Rheoliadau ar gyfer Cyflwyno Traethodau Ymchwil a'u Harholi
-
Terfynau Amser ac Estyniadau
1. Y disgwyl yw y bydd ymgeiswyr yn cyflwyno eu traethodau ymchwil o fewn y terfyn amser a osodir gan y rheoliadau. Gall y Brifysgol atal ymgeisyddiaeth neu estyn terfyn amser, ond dim ond mewn achosion eithriadol.
2. Fel arfer caiff ataliadau/estyniadau eu caniatáu ar sail dosturiol yn unig, neu mewn achosion o salwch, anawsterau domestig difrifol, ymrwymiadau proffesiynol gormodol neu anawsterau ymchwil na chawsant eu rhag-weld pan fo modd dangos eu bod wedi cael effaith niweidiol ar yr ymgeisydd. Rhaid cyflwyno achos llawn a rhesymegol, wedi ei gefnogi gan dystiolaeth feddygol addas neu dystiolaeth annibynnol arall, i'w ystyried gan y Brifysgol. Yn achos ymgeiswyr sy'n cyfeirio at ymrwymiadau proffesiynol eithriadol, rhaid cyflwyno gyda'r cais gadarnhad a disgrifiad ysgrifenedig gan y cyflogwr o'r pwysau gwaith eithriadol sydd ar yr ymgeisydd.
3. Rhaid cyflwyno datganiad clir, yn dangos bod yr adran berthnasol wedi asesu'r sefyllfa y mae'r ymgeisydd ynddi a'i bod yn ystyried bod y cais am estyniad yn briodol. Dylai hwn gynnwys amserlen waith yn arwain at gyflwyno o fewn y terfyn amser estynedig a gynigir. Dylai’r ymgeisydd hefyd ddarparu datganiad ysgrifenedig.
4. Rhaid cyfeirio ceisiadau am ataliadau/estyniadau drwy oruchwylydd a Chyfadran yr ymgeisydd i Ysgol y Graddedigion.
-
Cyflwyno ac Iaith y Traethawd Ymchwil
5. Heb fod yn hwy na thri mis cyn y disgwylir cyflwyno, bydd yr ymgeisydd yn llenwi ffurflen Bwriad i Gyflwyno, a bydd hynny’n cychwyn y gweithdrefnau ar gyfer arholi, gan gynnwys yr Adran/Cyfadran yn enwebu arholwr/arholwyr allanol. Disgwylir i arholwyr allanol gael eu penodi cyn cyflwyno. Bydd hyn yn sicrhau y gall y broses arholi ddechrau’n brydlon wedi cyflwyno.
6. At ddibenion yr arholiad, bydd ymgeiswyr yn cyflwyno copi electronig o’r traethawd ymchwil a fydd yn cynnwys:
i. crynodeb heb fod yn hwy na thri chant o eiriau;
ii. datganiad, wedi ei lofnodi gan yr ymgeisydd, yn dangos i ba raddau y mae'r gwaith a gyflwynir yn ganlyniad ymchwil yr ymgeisydd ei hun; cydnabyddir ffynonellau eraill gan droednodiadau sy'n rhoi cyfeiriadau penodol. Rhaid cynnwys llyfryddiaeth lawn yn atodiad i'r gwaith;
iii. datganiad, wedi ei lofnodi gan yr ymgeisydd, i dystio nad yw'r gwaith eisoes wedi ei dderbyn yn ei hanfod am unrhyw radd, ac nad yw’n cael ei gyflwyno yr un pryd mewn ymgeisyddiaeth am unrhyw radd;
iv. datganiad wedi ei lofnodi ynghylch argaeledd y traethawd, yn nodi bod y traethawd ymchwil, os bydd yn llwyddiannus, ar gael i'w adneuo yng nghadwrfa ymchwil electronig y brifysgol ac ar gyfer ei fenthyg yn rhyng-lyfrgellol neu i'w lun-gopïo (yn ddarostyngedig i gyfraith hawlfraint), naill ai ar unwaith neu ar ôl diwedd unrhyw waharddiad neu embargo; ac y gellir trefnu bod y teitl a'r crynodeb ar gael i gyrff allanol. Os oes gweithiau creadigol yn rhan o’r cyflwyniad, dim ond y sylwebaeth feirniadol fydd yn cael ei chyhoeddi fel arfer. Bydd teitl a chrynodeb o’r traethawd ymchwil ar gael am ddim.7. Mae ymgeisydd yn rhydd i gyhoeddi'r cyfan neu ran o'r gwaith a gynhyrchir yn ystod cyfnod cofrestru'r ymgeisydd yn y Brifysgol cyn ei gyflwyno fel traethawd ymchwil cyfan, neu ran o draethawd ymchwil. Gellir ymgorffori'r cyfryw waith cyhoeddedig yn y traethawd ymchwil a gyflwynir i'r Brifysgol yn nes ymlaen.
