Canllawiau ar gyfer Byrddau Arholi Graddau Ymchwil
-
1. Cyflwyniad
Dylid darllen y canllawiau canlynol ar y cyd â’r Rheoliadau ar gyfer Gradd Ph, ynghyd â Rheol Sefydlog 20 (Arholiadau Graddau Uwch, Gradd PhD, Gradd MPhil a Gradd LLM Res). Gellir eu darllen ar-Iein yma.
-
2. Cyfansoddiad a Strwythur y Bwrdd Arholi
Arholir ymgeiswyr ar gyfer graddau ymchwil trwy gyfrwng traethawd ac arholiad lIafar
Arholir pob traethawd gan Fwrdd sy’n cynnwys y canlynol:
1. Cynullydd ac Ysgrifennydd
2. Cadeirydd
3. Arholydd Mewnol
4. Arholydd Allanol -
3. Penodi’r Bwrdd Arholi
1. Cynullydd ac Ysgrifennydd
Pennaeth yr Adran neu’r Ysgol dan sylw fydd yn gweithredu’n Gynullydd ac Ysgrifennydd, neu gall ddirprwyo’r tasgau gweinyddol yma i aelod hŷn o’r staff academaidd.
2. Cadeirydd
Disgwylir i’r Pennaeth Adran neu Ysgol, fel arfer, gadeirio’r Bwrdd Arholi oni bai i’r Pennaeth ddewis dirprwyo’r cyfrifoldeb hwn i aelod hŷn o’i staff academaidd. Lle bo’r Pennaeth hefyd yn arolygwr yr ymgeisydd dan sylw, rhaid i aelod hŷn o staff academaidd yr Adran gadeirio’r Bwrdd yn ei le/lle.
3 a 4 Arholwyr Mewnol ac Allanol
Penodir aelodau’r Bwrdd yn unol â Rheoliadau a Rheolau Sefydlog perthnasol y Brifysgol. Ni chaiff arolygwr yr ymgeisydd ei benodi’n Arholydd Mewnol. Lle bo’r ymgeisydd yn aelod o’r staff bydd ail Arholydd Allanol yn cymryd lIe’r Arholydd Mewnol.
-
4. Dyletswyddau Aelodau’r Bwrdd Arholi
Mae’n ofynnol i’r Bwrdd arholi’r traethawd yn ogystal â chynnal arholiad lIafar. Pan gynhelir arholiad ar gyfer traethawd a ailgyflwynir, gellir hepgor y gofyniad i gynnal arholiad lIafar, mewn amgylchiadau arbennig yn unig, yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi.
Mae’r Cynullydd ac Ysgrifennydd yn gyfrifol am sicrhau bod y trefniadau gweinyddol cywir ar gyfer cyflwyno ac arholi’r traethawd yn cael eu gweithredu, bod yr holl ddogfennau wedi eu cwblhau a bod holl aelodau’r Bwrdd Arholi’n ymwybodol o’u cyfrifoldebau.
Mae Cadeirydd y Bwrdd Arholi’n gyfrifol am sicrhau bod yr arholiad, yn cynnwys yr adroddiad ysgrifenedig a’r arholiad lIafar, yn cael ei weithredu’n unol â pholisiau a gweithdrefnau’r Brifysgol. Hyd y gellir, bydd y Cadeirydd yn sicrhau bod yr arholi’n deg a diduedd a bydd yn hysbysu’r Brifysgol ynghylch unrhyw faterion amheus yn y cyswllt hwn.
Yn ystod y broses arholi, bydd yr Arholwyr yn:
• ystyried y traethawd a’r crynodeb(au), neu, yn achos PhD drwy Weithiau Cyhoeddedig, y gweithiau a’r dadansoddiad beirniadol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd;
• rhoi adroddiad ar gwmpas, cymeriad ac ansawdd y gwaith a gyflwynwyd;
• bodloni eu hunain drwy arholi, ar lafar neu’n ysgrifenedig, neu’r ddau, a oes gan yr ymgeisydd wybodaeth gyffredinol dda am y maes dysg arbennig y mae’r traethawd yn perthyn iddo;
• cadw mewn cof meini prawf y Brifysgol ar gyfer dyfarnu’r radd. (Gweler Adran F, ‘Meini Prawf ar gyfer Dyfarnau Graddau Ymchwil’).Gofynnir i Arholwyr hysbysu’r Swyddfa Academaidd yn syth os ydynt yn derbyn traethodau drafft am sylw cyn bod y broses arholi ffurfiol yn dechrau, a dylent wrthod yn gadarn unrhyw awgrym y dylid dychwelyd y traethawd i’r ymgeisydd i’w gaboli a’i wella cyn cwblhau ystyriaethau ffurfiol y Bwrdd Arholi.
