Mynediad i Draethodau Ymchwil
47. Bydd dau gopi o bob gwaith a gymeradwyir gan yr arholwyr yn dod yn eiddo i’r Brifysgol. Rhaid i’r Cadeirydd drefnu i un copi caled o draethawd ymchwil llwyddiannus gael ei adneuo yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ac i ail gopi gael ei adneuo yn Llyfrgell y Brifysgol. Yn ogystal â’r cyfrolau rhwymedig parhaol sy’n cael eu hadneuo yn y llyfrgelloedd, rhaid i ymgeiswyr ddarparu copi electronig o’r fersiwn derfynol o’r traethawd ymchwil i’w adneuo yng Nghadwrfa Ymchwil y Brifysgol. Bydd traethodau ymchwil a metadata traethodau ymchwil a adneuir yn y modd hwnnw yn cael eu darparu gan y Brifysgol i gadwrfeydd allanol gan gynnwys casgliad digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru a databas y Llyfrgell Brydeinig o draethodau ymchwil y DU.
48. Disgwylir i’r ymgeisydd lofnodi datganiad yn nodi bod y copi electronig a adneuwyd yn y gadwrfa electronig yn union yr un fath o ran ei gynnwys â’r un a adneuwyd yn y Llyfrgell, a bod yr ymgeisydd wedi cael y caniatâd hawlfraint addas i gynnwys unrhyw gynnwys gan drydydd parti yn y traethawd ymchwil fel y gellir darparu’r gwaith yn gyfreithlon mewn cadwrfa mynediad agored. Dylai deunydd a dderbynnir ar gyfer y gadwrfa gydymffurfio â chanllawiau a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth.
49. Fel arfer bydd copi caled o draethawd ymchwil a gyflwynwyd am un o raddau uwch y Brifysgol ar gael yn agored ac ni fydd yn destun unrhyw ddiogelwch na chyfyngu ar fynediad iddo. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr wneud cais am naill ai atal llungopïo a/neu fynediad i’r traethawd ymchwil am gyfnod penodedig o hyd at bum mlynedd, neu iddo beidio â bod ar gael yng Nghadwrfa Ymchwil y Brifysgol. Rhaid i unrhyw argymhelliad i atal mynediad gael ei wneud i’r Brifysgol trwy gyfrwng y Pwyllgor Graddau Ymchwil neu ei Gadeirydd, gan yr Athrofa ar ôl ystyried cais gan oruchwylydd yr ymgeisydd, gyda chefnogaeth y Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig. Cyfrifoldeb y goruchwylydd fydd gwneud y cais cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl. Yn ddelfrydol, dylai hyn fod adeg cofrestru cynllun ymchwil yr ymgeisydd. Rhaid i’r argymhelliad gynnwys datganiad o’r seiliau y gwneir y cais arnynt. Mae’r rhan fwyaf o geisiadau fel hyn yn cael eu gwneud ar sail sensitifrwydd masnachol yr ymchwil, sydd o bosibl wedi’i noddi’n rhannol gan gorff masnachol neu ddiwydiannol.
50. Yn dilyn arholiad llwyddiannus, rhaid i Gadeirydd y Bwrdd Arholi roi gwybod i Lyfrgellydd y Brifysgol, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Gadwrfa Ymchwil na chaniateir mynediad i’r gwaith am gyfnod penodedig. Bydd y cyfnod a gymeradwyir yn cael ei gyfrifo o’r dyddiad pan fydd y Brifysgol yn rhoi gwybod yn swyddogol i’r ymgeisydd ei fod ef/hi wedi cymhwyso am radd. Pan fo mynediad i draethawd ymchwil wedi’i atal, ni fydd yn cael ei adneuo yng Nghadwrfa Ymchwil y Brifysgol nac yn unrhyw gadwrfa electronig mynediad agored arall hyd nes y daw’r cyfnod atal mynediad i ben.
51. Gall yr Athrofa gymeradwyo cais gan y myfyriwr na ddylai’r traethawd ymchwil fod ar gael yng Nghadwrfa Ymchwil y Brifysgol. Dylid datgan hyn yn glir yn y datganiadau sy’n cyd-fynd â’r traethawd ymchwil. Nid yw hyn gyfystyr ag atal mynediad i’r traethawd ymchwil.