8. Caiff unrhyw ymgeisydd sy'n dilyn cynllun astudio neu ymchwil yn y Brifysgol ddewis cyflwyno traethawd ymchwil neu waith arall yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Mae'n ofynnol i ymgeisydd sy'n dymuno cael ei asesu neu ei hasesu mewn iaith (h.y. y Gymraeg neu'r Saesneg) heblaw prif iaith yr hyfforddi/asesu ar gyfer y cynllun o dan sylw hysbysu Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg erbyn y dyddiad cau a bennir gan y Brifysgol. Yna dylai'r swyddog enwebedig gysylltu â Chadeirydd y Bwrdd Arholi ynghylch y canlynol:
i. y cyfryw drefniadau y bydd eu hangen o bosibl (e.e. darparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd) ar gyfer yr arholiad llafar;
ii. y trefniadau angenrheidiol, y mae'n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo – ar gais Cadeirydd y Bwrdd Arholi – gan yr arholwr neu'r arholwyr, ar gyfer cyfieithu a/neu farcio’r gwaith;
iii. cyflogi person neu bersonau addas i weithredu fel arholwr neu arholwyr ymgynghorol neu – am ffi gymeradwyedig – fel cyfieithydd neu gyfieithwyr.9. Ar adegau, gellir barnu ei bod yn briodol cyflwyno traethawd ymchwil mewn iaith heblaw'r Gymraeg / Saesneg am resymau ysgolheigaidd. Yn y cyfryw achosion, gall Pennaeth Ysgol y Graddedigion ganiatáu cyflwyniad o'r fath, lle bydd achos rhesymedig wedi ei wneud i'w gymeradwyo, fel rheol cyn i'r ymgeisydd gofrestru ar gyfer astudio. Rhaid i’r adran amlinellu trefniadau addas ar gyfer goruchwylio ac arholi’r traethawd ymchwil er mwyn cadarnhau na fydd cyfaddawdu ar ansawdd profiad dysgu’r myfyriwr na safonau’r dyfarniad. Ni chymeradwyir ceisiadau sy'n seiliedig ar ddiffyg gallu'r ymgeisydd i gynhyrchu gwaith i'w gyflwyno yn naill ai'r Gymraeg neu'r Saesneg.
10. Disgwylir i ymgeiswyr sy'n ailgyflwyno traethawd ymchwil sydd wedi methu â bodloni'r arholwyr o'r blaen ailgyflwyno dau eu traethawd ymchwil diwygiedig ynghyd â'r dogfennau hynny a nodir ym mharagraff 6 uchod.
11. Ceir cyfarwyddiadau manwl ar gyflwyno'r traethodau ymchwil yn y Canllawiau a roddir i ymgeiswyr sydd ar fin cyflwyno eu traethawd ymchwil.
12. Os yw'n fodlon bod achos prima facie dros gyfeirio'r traethawd ymchwil i'w arholi'n fanwl, bydd Ysgol y Graddedigion sicrhau bod y traethawd ymchwil ar gael i’r ddau arholwr. Ni ddylai’r adran na’r ymgeisydd anfon y traethawd ymchwil yn syth at yr arholwr. Mae hyn yn wir hefyd yn achos ailgyflwyno.
13. Ni chaiff ymgeisydd ddiwygio'r traethawd ymchwil, ychwanegu ato na dileu ohono ar ôl ei gyflwyno.
-
Cyfansoddiad y Bwrdd Arholi
14. Bydd pob Bwrdd Arholi yn cynnwys:
- Cadeirydd;
- Arholwr allanol;
- Naill ai arholwr mewnol neu ail arholwr allanol.