Gofynnir hefyd i Arholwyr Allanol hysbysu’r Swyddfa Academaidd os ydynt yn derbyn traethawd yn uniongyrchol o’r ymgeisydd neu o’r Adran. Caniateir anfon y traethawd at yr Arholydd Allanol gan y Swyddfa Academaidd yn unig.
Wrth argymell cymeradwyo’r ymgeisydd am radd, dylai Byrddau Arholi dystio bod y traethawd a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn cwmpasu i raddau helaeth y cynllun ymchwil a gymeradwywyd gan y Brifysgol.
Dylid hepgor o’r arholiad unrhyw ran o’r traethawd sydd eisoes wedi ei derbyn, neu sy’n cael ei chyflwyno ar yr un pryd, am unrhyw radd neu gymhwyster yn y Brifysol neu rywle arall.
-
5. Amserlen yr Arholiad
Disgwylir i’r Arholwyr orffen arholi’r ymgeisydd a chyflwyno eu hadroddiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl - fel rheol o fewn deuddeng wythnos waith o’r dyddiad y daeth y traethawd i law a chyn dyddiad yr arholiad lIafar. Os bydd hyn yn amhosibl, gofynnir i’r Arholwyr roi gwybod i Gynullydd ac Ysgrifennydd y Bwrdd am y rhesymau dros yr oedi. Mae’r Brifysgol yn awyddus i osgoi peri i ymgeiswyr wynebu oedi maith yn ystod y broses arholi.
-
6. Adroddiad Ysgrifenedig
Bwriedir Ffurflenni Adroddiad a Chanlyniad yr Arholwyr ar gyfer adroddiadau’r Arholwyr Mewnol ac AIIanol ac i’w defnyddio gan y Bwrdd Arholi cyfan i wneud ei argymhelliad ffurfiol i’r Brifysgol parthed canlyniad yr arholiad. Atgoffir yr Arholwyr fod gan ymgeiswyr, o dan delerau Deddf Diogelu Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, yr hawl i ofyn am gael gweld unrhyw sylwadau a wneir amdanynt yn yr adroddiad hyn. Mynnir hefyd ffurflen adroddiad mewn achosion o ailgyflwyno.
Dylai’r Arholydd AIIanol lenwi rhan 1.1 y ffurflen (Adroddiad ar y Traethawd) a dylai fynd â’r ffurflen gyfan i’r arholiad lIafar. Dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi drefnu bod adroddiad yr Arholydd Mewnol yn cael ei deipio yn Adran 2 (Adroddiad yr Arholydd Mewnol ar y Traethawd) neu fel arall yn cael ei atodi wrthi.
Dylai ffurf a chynnwys adroddiadau’r arholwyr fod yn ddigon manwl i ganiatáu i aelodau staff y Brifysgol asesu cwmpas ac arwyddocâd y traethawd ac i werthfawrogi ei gryfderau a’i wendidau. Dylai’r adroddiadau, cyhyd ag y bo modd, gael eu mynegi mewn termau sy’n ddealladwy i rai nad ydynt yn arbenigwyr ym maes arbennig y traethawd.
Wrth gwblhau eu hadroddiadau, gofynnir i’r Arholwyr ymdrin â’r pwyntiau penodol canlynol:
• Crynhoi a dadansoddi’r ddadl
• Strwythur a chydlyniad
• Methodoleg
• Cyflwyniad
• Gwreiddioldeb a chyfraniad i ddysg
• A ellid cyhoeddi’r gwaith a sut -
7. Arholiad Lafar
Cynhelir yr arholiad lIafar fel rheol yn y Brifysgol, yn unol â Rheoliadau dyfarnu’r radd. Fodd bynnag, yn ôl disgresiwn yr Is-Ganghellor, ac o dan amgylchiadau arbennig yn unig, gellir cynnal yr arholiad lIafar mewn man arall.
Rhaid i’r canlynol fod yn bresennol yn yr arholiad lIafar:
• Y Cadeirydd
• Yr Arholydd Mewnol
• Yr Arholydd AIIanol(neu’r Cadeirydd, a dau Arholydd AIIanol yn achos ymgeiswyr sy’n aelodau o’r staff)
Gellir gwahodd arolygwr yr ymgeisydd i fynychu’r arholiad lIafar, os yw’r ymgeisydd yn cytuno, ond caiff siarad ar wahoddiad y Cadeirydd yn unig.
