r dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r cywiriadau gofynnol. Pan fo'r ymgeisydd wedi pasio, ond bod angen mân gywiriadau, diwygiadau, neu gywiriadau teipograffyddol yn y gwaith, dylai'r Cadeirydd drefnu gyda'r ymgeisydd i'r cywiriadau angenrheidiol gael eu gwneud.
Dylai'r Cadeirydd anfon y ffurflen Adroddiad a Chanlyniad wedi'i chwblhau a'r Ffurflen Adroddiad Dros Dro at Ysgol y Graddedigion. Rhaid i’r ffurflenni, gan gynnwys adroddiadau'r arholwyr unigol ac adroddiad ar y cyd gael eu cwblhau a chael eu llofnodi gan yr arholwyr, y myfyriwr a'r cadeirydd lle bo angen hynny.
Ni chaniateir rhyddhau canlyniadau ymgeiswyr nes bod unrhyw fân gywiriadau neu gywiriadau teipograffig angenrheidiol wedi'u cyflawni a bod fersiwn terfynol y traethawd wedi dod i law ac wedi’i wirio.
Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw gwneud y cywiriadau angenrheidiol o fewn yr amser penodedig. Dylai’r Cadeiryddion wirio bod y tasgau hyn wedi'u cyflawni'n foddhaol ac yn brydlon er mwyn osgoi oedi wrth ddyfarnu graddau.
Rhaid i unrhyw nodiadau neu sylwadau yn ymylon y traethawd a wnaed gan yr arholwyr gael eu dileu cyn ei adneuo yn y Llyfrgelloedd.
Bydd fersiwn terfynol y traethawd yn cael ei anfon i Gadwrfa Prifysgol Aberystwyth gan Ysgol y Graddedigion ynghyd â'r Ffurflen Datganiad Traethawd electronig.
Bydd y Brifysgol yn trefnu bod traethodau a adneuir fel hyn ar gael i gadwrfeydd ac offer chwilio allanol gan gynnwys casgliad digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chronfa ddata’r Llyfrgell Brydeinig o draethodau’r Deyrnas Unedig.
Disgwylir i'r ymgeisydd lofnodi datganiad ei fod wedi sicrhau’r caniatâd hawlfraint priodol ar gyfer cynnwys unrhyw ddeunydd trydydd parti yn y traethawd fel bod modd sicrhau bod y gwaith ar gael yn gyfreithlon mewn cadwrfa mynediad agored.
Dylai deunydd a dderbynnir ar gyfer cadwrfa’r sefydliad gydymffurfio â’r canllawiau a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth.
Pan fo gwaharddiad ar weld traethawd wedi’i osod, ni fydd yn cael ei adneuo yn y gadwrfa electronig mynediad agored nes i’r gwaharddiad hwnnw ddod i ben.
Dylid dychwelyd cyflwyniadau aflwyddiannus i'r ymgeisydd ar ôl cwblhau'r broses arholi.
Gwahardd gweld gwait
Mae'r Brifysgol yn disgwyl y bydd gwaith ymchwil a dderbynnir ar gyfer gradd uwch ar gael yn agored, na fydd yn perthyn i unrhyw ddosbarthiad diogelwch ac na fydd cyfyngiadau ar weld y gwaith.
Serch hynny, mewn achosion lle mae angen llethol i gyfyngu ar gopïo neu weld y gwaith (er enghraifft pan fo ymchwil sydd wedi’i noddi wedi arwain at draethawd sy'n cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif), caiff y Brifysgol, ar argymhelliad arbennig Adran, osod gwaharddiad ar lungopïo a/neu weld traethawd am gyfnod penodol (tair blynedd fel arfer yn y lle cyntaf). Cyfrifoldeb eich goruchwylydd yw gwneud cais i'r Adran am gael gwaharddiad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. Yn ddelfrydol, bydd yr Adran yn gallu anfon argymhelliad i osod gwaharddiad at y Brifysgol ar ddechrau’ch ymgeisyddiaeth.
Sylwch: os bydd y Brifysgol yn gosod gwaharddiad ar lungopïo a/neu weld gwaith, dylai'r datganiad wedi'i lofnodi sydd i'w gynnwys gyda phob copi o'r traethawd a gyflwynir ddangos y gellir trefnu bod y traethawd ar gael yn agored ar ôl i'r gwaharddiad ar weld y gwaith ddod i ben.
Fel arfer, trefnir bod teitl a chrynodeb y traethawd ar gael.