15. Yn achos arholi ymgeisydd sy'n aelod o'r staff, bydd dau arholwr allanol ac ni fydd arholwr mewnol. Bydd y rheoliad hwn yn gymwys i ymgeiswyr a oedd yn aelodau o staff yn ystod eu cyfnod cofrestru, a hefyd i’r rheini sy’n dod yn aelodau o staff ar ôl cwblhau cofrestriad myfyriwr ond cyn cyflwyno. Diben hyn yw sicrhau bod yr arholwyr yn wrthrychol, ac yn cael eu gweld felly, ac er mwyn osgoi unrhyw anawsterau y gallai’r ymgeisydd neu’r arholwr eu hwynebu os ydynt yn gyd-weithwyr. Pan mae ymgeiswyr wedi dod yn aelodau o’r staff ar ôl cofrestriad fel myfyriwr, a phan mae natur neu leoliad eu cyflogaeth yn golygu y byddai arholwr mewnol a gynigir yn amlwg yn wrthrychol, gellir cyflwyno’r achos i Bennaeth Ysgol y Graddedigion y dylid cynnal yr arholiad gydag un arholwr mewnol ac un arholwr allanol.
16. Bydd ymgeiswyr sydd, neu sydd yn dyfod ar adeg cyflwyno, yn aelodau o staff mewn sefydliad neu Brifysgol arall yn cael eu harholi fel yn achos ymgeisyddiaethau myfyriwr (h.y. fel arfer gydag un arholwr allanol ac un arholwr mewnol).
17. Gall Penaethiaid Adrannau enwebu aelod uwch o’u staff academaidd i weithredu fel Cadeirydd Bwrdd Arholi. Pan fo Pennaeth Adran/Athrofa hefyd yn oruchwylydd i’r ymgeisydd o dan sylw, rhaid iddynt ddirprwyo’r dasg hon. Bydd Cadeirydd y Bwrdd yn annibynnol yn y broses arholi, a bydd yn gyfrifol am y modd y cynhelir yr arholiad. Bydd y Cadeirydd:
• fel arfer yn Uwch-ddarlithydd neu’n uwch neu â phrofiad addas ar gyfer y rôl;
• fel arfer yn dod o adran(nau) y myfyriwr, ond gellir ei ddewis o adran arall os na ellir canfod unrhyw un addas, er enghraifft, oherwydd gwrthdaro buddiannau neu’r angen am siaradwr Cymraeg;
• yn brofiadol yn goruchwylio ac arholi ymgeiswyr PhD;
• yn gyfarwydd â’r rheoliadau ar gyfer arholiadau llafar ar draethodau ymchwil.18. Bydd yr arholwr/arholwyr allanol yn cael ei benodi/eu penodi yn unol â darpariaethau Llawlyfr Ansawdd Academaidd y Brifysgol. Rhaid iddynt fod yn ymwybodol o natur a phwrpas y radd yr arholir yr ymgeisydd ar ei chyfer a meddu ar wybodaeth arbenigol ac arbenigedd yn nhestun yr ymchwil. Amlinellir meini prawf eraill ar gyfer eu penodi yn y Llawlyfr.
19. Ni ddylid penodi arholwyr allanol y bu ganddynt gysylltiad helaeth â'r ymgeisydd. Mewn achosion lle bu cysylltiad helaeth, dylid rhoi gwybod am fanylion natur y cysylltiad i Ysgol y Graddedigion ei ystyried yn ystod y broses benodi. Ceir rhagor o wybodaeth yn y canllawiau ar gyfer byrddau arholi a’r ffurflen Bwriad i Gyflwyno.
20. Dylai’r arholwr mewnol fel arfer:
- fod yn aelod o staff o adran(nau) y myfyriwr, ond gellir ei ddewis o adran gytras lle bo hynny’n addas neu’n ofynnol.
- fod â PhD;
- fod â phrofiad o oruchwylio o leiaf un myfyriwr PhD hyd at gwblhau’n llwyddiannus.
21. Os, o dan amgylchiadau eithriadol, y bydd yn amhosibl penodi arholwr mewnol addas o’r Brifysgol, gall Ysgol y Graddedigion gymeradwyo penodi ail arholwr allanol yn lle arholwr mewnol, wedi’i enwebu gan yr Adran. Dylid bod wedi cymryd pob cam i benodi arholwr mewnol cyn i ail arholwr allanol gael ei ystyried.
22. Ni cheir penodi goruchwylydd yr ymgeisydd yn arholwr mewnol, er y caiff, gyda chaniatâd yr ymgeisydd ymlaen llaw, gael ei wahodd gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi i fod yn bresennol yn yr arholiad llafar mewn capasiti ymgynghorol.