Mae tri amcan i arholiad lIafar:
1 galluogi’r Arholwyr i’w sicrhau eu hunain mai gwaith yr ymgeisydd ei hun yw’r traethawd;
2. rhoi’r cyfle i’r ymgeisydd amddiffyn y traethawd ac i egluro unrhyw aneglurder ynddo;
3. galluogi’r Arholwyr i asesu gwybodaeth gyffredinol yr ymgeisydd am ei faes neu ei maes arbennig o ddysg.Ni ddylai’r Bwrdd Arholi roi unrhyw arwydd i’r ymgeisydd o ganlyniad yr arholiad hyd nes bydd yr arholi wedi gorffen a’r holl adroddiadau wedi eu cwblhau.
Mewn achosion eithriadol, gall Bwrdd Graddau Ymchwil y Brifysgol, o gael rhybudd digonol, ystyried rhoi caniatad i arholiadau gael eu cynnal yn electronig. Cyhoeddir set o ganllawiau ar wahân ar gyfer y pwrpas hwn a gofynnir i Arholwyr ymgyfarwyddo â’u cynnwys os gofynnwyd iddynt gynnal arholiad lIafar yn y modd hwn. Gweler y Canllawiau ar gyfer Cynnal Arholiadau Viva Voce drwy Ddulliau Electronig yn y cyfeiriad yma
Yn yr arholiad lIafar, dylid cymryd gofal i sicrhau bod yr ymgeiswyr yn cael eu hannog i deimlo’n gysurus er mwyn iddynt allu dangos eu gwybodaeth a’u gallu ar eu gorau, a dylid cydnabod ac ystyried cryfderau a gwendidau’r traethawd. Yn gynnar yn y broses, dylid rhoi’r cyfle i’r ymgeiswyr esbonio’n union yr hyn y bwriedir i’r traethawd ei gyflawni a lle y maent yn gweld ei arwyddocâd fel cyfraniad i wybodaeth. Os yw’n ymddangos bod gwahaniaeth mawr rhwng nodau’r ymgeisydd ac union gynnwys y traethawd, dylid trafod y rhesymau am y gwahaniaeth. Yn yr un modd, dylid gofyn i ymgeiswyr esbonio eu dewis o deitl pan yw’n ymddangos bod cyfatebiaeth amherffaith i gynnwys y traethawd. Hefyd dylid rhoi cyfle i ymgeiswyr esbonio unrhyw fethiant ymddangosiadol i ddefnyddio deunyddiau pwysig, boed yn rhai sylfaenol neu eilaidd, ac i esbonio unrhyw fethiant i fabwysiadu ymagwedd neu fethodoleg berthnasol.
Mae’n bwysig, lle bo diffygion sylweddol i’w gweld mewn traethawd, a allai arwain at adroddiad nad yw’n bendant yn ffafriol, fod sampl gynrychioladol o’r rhain yn cael ei dwyn i sylw’r ymgeisydd, a bod amser yn cael ei ganiatáu i esbonio ac amddiffyn yn ystod yr arholiad.
Mae’n bosibl i Arholwyr anghytuno i raddau mwy neu lai wrth werthuso’r gwaith. Mae, felly, yn ddoeth i arholwyr ymgynghori cyn yr arholiad lIafar er mwyn lIunio strategaeth, petai unrhyw wahaniaeth barn sylweddol yn codi, a fyddai’n datrys y gwahaniaethau hyn drwy ddull cytûn. (Gallai hyn gynnwys strwythuro’r arholiad lIafar yn ofalus). Er ei bod yn ddymunol i’r Arholwyr geisio datrys eu gwahaniaethau, petai’n amhosibl iddynt wneud, dylai Cadeirydd y Bwrdd roi gwybod am hyn i’r Gofrestrfa, ac ni ddylid gwneud argymhelliad am unrhyw ddyfarniad nac am beidio â dyfarnu. Yn yr amgylchiadau hyn, gellir galw ar Arholwr Dyfarnu Allanol ychwanegol, gweler nodyn Ng isod.
Mae’r arholiad lIafar yn rhan annatod o’r broses arholi ar gyfer gradd ymchwil, ac iddo’r amcanion penodol a nodir uchod, a gofynnir i Arholwyr wneud ymdrech i osgoi rhoi’r argraff ar unrhyw adeg yn ystod yr arholiad lIafar nad yw’r arholiad lIafar, mewn unrhyw fodd, yn fwy na ffurfioldeb
1. Y meini prawf ar gyfer dyfarnu Gradd PhD
Gall gradd Doethur mewn Athroniaeth gael ei dyfarnu gan y Brifysgol i gydnabod y IIwyddwyd i gwblhau cynllun o waith astudio ac ymchwilio pellach y bernir bod ei ganlyniadau yn gyfraniad gwreiddiol at ddysg ac yn rhoi tystiolaeth o astudio systematig ac o’r gallu i gysylltu canlyniadau astudiaeth o’r fath a’r corff cyffredinol o wybodaeth yn y pwnc.
