9. Cwblhau’r Broses Arholi
Rhaid i’r Cadeirydd ofalu bod pob adran o’r Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad yn cael ei chwblhau yn syth ar ôl yr arholiad lIafar a bod pob adran yn dwyn y lIofnodion priodol.
Os yw’r ymgeisydd yn IIwyddiannus:
Mae’r Brifysgol yn gofyn bod Arholwyr yn dychwelyd traethodau wedi eu rhwymo dros dro yn uniongyrchol at Gadeirydd/Cynullydd y Bwrdd Arholi ar ôl i’r arholiad gael ei gwblhau. Pan fo’r ymgeisydd wedi pasio, ond lle mae angen gwneud mân gywiriadau neu rai teipograffig i’r gwaith, dylai’r Cadeirydd/Cynullydd drefnu gyda’r ymgeisydd fod y cywirladau angenrheidiol yn cael eu gwneud a bod y ddau gopi o’r traethawd yn cael eu rhwymo’n barhaol yn y modd a fynnir er mwyn eu gosod yn y lIyfrgelloedd. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwneud y cywiriadau angenrheidiol a rhwymo’r gwaith. Unwaith y bydd hyn wedi ei wneud i foddhad y Cadeirydd/Cynullydd, dylai ef/hi anfon y Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad i’r Gofrestrfa. Ni ddylai’r ffurflen gael ei hanfon i’r Gofrestrfa nes bod y gwaith wedi ei rwymo’n barhaol.
Mae’r Cynullydd/Ysgrifennydd yn adneuo copïau o’r traethodau IIwyddiannus fel a ganlyn:
- 1 copi’n uniongyrchol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU
- 1 copi I Lyfrgell y Brifygol
Rhaid dileu unrhyw nodiadau neu sylwadau ar yr ymylon a wneir gan yr arholwyr cyn gosod y traethodau yn y Llyfrgelloedd.
Yn ogystal â’r cyfrolau mewn rhwymiadau parhaol a roddir yn y lIyfrgelloedd, mae’n rhaid i’r ymgeiswyr adneuo copi electronig o fersiwn terfynol y traethawd yng Nghadwrfa Ymchwil Sefydliadol y Brifysgol. Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod traethodau sy’n cael eu hadneuo felly yn cael eu rhoi ar gael i gadwrfeydd a chwiliaduron allanol, gan gynnwys casgliad digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chronfa ddata’r Llyfrgell Brydeinig o draethodau ymchwil y DU.
Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr lofnodi datganiad y cadarnhau bod cynnwys y copi electronig a roddwyd i’r gadwrfa electronig yn union yr un peth a’r copi a adneuwyd yn y Llyfrgell, a bod yr ymgeisydd wedi cael caniatad hawlfraint priodol ar gyfer cynnwys unrhyw destun neu ddeunydd gan drydydd parti, fel y bydd modd i’r gwaith gael ei ddefnyddio yn gyfreithlon mewn cadwrfa agored-i-bawb.
Dylai’r deunydd a roddir i’r gadwrfa sefydliadol gydymffurfio a chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Pan fydd gwahardd ar fynediad i draethawd, ni chaiff ei adneuo yn y gadwrfa electronig agored-i-bawb nes bod y gwahardd hwnnw yn dod i ben.
Os yw’r ymgeisydd yn aflwyddiannus:
Rhaid i’r myfyriwr gael sylwadau clir ac ysgrifenedig ar y pwyntiau a oedd, ym marn yr Arholwyr, yn cyfiawnhau’r penderfyniad i fynnu bod rhaid ailgyflwyno’r traethawd ymchwil. Y Cadeirydd sy’n gyfrifol am gasglu’r sylwadau a sicrhau eu bod yn cyrraedd yr ymgeisydd. Yna, mae rheidrwydd ar y myfyriwr i sicrhau bod y traethawd ymchwil a ailgyflwynir yn rhoi sylw clir i’r pwyntiau hynny.
Rhaid i’r ddau gopi o draethawd sy’n aflwyddiannus gael eu dychwelyd i’r ymgeisydd. Rhaid dileu unrhyw nodiadau neu sylwadau ar yr ymylon a wneir gan yr Arholwyr cyn dychwelyd y traethodau i’r ymgeisydd.