23. Gall Cadeirydd y Bwrdd Arholi wahodd unigolion addas eraill i fynychu’r arholiad llafar mewn capasiti ymgynghorol.
24. Dylai'r arholwyr gael traethawd ymchwil yr ymgeisydd ac unrhyw ddeunyddiau cysylltiedig a'r canllawiau sy'n angenrheidiol ar gyfer cynnal yr arholiad. Gofynnir i'r Cadeirydd, a'r arholwyr, nodi bod y Brifysgol yn disgwyl, fel arfer, y dylid cwblhau arholi’r ymgeisydd o fewn cyfnod o ddeuddeg wythnos waith o ddyddiad anfon y traethawd ymchwil i'r arholwyr.
-
Ymddygiad Academaidd Annerbyniol
25. Un o ddibenion yr arholiad llafar yw pennu mai gwaith yr ymgeisydd ei hun yw’r traethawd ymchwil. Os amheuir ei bod yn bosibl bod ymddygiad academaidd annerbyniol wedi digwydd mewn traethawd ymchwil a gyflwynwyd, dylid ei gyfeirio at y Gofrestrfa Academaidd. Os bydd hyn yn digwydd cyn yr arholiad llafar, gellir gohirio’r arholiad hwnnw nes bod yr honiad o ymddygiad academaidd annerbyniol wedi’i ddatrys. Os bydd y Bwrdd Arholi, yn ystod yr arholiad llafar, yn amau ymddygiad academaidd annerbyniol, gellir oedi’r canlyniad tra cynhelir ymchwiliad. Dylai unrhyw ymddygiad academaidd annerbyniol a amheuir wedi i ganlyniad gael ei gyhoeddi neu wedi i’r radd gael ei dyfarnu gael ei gyfeirio i’r Gofrestrfa Academaidd hefyd. Gall canlyniadau a dyfarniadau gael eu diddymu os canfyddir bod ymddygiad academaidd annerbyniol wedi digwydd.
-
Cynnal yr Arholiad
26. Mae’n ofynnol i’r Bwrdd Arholi gynnal arholiad llafar ar gyfer ymgeiswyr ym mhob achos ac eithrio pan fydd traethawd ymchwil sydd wedi’i ailgyflwyno yn cael ei arholi. Dan yr amgylchiad hwn, gellir hepgor y gofyniad hwn ar ddisgresiwn y Bwrdd Arholi os yw wedi dod i’r farn fod y traethawd ymchwil yn amlwg yn cyrraedd y safon i basio heb newidiadau, neu â chywiriadau neu newidiadau mân iawn yn unig. Mewn amgylchiadau eraill eithriadol, gellir hepgor arholiad llafar ar gyfer ailgyflwyniad gyda chymeradwyaeth y Bwrdd Arholi a Phennaeth Ysgol y Graddedigion. Bydd y Cadeirydd yn cynghori’r ymgeisydd ynghylch y trefniadau a wnaed ar gyfer yr arholiad llafar.
27. Rhaid i’r unigolion canlynol fod yn bresennol yn yr arholiad llafar:
i. Y Cadeirydd;
ii. Yr Arholwr/Arholwyr Allanol;
iii. Yr Arholwr/Arholwyr Mewnol os oes angen un.28. Rhaid i’r arholiad llafar gael ei gynnal fel arfer yn y Brifysgol. Fodd bynnag, gall Pennaeth Ysgol y Graddedigion, dan amgylchiadau eithriadol, ganiatáu i arholiad llafar gael ei gynnal yn rhywle arall. Ni ddylai arfer o’r fath, fodd bynnag, fod yn fwy costus na chynnal arholiad llafar yn y Brifysgol ei hun.
29. Gyda chymeradwyaeth Pennaeth Ysgol y Graddedigion, gellir cynnal arholiad llafar trwy ddulliau electronig. Bydd canllawiau manwl ar y broses gymeradwyo a’r protocolau ar gyfer cynnal yr arholiad ar gael o’r Gofrestrfa Academaidd.
30. Gall myfyrwyr hefyd dynnu sylw’r Bwrdd Arholi at unrhyw amgylchiadau arbennig a allai effeithio ar eu perfformiad yn ystod yr arholiad llafar neu sydd wedi effeithio ar y traethawd ymchwil. Dylid nodi'r rhain ar y ffurflen Bwriad i Gyflwyno lle bo hynny'n bosibl. Yna bydd yr Ysgol Graddedigion yn ymgynghori â Cymorth i Fyfyrwyr a Chadeirydd y Bwrdd fel y bo'n briodol i roi addasiadau ar waith a briffio’r arholwyr.