Wrth bwyso a mesur teilyngdod traethawd ymchwil a gyflwynir wrth ymgeisio am radd PhD, rhaid i’r Arholwyr gadw mewn cof safon a chwmpas y gwaith y mae’n rhesymol disgwyl i fyfyriwr galluog a diwyd ei gyflwyno ar ôl cyfnod oddwy neu dair blynedd (fel y bo’n briodol) o astudio amser-lIawn, neu gyfnod cyfatebol o astudio rhan-amser.
Ar ôl cwblhau gradd Doethur, bydd graddedigion wedi cyrraedd Lefel D fel y’i diffinnir gan Framework for Higher Education Qualifications in England, Wales and Northern Ireland yr ASA.
2. Y meini prawf ar gyfer dyfarnu PhD drwy Weithiau Cyhoeddedig
Bydd y meini prawf ar gyfer dyfarnu Gradd Doethur mewn Athroniaeth drwy Weithiau Cyhoeddedig yr un fath a’r meini prawf a sefydlwyd ar gyfer Gradd PhD. Gellir diffinio gweithiau cyhoeddedig fel gweithiau sydd ar gael yn gyhoeddus neu sydd o leiaf wedi eu derbyn i gael eu cyhoeddi (ar yr amod y gall yr ymgeisydd roi prawf digonol bod hynny’n wir). Fel rheoI, ni ddylai gweithiau a gyflwynir i’w harholi fod wedi eu cyhoeddi fwy na deng mlynedd cyn y dyddiad cofrestru.
Ar ôl cwblhau gradd Doethur, bydd graddedigon wedi cyrraedd Lefel D fel y’i diffinnir gan Framework for Higher Education Qualification in England, Wales and Northern Ireland yr ASA.
3. Y meini prawf ar gyfer dyfarnu Gradd MPhil
Gall gradd Athro mewn Athroniaeth gael ei dyfarnu gan y Brifysgol i gydnabod y IIwyddwyd i gwblhau cwrs astudio ac ymchwilio pellach y bernir bod ei ganlyniadau yn arfarniad a dadansoddiad beirniadol o gorff o wybodaeth ac/neu yn gyfraniad gwreiddiol at wybodaeth.
Ar ôl cwblhau gradd MPhil, bydd graddedigion wedi cyrraedd Lefel M o leiaf, fel y’i diffinnir gan Framework for Higher Education Qualifications in England, Wales and Northern Ireland yr ASA
-
8. Canlyniadau’r Arholiad
Yn dilyn yr Arholiad Llafar:
Dylai’r Arholydd Allanol gwblhau Adran 1.2 (Adroddiad ar yr Arholiad Llafar), ac os yw’n briodol, Adran 1.3 (Materion O bryder neu ddiddordeb cyffredinol... .. ). Yna, mewn cydweithrediad a’r Arholydd Mewnol, dylai’r Arholydd Allanol gwblhau Adran 3 (Cyd-adroddiad gan yr Arholwyr Mewnol ac Allanol).
Yna dylai’r Arholwyr drefnu gyda Chadeirydd y Bwrdd Arholi eu bod yn cwblhau ac yn lIofnodi’r ffurflen derfynol, Argymhelliad Ffurfiol y Bwrdd Arholi ar Ganlyniad yr Adroddiad. Dylai’r canlyniad priodol gael ei nodi drwy dicio’r blwch perthnasol (gweler isod am nodiadau ar yr opsiynau gwahanol). Yna dylai’r Arholwyr a Chadeirydd y Bwrdd lofnodi’r ffurflen gan nodi’r dyddiad. Atgoffir yr Arholwyr unwaith eto fod gan yr ymgeiswyr yr hawl i ofyn am gael gweld unrhyw sylwadau a wneir amdanynt yn yr adroddiadau hyn.
Efallai yr hoffai aelodau Byrddau Arholi nodi’r sylwadau canlynol ar yr opsiynau gwahanol sy’n agored iddynt o dan y Rheoliadau ar gyfer Cyflwyno ac Arholi Traethodau Ymchwil:
(a) dylid cymeradwyo’r ymgeisydd am y radd yn ddarostyngedig ar iddo neu iddi gwblhau’r cyfryw gywiriadau sy’n ofynnol gan y Bwrdd Arholi.
