10.13 Ymgeiswyr o dan 18 oed

1. Mae Prifysgol Aberystwyth yn amgylchedd i oedolion ble mae myfyrwyr yn cael eu trin fel unigolion annibynnol ac aeddfed. Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rheol yn 18 oed neu’n hŷn. Fodd bynnag, yn achlysurol mae’r Brifysgol yn derbyn myfyrwyr sydd o dan 18 oed ar ddechrau eu rhaglen astudio. Ar gyfer y mwyafrif o’r myfyrwyr hyn, bydd y statws hwnnw am gyfnod cyfyngedig yn unig, oherwydd byddant fel rheol yn troi’n 18 yn ystod eu blwyddyn gyntaf.

2. Bydd ceisiadau gan unigolion a fydd o dan 18 oed ar adeg cofrestru yn cael eu hystyried fesul achos, a gall y Brifysgol fynnu bod derbyn y myfyriwr yn amodol ar gymhwyso meini prawf a/neu amodau mynediad penodol. Bydd rhaid llofnodi Ffurflen Ganiatâd Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Derbyn Myfyrwyr o dan 18 oed fel amod o unrhyw gynnig ar gyfer derbyn unrhyw fyfyriwr o dan 18 oed.

3. Ni chaiff unrhyw ymgeisydd o dan 18 oed ei dderbyn gan y Brifysgol nes y bydd y Ffurflen Ganiatâd wedi cael ei llofnodi gan y myfyriwr a’i rieni/gwarcheidwaid, ei dychwelyd, a bod asesiad risg ar y gweill (gan gynnwys llety/cymorth adrannol/cymorth i fyfyrwyr).

Ceir hyd i Bolisi a Datganiad Proses y Brifysgol yn llawn ar gyfer Derbyn Myfyrwyr o dan 18 oed yn Atodiad 2.