31. Dim ond pan wahoddir ef/hi i wneud hynny gan y Cadeirydd y caniateir i oruchwylydd sy’n bresennol mewn arholiad llafar siarad.
32. Bydd gan oruchwylydd neu oruchwylwyr yr ymgeisydd yr hawl i fynegi wrth Gadeirydd y Bwrdd Arholi unrhyw bryderon sy'n berthnasol i brosiect ymchwil yr ymgeisydd, i'r traethawd ymchwil sy'n deillio o'r prosiect hwnnw neu i'r arholiad ar y traethawd ymchwil, y mae'r goruchwylydd neu'r goruchwylwyr yn credu y dylai'r Bwrdd eu cymryd i ystyriaeth cyn dod i’w benderfyniad. Bydd y goruchwylydd neu'r goruchwylwyr yn mynegi'r pryderon hyn, yn ysgrifenedig, i'r Cadeirydd a'r ymgeisydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r traethawd ymchwil gael ei gyflwyno a, sut bynnag, yn ddigon cynnar i ganiatáu digon o amser i'r ymgeisydd ystyried y pwyntiau a wnaed a pharatoi ymateb cyn i'r traethawd ymchwil gael ei arholi (gan gynnwys unrhyw arholiad llafar).
33. Cyfrifoldeb Cadeirydd y Bwrdd Arholi fydd sicrhau bod yr ymgeisydd yn fodlon â'r amser a ganiateir i ystyried y pwyntiau a wnaed gan y goruchwylydd neu'r goruchwylwyr, ac i ymateb iddynt, a sicrhau datganiad ysgrifenedig swyddogol gan yr ymgeisydd yn cadarnhau hyn.
34. Bydd y Bwrdd Arholi yn ystyried unrhyw gyflwyniad ysgrifenedig i’r Cadeirydd gan oruchwylydd neu oruchwylwyr yr ymgeisydd ac unrhyw ymateb gan yr ymgeisydd yn unol â'r darpariaethau yn union uchod.
35. Ni fydd yr arholiad llafar yn cael ei recordio.
36. Ar ôl cwblhau’r arholi, bydd y Cadeirydd yn sicrhau bod y ffurflen adroddiad dros dro a’r canlyniad yn cael eu cwblhau ac y rhoddir copi ohoni i’r myfyriwr. Rhaid i’r Cadeirydd sicrhau bod y ffurflen Adroddiad a Chanlyniad a’r adroddiad dros dro yn cael eu cwblhau a bod Ysgol y Graddedigion yn cael gwybod y canlyniad. Bydd y ffurflen Adroddiad a Chanlyniad yn cynnwys adroddiad yr arholwr allanol (gan gynnwys adroddiad ar yr arholiad llafar), adroddiad yr arholwr mewnol, adroddiad arholwyr ar y cyd (os mynnir) ac argymhelliad ffurfiol y Bwrdd Arholi o’r canlyniad. Rhaid i daflen yr argymhelliad ffurfiol o’r canlyniad gofnodi union benderfyniad y Bwrdd Arholi a rhaid iddi gael ei llofnodi gan y Cadeirydd, yr arholwr/arholwyr allanol a’r arholwr/arholwyr mewnol, ond nid gan unrhyw berson sy’n bresennol mewn capasiti ymgynghorol.
37. Os oes angen ailarholi’r traethawd ymchwil neu wneud cywiriadau, y Cadeirydd sy’n gyfrifol am drefnu casglu a darparu adborth i’r ymgeisydd a’r goruchwylydd adeg yr arholiad llafar, neu yn fuan wedyn.
38. Wedi iddi dderbyn y ffurflen Adroddiad a Chanlyniad wedi’i chwblhau, a, lle bo’n addas, cadarnhad bod yr holl gywiriadau sy’n ofynnol wedi’u gwneud, bydd y Gofrestrfa Academaidd yn rhoi gwybod i’r ymgeisydd beth yw’r canlyniad terfynol.
39. Rhaid dychwelyd pob copi o draethawd ymchwil sydd wedi methu i’r ymgeisydd unwaith y bo’r broses arholi (a gwrandawiad unrhyw achos apêl yn sgil hynny) wedi ei chwblhau.