Gellir pasio traethawd yn amodol ar gywiro mân wallau neu wallau teipio cyn adneuo’r gwaith yn y lIyfrgelloedd. Gallai’r cyfryw wallau, er enghraifft, gynnwys atalnodi gwael, camsillafu, brawddegau nad ydynt yn gwbl glir, graffiau, ffigurau neu ffotograffau wedi eu labelu’n wael, nad ydynt yn tynnu oddi wrth farn yr Arholwyr fod darn cadarn o waith wedi ei gyflwyno. Dylai fod yn bosibl cwblhau’r cywiriadau o fewn cyfnod o bedair wythnos waith o ddyddiad yr hysbysiad swyddogol o ganlyniad yr arholiad i’r ymgeisydd gan Gynullydd y Bwrdd Arholi. Sylwer y bydd gofyn i ymgeiswyr nad ydynt yn cwblhau’r cywiriadau o fewn y terfyn amser penodedig dalu’r tâl ailgyflwyno yn lIawn.
Rhaid i’r Bwrdd Arholi bennu y dylid bodloni’r naill Arholydd a/neu’r lIall fod y mân gywiriadau wedi eu cwblhau cyn i’r broses ddyfarnu gael ei dechrau ac arwyddo pa un ohonynt ddylai fod yn gyfrifol am gytuno bod cywiriadau wedi cael eu cwblhau’n foddhaol.
(b) y dylid cymeradwyo’r ymgeisydd am y radd yn ddarostyngedig ar iddo neu iddi gwblhau y cyfryw gywiriadau a newidiadau sy’n ofynnol gan y Bwrdd Arholi.
Gellir pasio traethawd yn amodol ar gywiro mân wallau cyn adneuo’r gwaith yn y lIyfrgelloedd. Gallai’r cyfryw wallau, er enghraifft, gynnwys ailysgrifennu neu ailweithio brawddegau neu baragraffau nad ydynt yn tynnu oddi wrth farn yr Arholwyr fod darn cadarn o waith wedi ei gyflwyno ac sy’n bosibl eu cwblhau o fewn cyfnod hyd at chwe mis o ddyddiad yr hysbysiad swyddogol o ganlyniad yr arholiad i’r ymgeisydd gan Gynullydd y Bwrdd Arholi. Sylwer y bydd gofyn i ymgeiswyr nad ydynt yn cwblhau’r cywiriadau o fewn y terfyn amser penodedig dalu’r tâl ailgyflwyno yn lIawn.
Rhaid i’r Bwrdd Arholi bennu y dylid bodloni’r naill Arholydd a/neu’r lIall fod y mân gywiriadau wedi eu cwblhau cyn i’r broses ddyfarnu gael ei dechrau ac arwyddo pa un ohonynt ddylai fod yn gyfrifol am gytuno bod cywiriadau wedi cael eu cwblhau’n foddhaol.
(c) na ddylid cymeradwyo’r ymgeisydd am y radd ond dylid canlatau iddo neu iddi ddiwygio’r traethawd a’i ailgyflwyno am y radd ar un achlysur arall drwy dalu tâl ailgyflwyno.
Os yw’r Arholwyr yn cytuno bod cynllun a chyflawniad yr ymchwil yn wallus a/neu os oes angen ail-weithio sylweddol ar y traethawd ei hun naill ai am resymau deallusol neu am rai’n ymwneud â’r cyflwyniad, gallant - ar yr amod y gallant weld peth tystiolaeth fod y ymgeisydd yn gallu gwneud yr addasiadau sy’n ofynnol (a all gymryd rhai misoedd o waith dyfal) - ganiatáu i’r ymgeisydd ailgyflwyno’r gwaith. Bydd y gwaith yn cael ei ailgyflwyno o fewn cyfnod nad yw’n fwy 12 mis o’r dyddiad pan roddir gwybod yn swyddogol i’r ymgeisydd o ganlyniad yr arholiad gan y Brifysgol.
Gallai’r diffygion gynnwys, er enghraifft, ddarnau annarllenadwy neu rai wedi eu dadlau’n wael, ffigurau, graffiau neu ffotograffau o safon isel, neu gamddehongli rhai data. Dylai’r Arholwyr fod yn fodlon fod yr ymgeisydd yn ymwybodol o’r hyn y mae’n ei wneud, fod y gwaith ar y cyfan yn ymdrin â’r problemau neu’r materion a godir, ond bod y modd y cyflawnir hyn yn y traethawd yn gofyn am addasu ar raddfa y gall yr awdur ei wneud mewn cyfnod o waith dyfal, di-dor.
