6. Adroddiad Ysgrifenedig
Bwriedir Ffurflenni Adroddiad a Chanlyniad yr Arholwyr ar gyfer adroddiadau’r Arholwyr Mewnol ac AIIanol ac i’w defnyddio gan y Bwrdd Arholi cyfan i wneud ei argymhelliad ffurfiol i’r Brifysgol parthed canlyniad yr arholiad. Atgoffir yr Arholwyr fod gan ymgeiswyr, o dan delerau Deddf Diogelu Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, yr hawl i ofyn am gael gweld unrhyw sylwadau a wneir amdanynt yn yr adroddiad hyn. Mynnir hefyd ffurflen adroddiad mewn achosion o ailgyflwyno.
Dylai’r Arholydd AIIanol lenwi rhan 1.1 y ffurflen (Adroddiad ar y Traethawd) a dylai fynd â’r ffurflen gyfan i’r arholiad lIafar. Dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi drefnu bod adroddiad yr Arholydd Mewnol yn cael ei deipio yn Adran 2 (Adroddiad yr Arholydd Mewnol ar y Traethawd) neu fel arall yn cael ei atodi wrthi.
Dylai ffurf a chynnwys adroddiadau’r arholwyr fod yn ddigon manwl i ganiatáu i aelodau staff y Brifysgol asesu cwmpas ac arwyddocâd y traethawd ac i werthfawrogi ei gryfderau a’i wendidau. Dylai’r adroddiadau, cyhyd ag y bo modd, gael eu mynegi mewn termau sy’n ddealladwy i rai nad ydynt yn arbenigwyr ym maes arbennig y traethawd.
Wrth gwblhau eu hadroddiadau, gofynnir i’r Arholwyr ymdrin â’r pwyntiau penodol canlynol:
• Crynhoi a dadansoddi’r ddadl
• Strwythur a chydlyniad
• Methodoleg
• Cyflwyniad
• Gwreiddioldeb a chyfraniad i ddysg
• A ellid cyhoeddi’r gwaith a sut