-
Argymell am ddyfarniad
42. Gall Byrddau Arholi argymell un o’r opsiynau canlynol:
-
Yn achos ymgeiswyr ar gyfer Gradd PhD
a. bod yr ymgeisydd yn cael ei gymeradwyo ar gyfer gradd PhD ar yr amod ei fod yn cwblhau unrhyw fân gywiriadau sy’n ofynnol gan y Bwrdd Arholi. Dylai cywiriadau gael eu cwblhau o fewn cyfnod o bedair wythnos waith o ddyddiad hysbysu’r ymgeisydd yn swyddogol o ganlyniad yr arholiad. Gall y Bwrdd fynnu bod y cywiriadau’n cael eu harchwilio gan y naill arholwr neu’r llall, neu’r ddau, cyn i’r broses ddyfarnu gael ei chychwyn.
b. bod yr ymgeisydd yn cael ei gymeradwyo ar gyfer gradd PhD ar yr amod ei fod yn cwblhau unrhyw gywiriadau a newidiadau sy’n ofynnol gan y Bwrdd Arholi. Rhaid i gywiriadau a newidiadau gael eu cwblhau o fewn cyfnod o hyd at chwe mis o ddyddiad hysbysu’r ymgeisydd yn swyddogol o ganlyniad yr arholiad. Gall y Bwrdd fynnu bod y cywiriadau’n cael eu harchwilio gan y naill arholwr neu’r llall, neu’r ddau, cyn i’r broses ddyfarnu gael ei chychwyn.
c. * na chymeradwyir bod yr ymgeisydd yn cael gradd PhD ond y caniateir iddo addasu’r traethawd ymchwil a’i ailgyflwyno am radd PhD ar un achlysur arall, gan dalu ffi ailgyflwyno. Gellir caniatáu un cyfle i ymgeisydd ailgyflwyno’r gwaith. Dylai’r ailgyflwyno ddigwydd o fewn cyfnod heb fod yn hwy na deuddeg mis. Bydd y broses gyflwyno ac arholi yr un fath ag yr oedd ar gyfer y cyflwyno cyntaf.
d. na chymeradwyir bod yr ymgeisydd yn cael gradd PhD, ond yn hytrach ei fod yn cael ei gymeradwyo am radd MPhil ar yr amod ei fod yn cwblhau unrhyw fân gywiriadau sy’n ofynnol gan y Bwrdd Arholi. Dylai cywiriadau gael eu cwblhau o fewn cyfnod o bedair wythnos waith o ddyddiad hysbysu’r ymgeisydd yn swyddogol o ganlyniad yr arholiad. Gall y Bwrdd fynnu bod y cywiriadau’n cael eu harchwilio gan y naill arholwr neu’r llall, neu’r ddau, cyn i’r broses ddyfarnu gael ei chychwyn.
e. * na chymeradwyir bod yr ymgeisydd yn cael gradd PhD ond y caniateir iddo addasu’r traethawd ymchwil a’i ailgyflwyno am radd MPhil, gan dalu ffi ailgyflwyno. Gellir caniatáu un cyfle i ymgeisydd ailgyflwyno’r gwaith. Dylai’r ailgyflwyno ddigwydd o fewn cyfnod heb fod yn hwy na blwyddyn o ddyddiad hysbysu’r ymgeisydd yn swyddogol o ganlyniad yr arholiad.
f. na chymeradwyir bod gradd yn cael ei dyfarnu i’r ymgeisydd.
* Nid yw’r opsiynau hyn ar gael yn achos ymgeiswyr sydd wedi ailgyflwyno traethawd ymchwil i’w arholi.
-
Yn achos ymgeiswyr ar gyfer gradd MPhil
a. bod yr ymgeisydd yn cael ei gymeradwyo ar gyfer y radd yr oedd yn ei cheisio ar yr amod ei fod yn cwblhau unrhyw fân gywiriadau sy’n ofynnol gan y Bwrdd Arholi. Dylai cywiriadau gael eu cwblhau o fewn cyfnod o bedair wythnos waith o ddyddiad hysbysu’r ymgeisydd yn swyddogol o ganlyniad yr arholiad. Gall y Bwrdd fynnu bod y cywiriadau’n cael eu harchwilio gan y naill arholwr neu’r llall, neu’r ddau, cyn i’r broses ddyfarnu gael ei chychwyn.