Mae'n bosibl hefyd i'r Bwrdd Arholi argymell, yn achos canlyniad (c), gymeradwyo'r ymgeisydd am radd MPhil ar gyfer y traethawd yn ei ffurf bresennol, pe bai'r ymgeisydd yn methu ailgyflwyno'r traethawd ar gyfer PhD.
Mewn achosion o'r fath, rhaid bod y Bwrdd Arholi wedi'i fodloni'n llwyr fod y traethawd yn cwrdd â'r meini prawf ar gyfer dyfarnu MPhil yn amodol ar fân gywiriadau i'w cwblhau cyn y dyddiad cau ar gyfer ailgyflwyno. Os bydd y Bwrdd Arholi yn dewis yr argymhelliad hwn, rhaid i'r Cadeirydd sicrhau
- Fod y myfyriwr yn cael ei gynghori ynghylch y mân gywiriadau fydd angen eu gwneud;
- Fod y myfyriwr yn cwblhau'r cywiriadau hynny cyn y dyddiad cau ar gyfer ailgyflwyno;
- Fod y traethawd, fel arall, heb ei newid o'r arholiad gwreiddiol;
- Fod y myfyriwr yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Academaidd i ofyn am ddyfarnu MPhil; a
- Bod y traethawd yn cael ei labelu'n gywir fel MPhil ac yn cael ei gyflwyno yn y ffurf(iau) priodol i'r llyfrgelloedd a'r gadwrfa electronig
DS. Ni chaniateir yr opsiwn hwn mewn perthynas a gwaith sydd wedi ei ailgyflwyno.
Ar gyfer graddau doethur yn unig (heblaw PhD drwy Weithiau Cyhoeddedig):
(d) na ddylid cymeradwyo’r ymgeisydd am radd PhD, ond y dylid ei gymeradwyo yn lle hynny am radd MPhil yn ddarostyngedig ar iddo neu iddi gwblhau’r cyfryw fân gywiriadau sy’n ofynnol gan y Bwrdd Arholi.
Gellir barnu bod traethawd, ar sail cwmpas, ymagwedd, cyflawniad, gwreiddioldeb ac ati, yn methu â chyrraedd y safon sy’n ofynnol i ddyfarnu gradd PhD, ond ei fod yn haeddu dyfarnu MPhil. Ni ellir dyfarnu gradd MPhil ond i ymgeiswyr sydd wedi cyflwyno gwaith sy’n gyfartal â’r gwaith a wneir ar gwrs Athro estynedig ac sy’n cynnwys elfen sylweddol o ymchwil neu ymchwiliad cyfwerth. Wrth benderfynu a ddylid argymell y dylid dyfarnu MPhil i ymgeisydd, rhaid i’rArholwyr fod yn fodlon y bodlonwyd yn lIawn feini prawf y Brifysgol ar gyfer dyfarnu Gradd MPhil (gweler Adran F).
Cyhyd â bod y gofynion academaidd yn cael eu bodloni, gellir dyfarnu’r MPhil, yn amodol ar i fân wallau neu wallau teipio gael eu cywiro cyn i’r gwaith gael ei adneuo yn y lIyfrgelloedd. Gallau’r cyfryw wallau gynnwys, er enghraifft, atalnodi gwael, camsillafu, brawddegau nad ydynt yn gwbl eglur, graffiau, ffigurau neu ffotograffau wedi eu labelu’n wael, nad ydynt yn tynnu oddi wrth farn yr Arholwyr fod darn cadarn o waith wedi ei gyflwyno ac y gellir eu cwblhau o fewn cyfnod o bedair wythnos waith o ddyddiad yr hysbysiad swyddogol o ganlyniad yr arholiad i’r ymgeisydd gan Gynullydd y Bwrdd Arholi. Sylwer y bydd gofyn i ymgeiswyr nad ydynt yn cwblhau’r cywiriadau o fewn y terfyn amser penodedig dalu’r tâl ailgyflwyno yn lIawn.
Rhaid i’r Bwrdd Arholi bennu y dylid bodloni’r naill Arholydd a/neu’r lIall fod y mân gywiriadau wedi eu cwblhau cyn i’r broses ddyfarnu gael ei dechrau ac arwyddo pa un ohonynt ddylai fod yn gyfrifol am gytuno bod cywiriadau wedi cael eu cwblhau’n foddhaol.
Rhaid i Gadeirydd y Bwrdd Arholi sicrhau bod fersiwn terfynol y traethawd yn cael ei labelu'n gywir fel MPhil. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn achosion lle cyflwynwyd y traethawd yn wreiddiol i'w arholi fel PhD a'i labelu felly.