b. bod yr ymgeisydd yn cael ei gymeradwyo ar gyfer y radd yr oedd yn ei cheisio ar yr amod ei fod yn cwblhau unrhyw gywiriadau a newidiadau sy’n ofynnol gan y Bwrdd Arholi. Rhaid i gywiriadau/newidiadau gael eu cwblhau o fewn cyfnod o ddeuddeg wythnos waith o ddyddiad hysbysu’r ymgeisydd yn swyddogol o ganlyniad yr arholiad.
c. * na chymeradwyir bod yr ymgeisydd yn cael y radd yr oedd yn ei cheisio ond y caniateir iddo addasu’r traethawd ymchwil a’i ailgyflwyno, gan dalu ffi ailgyflwyno. Gellir caniatáu un cyfle i ymgeisydd ailgyflwyno’r gwaith. Dylai’r ailgyflwyno ddigwydd o fewn cyfnod heb fod yn hwy na blwyddyn o ddyddiad hysbysu’r ymgeisydd yn swyddogol o ganlyniad yr arholiad.
d. na chymeradwyir dyfarnu gradd MPhil i’r ymgeisydd.
* Nid yw'r opsiynau hyn ar gael yn achos ymgeiswyr sydd wedi ailgyflwyno traethawd ymchwil ar gyfer ei arholi.
-
Arholwr Cymrodeddol
43. Pan fydd anghydfod yn codi rhwng yr arholwr allanol a’r arholwr/arholwyr mewnol neu’r ddau arholwr allanol, dylai’r Arholwyr a’r Cadeirydd farcio’r ffurflen Adroddiad a Chanlyniad arferol er mwyn dangos nad yw’r Bwrdd wedi gallu cytuno ar argymhelliad. Mewn achos o’r fath bydd Pennaeth Ysgol y Graddedigion yn troi at arholwr allanol arall, a gofynnir iddo/iddi gymrodeddu. Wrth ddewis Arholwr Allanol Cymrodeddol, bydd yn rhaid i Bennaeth Ysgol y Graddedigion ystyried unrhyw adroddiadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan aelodau’r Bwrdd Arholi a gallant ystyried hefyd unrhyw enwebiad a wnaed gan y Bwrdd gwreiddiol, er na fydd yn rhaid iddynt fod yn rhwym wrth yr enwebiad hwnnw.
44. Wrth gael ei benodi/phenodi, rhoddir i Arholwr Allanol Cymrodeddol gopi o waith yr ymgeisydd ynghyd ag adroddiadau’r arholwyr gwreiddiol a’r ‘Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad’ a ‘Nodiadau ar gyfer Arholwyr Allanol Cymrodeddol’. Wrth ystyried gwaith yr ymgeisydd, gall Arholwr Allanol Cymrodeddol ddewis a yw’n cyfeirio at adroddiadau’r arholwyr gwreiddiol ai peidio (ac os ydyw, pryd y mae’n gwneud hynny). Gall hefyd ddewis cynnal arholiad llafar pellach ac, os yw’n gwneud hynny, a fydd yr arholwyr gwreiddiol yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol ai peidio.
45. Pan fydd yr Arholwr Allanol Cymrodeddol wedi gorffen ystyried y gwaith, dylid rhoi gwybod am y canlyniad i Gadeirydd y Bwrdd Arholi, yn y lle cyntaf. Bydd y Cadeirydd yn trefnu i’r ‘Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad’ gael ei chwblhau, ei llofnodi a’i dychwelyd i’r Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd.
-
Gweithdrefn Apelio
46. Gall ymgeiswyr nad yw’r Bwrdd Arholi yn argymell dyfarnu iddynt y radd y bu iddynt gyflwyno eu traethawd ymchwil ar ei chyfer apelio yn erbyn y penderfyniad y daethpwyd iddo. Bydd y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn rhoi gwybod iddynt beth yw’r weithdrefn apelio.
-
Mynediad i Draethodau Ymchwil
47. Bydd dau gopi o bob gwaith a gymeradwyir gan yr arholwyr yn dod yn eiddo i’r Brifysgol. Rhaid i’r Cadeirydd drefnu i un copi caled o draethawd ymchwil llwyddiannus gael ei adneuo yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ac i ail gopi gael ei adneuo yn Llyfrgell y Brifysgol. Yn ogystal â’r cyfrolau rhwymedig parhaol sy’n cael eu hadneuo yn y llyfrgelloedd, rhaid i ymgeiswyr ddarparu copi electronig o’r fersiwn derfynol o’r traethawd ymchwil i’w adneuo yng Nghadwrfa Ymchwil y Brifysgol. Bydd traethodau ymchwil a metadata traethodau ymchwil a adneuir yn y modd hwnnw yn cael eu darparu gan y Brifysgol i gadwrfeydd allanol gan gynnwys casgliad digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru a databas y Llyfrgell Brydeinig o draethodau ymchwil y DU.
48. Disgwylir i’r ymgeisydd lofnodi datganiad yn nodi bod y copi electronig a adneuwyd yn y gadwrfa electronig yn union yr un fath o ran ei gynnwys â’r un a adneuwyd yn y Llyfrgell, a bod yr ymgeisydd wedi cael y caniatâd hawlfraint addas i gynnwys unrhyw gynnwys gan drydydd parti yn y traethawd ymchwil fel y gellir darparu’r gwaith yn gyfreithlon mewn cadwrfa mynediad agored. Dylai deunydd a dderbynnir ar gyfer y gadwrfa gydymffurfio â chanllawiau a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth.
49. Fel arfer bydd copi caled o draethawd ymchwil a gyflwynwyd am un o raddau uwch y Brifysgol ar gael yn agored ac ni fydd yn destun unrhyw ddiogelwch na chyfyngu ar fynediad iddo. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr wneud cais am naill ai atal llungopïo a/neu fynediad i’r traethawd ymchwil am gyfnod penodedig o hyd at bum mlynedd, neu iddo beidio â bod ar gael yng Nghadwrfa Ymchwil y Brifysgol. Rhaid i unrhyw argymhelliad i atal mynediad gael ei wneud i’r Brifysgol trwy gyfrwng y Pwyllgor Graddau Ymchwil neu ei Gadeirydd, gan yr Athrofa ar ôl ystyried cais gan oruchwylydd yr ymgeisydd, gyda chefnogaeth y Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig. Cyfrifoldeb y goruchwylydd fydd gwneud y cais cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl. Yn ddelfrydol, dylai hyn fod adeg cofrestru cynllun ymchwil yr ymgeisydd. Rhaid i’r argymhelliad gynnwys datganiad o’r seiliau y gwneir y cais arnynt. Mae’r rhan fwyaf o geisiadau fel hyn yn cael eu gwneud ar sail sensitifrwydd masnachol yr ymchwil, sydd o bosibl wedi’i noddi’n rhannol gan gorff masnachol neu ddiwydiannol.
50. Yn dilyn arholiad llwyddiannus, rhaid i Gadeirydd y Bwrdd Arholi roi gwybod i Lyfrgellydd y Brifysgol, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Gadwrfa Ymchwil na chaniateir mynediad i’r gwaith am gyfnod penodedig. Bydd y cyfnod a gymeradwyir yn cael ei gyfrifo o’r dyddiad pan fydd y Brifysgol yn rhoi gwybod yn swyddogol i’r ymgeisydd ei fod ef/hi wedi cymhwyso am radd. Pan fo mynediad i draethawd ymchwil wedi’i atal, ni fydd yn cael ei adneuo yng Nghadwrfa Ymchwil y Brifysgol nac yn unrhyw gadwrfa electronig mynediad agored arall hyd nes y daw’r cyfnod atal mynediad i ben.
51. Gall yr Athrofa gymeradwyo cais gan y myfyriwr na ddylai’r traethawd ymchwil fod ar gael yng Nghadwrfa Ymchwil y Brifysgol. Dylid datgan hyn yn glir yn y datganiadau sy’n cyd-fynd â’r traethawd ymchwil. Nid yw hyn gyfystyr ag atal mynediad i’r traethawd ymchwil.
-
Derbyn i Radd
52. Gall ymgeiswyr sydd wedi cymhwyso ar gyfer graddau uwch gael eu derbyn i’w graddau unwaith y mae’r arholiad wedi’i gwblhau a bod y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion wedi derbyn argymhelliad y Bwrdd Arholi i ddyfarnu’r radd – ar y ffurflen Adroddiad a Chanlyniad – ynghyd â chadarnhad bod yr holl gywiriadau oedd yn ofynnol wedi’u cwblhau a bod yr arholwyr yn fodlon arnynt.