Ar gyfer graddau doethur (heblaw PhD drwy Weithiau Cyhoeddedig) yn unig:
(e) na ddylid cymeradwyo’r ymgeisydd am radd PhD, ond dylid caniatáu iddo neu iddi ddiwygio’r traethawd a’i ailgyflwyno am radd MPhil ar un achlysur arall, drwy dalu tâl arholi.
Gellir barnu bod traethawd yn methu â bodloni’r safon sy’n ofynnol ar gyfer dyfarnu gradd PhD, ond y dylid caniatáu i’r ymgeisydd ei addasu a’i ailgyflwyno am radd MPhil drwy dalu’r ffi lawn.
Os yw cynllun y chyflawniad yr ymchwil yn wallus a/neu os oes angen ail-weithio sylweddol ar y traethawd ei hun naill ai am resymau deallusol neu am rai’n ymwneud â’r cyflwyniad, gall yr Arholwyr - ar yr amod y gallant weld peth tystiolaeth fod yr ymgeisydd yn gallu gwneud yr addasiadau sy’n ofynnol (a all gymryd rhai misoedd, yn hytrach nag wythnosau, o waith dyfal) ganiatáu i’r ymgeisydd ailgyflwyno’r gwaith ar un achlysur arall yn unig o fewn un flwyddyn o ddyddiad hysbysiad swyddogol o ganlyniad yr arholiad i’r ymgeisydd gan y Brifysgol.
Dylai'r traethawd gael ei ail-labelu yn briodol fel traethawd MPhil pan gyflwynir ef i'w arholi ar gyfer y radd honno.
DS. Ni chaniateir yr opsiwn hwn mewn perthynas â gwaith sydd wedi ei ailgyflwyno.
(f) na ddylid cymeradwyo’r ymgeisydd am radd
Dylid barnu bod traethawd yn methu, heb unrhyw ddarpariaeth ar gyfer ailgyflwyno am raddau PhD na MPhil, os yw cynllun a chyflawniad yr ymchwil yn wallus i’r fath raddau nad oes sail i’r Arholwyr gredu y gall yr ymgeisydd ei achub.
-
9. Cwblhau’r Broses Arholi
Rhaid i’r Cadeirydd ofalu bod pob adran o’r Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad yn cael ei chwblhau yn syth ar ôl yr arholiad lIafar a bod pob adran yn dwyn y lIofnodion priodol.
Os yw’r ymgeisydd yn IIwyddiannus:
Mae’r Brifysgol yn gofyn bod Arholwyr yn dychwelyd traethodau wedi eu rhwymo dros dro yn uniongyrchol at Gadeirydd/Cynullydd y Bwrdd Arholi ar ôl i’r arholiad gael ei gwblhau. Pan fo’r ymgeisydd wedi pasio, ond lle mae angen gwneud mân gywiriadau neu rai teipograffig i’r gwaith, dylai’r Cadeirydd/Cynullydd drefnu gyda’r ymgeisydd fod y cywirladau angenrheidiol yn cael eu gwneud a bod y ddau gopi o’r traethawd yn cael eu rhwymo’n barhaol yn y modd a fynnir er mwyn eu gosod yn y lIyfrgelloedd. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwneud y cywiriadau angenrheidiol a rhwymo’r gwaith. Unwaith y bydd hyn wedi ei wneud i foddhad y Cadeirydd/Cynullydd, dylai ef/hi anfon y Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad i’r Gofrestrfa. Ni ddylai’r ffurflen gael ei hanfon i’r Gofrestrfa nes bod y gwaith wedi ei rwymo’n barhaol.
Mae’r Cynullydd/Ysgrifennydd yn adneuo copïau o’r traethodau IIwyddiannus fel a ganlyn:
- 1 copi’n uniongyrchol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU
- 1 copi I Lyfrgell y Brifygol
Rhaid dileu unrhyw nodiadau neu sylwadau ar yr ymylon a wneir gan yr arholwyr cyn gosod y traethodau yn y Llyfrgelloedd.
Yn ogystal â’r cyfrolau mewn rhwymiadau parhaol a roddir yn y lIyfrgelloedd, mae’n rhaid i’r ymgeiswyr adneuo copi electronig o fersiwn terfynol y traethawd yng Nghadwrfa Ymchwil Sefydliadol y Brifysgol. Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod traethodau sy’n cael eu hadneuo felly yn cael eu rhoi ar gael i gadwrfeydd a chwiliaduron allanol, gan gynnwys casgliad digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chronfa ddata’r Llyfrgell Brydeinig o draethodau ymchwil y DU.
Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr lofnodi datganiad y cadarnhau bod cynnwys y copi electronig a roddwyd i’r gadwrfa electronig yn union yr un peth a’r copi a adneuwyd yn y Llyfrgell, a bod yr ymgeisydd wedi cael caniatad hawlfraint priodol ar gyfer cynnwys unrhyw destun neu ddeunydd gan drydydd parti, fel y bydd modd i’r gwaith gael ei ddefnyddio yn gyfreithlon mewn cadwrfa agored-i-bawb.
Dylai’r deunydd a roddir i’r gadwrfa sefydliadol gydymffurfio a chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Pan fydd gwahardd ar fynediad i draethawd, ni chaiff ei adneuo yn y gadwrfa electronig agored-i-bawb nes bod y gwahardd hwnnw yn dod i ben.
Os yw’r ymgeisydd yn aflwyddiannus:
Rhaid i’r myfyriwr gael sylwadau clir ac ysgrifenedig ar y pwyntiau a oedd, ym marn yr Arholwyr, yn cyfiawnhau’r penderfyniad i fynnu bod rhaid ailgyflwyno’r traethawd ymchwil. Y Cadeirydd sy’n gyfrifol am gasglu’r sylwadau a sicrhau eu bod yn cyrraedd yr ymgeisydd. Yna, mae rheidrwydd ar y myfyriwr i sicrhau bod y traethawd ymchwil a ailgyflwynir yn rhoi sylw clir i’r pwyntiau hynny.
Rhaid i’r ddau gopi o draethawd sy’n aflwyddiannus gael eu dychwelyd i’r ymgeisydd. Rhaid dileu unrhyw nodiadau neu sylwadau ar yr ymylon a wneir gan yr Arholwyr cyn dychwelyd y traethodau i’r ymgeisydd.
Os ceir anghydfod rhwng yr Arholwyr ynglŷn â chanlyniad yr arholiad, ni ddylid lIofnodi rhan Argymhelliad Ffurfiol y Bwrdd Arholi ar Ganlyniad yr Arholiad ond dylai’r Cadeirydd roi gwybod i’r Swyddfa Academaidd. Bydd y Swyddfa Academaidd yn cyhoeddi canllawiau a ffurflenni adroddiad i’w defnyddio gan Arholwyr Dyfarnu Allanol.
Mae’r adran ganlynol yn Rheol Sefydlog 20 yn gymwys ym mhob achos o’r fath:
45. Lle y bo dadl yn codi rhwng yr Arholwr Allanol a’r Arholwr neu’r Arholwyr Mewnol, dylai’r Arholwyr a’r Cadeirydd farcio’r Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad arferol er mwyn dangos na fu modd i’r Bwrdd gytuno ar argymhelliad.
Mewn achos o’r fath, mae o fewn pwer yr Is-Ganghellor i droi at Arholwr Allanol arall y gofynnir iddo neu iddi ddyfarnu.
Wrth ddewis Arholwr Dyfarnu Allanol, caiff yr Is-Ganghellor ystyried unrhyw adroddiadau ysgrifenedig a gyflwynir gan aelodau’r Bwrdd Arholi a chaiff hefyd ystyried unrhyw enwebiad a wneir gan y Bwrdd gwreiddiol - ond nid oes yn rhaid iddo neu iddi fod yn rhwym wrtho.
Pan benodir ef neu hi gan yr Is-Ganghellor, bydd yr Arholwr Dyfarnu Allanol yn cael oddi wrth y Gofrestrfa gopi o waith yr ymgeisydd ynghyd ag adroddiadau’r arholwyr gwreiddiol a’r ‘Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad’ a’r ‘Nodiadau ar gyfer Arholwyr Dyfarnu Allanol’.
Wrth ystyried gwaith yr ymgeisydd, gall Arholwr Dyfarnu Allanol ddewis cyfeirio at adroddiadau’r Arholwyr gwreiddiol neu beidio (ac, os felly, pryd y gallai wneud) Hefyd gall ddewis cynnal arholiad lIafar pellach ac, os cynhelir un, p’un a ellir gwahodd yr Arholwyr gwreiddioll fod yn bresennol ai peidio.
Pan fo’r Arholwr Dyfarnu Allanol wedi gorffen ystyried y gwaith, dylid hysbysu Cadeirydd y Bwrdd Arholi am y canlyniad yn y lle cyntaf. Bydd y Cadeirydd yn trefnu bod y ‘Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad’ yn cael ei lIenwi, ei lIofnodi a’i dychwelyd i’r Gofrestrfa